Cwestiynnau Cyffredin
Ydw i'n gymwys ar gyfer cyrsiau wedi eu ariannu gan ESF?
O Hydref 2011 ymlaen bydd Cyfle yn cynnig ystod o gyrsiau a cynlluniau fydd yn addas ar gyfer rheiny sydd UNAI yn byw neu yn gweithio mewn ardaloedd Cronfa Gymdeithasol Ewrop o Gymru. Bydd y cyrsiau perthnasol yn cael eu amlygu ar y wefan.
Sylwer bod cynnal y cyrsiau yma wedi ei wneud yn bosib drwy Skillset Cymru, a gefnogir gan £2.7m o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Lywodraeth Cymru, gyda gweddill yr arian yn cael ei ddarparu gan y darlledwr Cymraeg S4C, y gymdeithas fasnach ar gyfer cynhyrchwyr ffilm a theledu annibynnol Cymru, Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC).
Prif fwriad rhaglen Sgiliau i’r Economi Ddigidol yw i ddatblygu a dosbarthu darpariaeth sgiliau hyblyg, ar lefel uchel , sy’n cael ei arwain gan y diwydiant ac sy’n addas ar gyfer anghenion cyflogwyr a pobl llawrydd y Cyfryngau Creadigol sy’n byw ac yn gweithio yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, gan gefnogi’r economi gwybodaeth a diogelu perfformiad a chynhychedd y sector yn yr ardaloedd yma. Bydd y prosiect hefyd yn ceisio cynnyddu’n sylweddol y cyfleoedd hyfforddiant ar gyfer Newydd Ddyfodiaid/Pobl Broffesiynol Iau yn yr ardaloedd yma.
Ar sail hyn, bydd rhaid i fynychwyr y cyrsiau yma fod unai yn byw neu yn gweithio o fewn yr ardaloedd Cydgyfeiriant h.y.
- Ynys Môn
- Gwynedd
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Ceredigion
- Sir Gaerfyrddin
- Sir Benfro
- Abertawe
- Nedd Port Talbot
- Penybont
- Merthyr Tydful
- Rhondda Cynon Taf
- Torfaen
- Caerffili
- Blaenau Gwent
Cliciwch yma i weld map o'r ardaloedd cymwys.
___________________
Cysylltwch â Shân am sgwrs am sut y gallwch dderbyn nawdd i dalu am eich hyfforddiant ar 01286 668003 neu ebostiwch shan@cyfle.co.uk
Ydych chi'n gweithio'n agos gyda diwydiant ar eich cyrsiau?
Gyda dros 24 mlynedd o weithio’n agos gyda diwydiant y cyfryngau creadigol yng Nghymru, yn ogystal ag led-led Prydain ac yn rhyngwladol, mae gan Cyfle restr helaeth o gysylltiadau yn y diwydiant.
O ddarparu lleoliadau diwydiannol i osod briffiau byd-real, dyma'r cysylltiadau sydd yn sicrhau bod Cyfle yn cynnig hyfforddiant perthnasol. Maent yn rhan annatod o unrhyw gwrs Cyfle.
Ydych chi'n cynnig hyfforddiant i bobl y tu allan i Gymru?
YDYN.
Er bod rhai o'n cyrsiau wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer unigolion sy'n byw yng Nghymru, mae eraill yn agored i bawb o'r DU.
Os ydi Cyfle wedi derbyn nawdd i gynnal cwrs arbennig bydd y penderfyniad yn cael ei wneud ar sail hynny. Bydd y corff ariannu yn nodi pa ardaloedd daearegol arbennig sydd angen eu targedu.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cwrs penodol, bydd y wybodaeth yma wedi ei nodi'n glir yn y manylion cwrs.
Dwi ddim yn gweithio yn y diwydiannau creadigol. Ga i fynychu cwrs?
Dros y blynyddoedd mae Cyfle wedi cynnig darpariaeth eang o gynlluniau hyfforddi ar gyfer newydd ddyfodiaid i'r diwydiannau creadigol.
