Hyfforddiant Creadigol ac Arloesol
Ein nod ar gyfer y dyfodol yw parhau i wasanaethu anghenion bythol cyfnewidiol y diwydiant creadigol dwyieithog. Byddan ni'n cyflawni hyn drwy redeg hyfforddiant creadigol ac arloesol gyda ffocws pendant.
Gweithio gyda'r Diwydiant
Bydd modd cyrraedd ein nod drwy weithio'n agos gyda Skillset Cymru a chofleidio strategaethau ei Fframwaith Hyfforddi Tasglu. Rydym hefyd yn bwriadu parhau i gynnal ein perthnasau gyda'r cwmnïau annibynnol a darlledwyr yng Nghymru.
Bydd cydweithio gyda'r sectorau Addysg Uwch a Phellach hefyd yn chwarae rhan gynyddol bwysig.