Gan ein bod yn hyfforddi mewn niferoedd bychan, ac yn bennaf mewn ymateb i angen gan y diwydiant, mae recriwtio ar gyfer cyrsiau fel arfer ar adegau amrywiol o'r flwyddyn, a gydag unrhywbeth o rai wythnosau i rai misoedd o rybudd.
I sicrhau nad ydych chi'n methu unrhyw ddyddiadau cau i geisio am gyrsiau a cynlluniau, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr, neu ymunwch gyda'r gymuned ar Facebook neu Twitter.
Teledu
Sefydlodd Cyfle ei enw da mewn hyfforddiant ar gyfer y diwydiant o'r dechrau gyda cynlluniau o'r safon uchaf yn y diwydiant teledu. Hyd y cynlluniau hyfforddi yw rhwng 6 a 12 mis ac maent wedi eu cynllunio ar y cyd gyda chwmnïau teledu, darlledwyr ac arianwyr. Mae cynlluniau felly’n newid ac yn addasu’n gyson.
Ffilm
Mae cynlluniau ffilm llawn amser Cyfle yn cynnig cyfleoedd cyffrous i newydd ddyfodiaid sydd â diddordeb brwd mewn gweithio yn y diwydiant ffilm.
Mae Cyfle’n gweithio’n agos iawn gyda’r diwydiant ffilm yn y DU i ddarparu hyfforddiant galwedigaethol ar gynyrchiadau ffilm, cyfleoedd i rwydweithio a mentora gan bobl o’r diwydiant.
Animeiddio
Mae ein cynlluniau animeiddio digidol yn cael eu rhedeg gan y diwydiant ar gyfer y diwydiant ac wedi eu cynllunio i baratoi hyfforddeion ar gyfer swyddi crefftus yn y diwydiant animeiddio cynyddol.
Gyda’r nod o gyfuno animeiddio gyda thechnoleg newydd, mae’r cynllun yn darparu hyfforddiant o’r safon uchaf mewn ac animeiddio digidol sy’n cwrdd ag anghenion y diwydiannau ffilm, teledu, animeiddio a’r cyfryngau rhyngweithiol.
Lloer Ladron, crewyd gan hyfforddeion Lab Animeiddio 2 Cyfle 2008/09 (Cyfle ar Vimeo.)
Aml-Lwyfan a'r Cyfryngau Rhyngweithiol
Mae cynlluniau Cyfle wedi’u datblygu mewn cydweithrediad â’r diwydiant yng Nghymru. Mae’r holl gynlluniau hyfforddi’n sicrhau bod yr unigolion yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol a diweddaraf er mwyn cyflogaeth yn y diwydiant.
Multiplatform gan Cyfle ar Vimeo.
Y diwydiant sy'n cynghori ac yn llywio’r hyfforddiant ac maent wedi eu cynllunio i roi dealltwriaeth a phrofiad real o’r diwydiant drwy hyfforddiant ymarferol arwaith yn hytrach na thrwy ymarferion academaidd / theori.
Cliciwch yma i ymweld â'n tudalen cyrsiau llawn a rhan amser i weld os yw Cyfle'n rhedeg cyrsiau newydd-ddyfodiad ar hyn o bryd.
Mae Cyfle hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau byrion. Mae rhai o'r cyrsiau byrion wedi eu cynllunio'n arbennig ar gyfer y rhai heb unrhyw brofiad yn y diwydiant. Cliciwch yma i weld mwy.
Ydych chi'n cynnig cymhwysterau ffurfiol?
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Diwydiannau’r Cyfryngau Creadigol
Mae Cyfle wedi datblygu Tystysgrifau Ôl-raddedig mewn Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Diwydiannau’r Cyfryngau Creadigol, sy'n cael ei gynnig mewn nifer o feysydd amrywiol, gan gynnwys Cynhyrchu Aml-lwyfan, Ymchwil, Rheolwr Cynhyrchu a Rhaglennu/Datblygu.
Mae’r cymwysterau wedi cael eu datblygu mewn cydweithrediad ag Ysgol y Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd/Prifysgol Morgannwg.
'QUALLS' - Gwobr Dysgu Gydol Oes gyda Gwarant Ansawdd
Mae Cyfle hefyd yn bwriadu datblygu llawer o’i gyrsiau llawn amser a chyrsiau byrion anffurfiol fel 'QUALLS' sef Gwobr Dysgu Gydol Oes gyda Gwarant Ansawdd. Bydd hyn yn rhan o Fframwaith Cymwysterau a Chredydau Cymru ac mewn cydweithrediad gyda Skillset Cymru. Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi cydnabyddiaeth i’r dysgu sydd wedi cymryd lle ac yn gallu dynodi os oes angen rhagor o hyfforddiant.
NVQ Iechyd a Diogelwch
Mae Cyfle hefyd yn cynnig cwrs deuddydd Asesiad Risg Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle, sydd yn arwain at gymhwyster uned NVQ HS03/006. CLICIWCH YMA AM FWY O WYBODAETH AM Y CWRS.
Tystysgrif Lefel 2 ar gyfer Anwytho yn y Diwydiannau Clyweledol (7502)
Mae’r cymhwyster Lefel 2 hwn wedi ei gynllunio i gynnig trosolwg o’r gofynion wrth weithio yn y diwydiant clyweled. Mae’r Dystysgrif yn canolbwyntio ar gyflwyno gwybodaeth realistig fydd yn paratoi dysgwyr ar gyfer y realiti o weithio yn y diwydiant a’u gwneud yn fwy cyflogadwy. Cynnigir hwn i'r rhai hynny sy'n mynychu unrhyw un o gynlluniau hyfforddi llawn amser newydd ddyfodiaid Cyfle.
Pa fath o hyfforddiant ydych chi'n ei gynnig?
Mae Cyfle yn cynnig cyrsiau byrion, llawn amser a rhan amser arloesol. Cynlluniwyd y rhan fwyaf o'r rhain ar gyfer gweithwyr proffesiynol o'r diwydiant sydd eisiau datblygu sgiliau neu symud i yrfa gwahanol, yn ogystal ag ar gyfer newydd ddyfodiaid i'r diwydiant.
Rydym hefyd yn cynnig rhai cyrsiau ar gyfer unigolion o'r tu allan i'r diwydiant sydd eisiau dysgu mwy am sut mae cyfuno'r cyfryngau digidol a'u gwaith/gweithgareddau e.e. cyfryngau cymdeithasol, Apps iPhone.
Pob blwyddyn, mae ein cynlluniau hyfforddi'n parhau i addasu a datblygu yn ôl gofynion y diwydiant. Mae hyn yn digwydd drwy gadw mewn cysylltiad cyson gyda cwmniau, gweithwyr llawrydd, y Cyngor Sector Sgiliau a darlledwyr.
Ewch i'r dudalen cyrsiau i gael gweld pa gyrsiau sydd ar gael ar hyn o bryd.
Gwasanaeth Hyfforddi wedi ei Gynllunio'n Bwrpasol
Mae Cyfle hefyd yn cynnig gwasanaeth hyfforddi wedi ei gynllunio'n bwrpasol. Esiamplau diweddar o hyn ydi cwrs Marchnata Cyfryngau Cymdeithasol a drefnwyd ar gyfer aelodau o staff Cadw, a cyrsiau golygu Final Cut Pro ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Pe bai gennych ddiddordeb mewn siarad gyda Cyfle am weithio mewn partneriaeth ar gwrs sydd wedi ei gynllunio'n bwrpasol ar gyfer ei sefydliad chi, cysylltwch â Iona Williams am sgwrs ar 01286 668003 neu ebostiwch ar iona@cyfle.co.uk
Yw'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol i fynychu cwrs Cyfle?
NAC YDY.
Nid yw'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol i fynychu cyrsiau Cyfle.
Er hyn, yn achlysurol, mae rhai o'n cyrsiau wedi eu creu yn arbennig ar gyfer siaradwyr Cymraeg. Yn yr achos yma, bydd iaith y cwrs yn cael ei nodi'n glir ym manylion y cwrs.
Oes modd cael cymorth ariannol i fynychu eich cyrsiau?
Cyrsiau a Ariannwyd gan ESF
Os hoffech fynychu unrhyw gwrs a ariannwyd gan ESF, neu os oes gennych gwestiynnau ynglyn ag ariannu eich lle ar unrhyw gwrs byr, cysylltwch â Shân am sgwrs am eich cymwysedd ac unrhyw gymorth ariannol allai fod ar gael i chi.
Gellir cysylltu â Shân ar 01286 668003 neu drwy ebostio shan@cyfle.co.uk
___________________________
Bwrsariaethau Skillset Cymru
Grantiau yw Bwrsariaethau Skillset Cymru ar gyfer unigolion sy'n gweithio yn y diwydiant teledu Cymreig ac sydd eisiau buddsoddi mewn hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Rheolir y gronfa gan Skillset a daw'r cyllid o'r darlledwr S4C â'r gymdeithas fasnach Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC).
Mae dwy gronfa ariannu - Bwrsariaethau Llawrydd Skillset Cymru a Bwrsariaethau Skillset Cymru ar gyfer Golygyddion.
Bydd rhaid i chi gysylltu gyda Skillset yn uniongyrchol i drafod y Bwrsariaethau yma. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth
___________________________
Bwrsariaethau Iechyd a Diogelwch Skillset
Mae'r rheiny sy'n gweithio yn y diwydiant ffilm a theledu ac yn mynychu cyrsiau Iechyd a Diogelwch Cyfle bellach yn gymwys ar gyfer cefnogaeth ariannol drwy Fwrsariaethau Iechyd a Diogelwch Skillset.
Ewch i wefan Skillset am fanylion pellach - http://www.skillset.org/funding/individuals/hs_bursaries/index_2.asp
Ydych chi'n cynnig profiad gwaith?
Ydych chi'n cynnig cyngor gyrfaol?
Mae nifer o sefydliadau sydd yn gallu cynnig cyngor gyrfaol defnyddiol. Dyma rai rydym ni'n eu hargymell:
Gyrfaoedd Skillset - gwybodaeth, cyngor ac arweiniad arbenigol (IAG) ar gyfer diwydiannau’r cyfryngau creadigol.
Go Wales - am wybodaeth ynglŷn â gwasanaethau a gwybodaeth yrfaol a sgiliau yn y gweithle.
Gyrfa Cymru - darparu cyngor gyrfaol i bobl o bob oedran.
Oes modd i mi ddarganfod mwy am gyn-hyfforddai Cyfle?
Ers ei sefydlu yn 1986, mae Cyfle wedi hyfforddi miloedd o unigolion ar draws ystod eang o ddisgyblaethau, drwy gyrsiau byrion yn ogystal â rhai llawn amser a rhan amser all redeg am ychydig fisoedd neu ychydig flynyddoedd.
Rydym yn falch iawn o gyn-hyfforddeion/alumni ein cyrsiau llawn a rhan amser, a'r hyn maent wedi ei gyflawni dros y blynyddoedd, a hoffem sicrhau bod pawb yn gwybod am safon eu gwaith.
Dyma pam rydyn ni wedi creu rhestr o ALUMNI CYFLE. Rhestrir yr Alumni yn ôl ‘blwyddyn graddio’.
DDIM AR Y RHESTR? DANFONWCH EICH MANYLION ATOM
Os nad yw eich enw wedi ei restru, rhowch wybod i ni pwy ydych chi, pa gynllun fuoch chi’n ran ohonni, a pha flwyddyn(blynyddoedd) fel y gallwn ddiweddaru’r wybodaeth. Gyrrwch y wybodaeth i caerdydd@cyfle.co.uk.
Beth mae Cyfle wedi ei gyflawni yn ei 25 mlynedd?
2010
Cyfle yn sefydlu perthynas gyda Prifysgol Morgannwg er mwyn cynnig cymhwyster ôl-radd ar ffurf y Dystysgrif Ôl-radd Ymarferiad Proffesiynol yn y Diwydiant Creadigol i hyfforddeion.
2008
Cyfle’n dathlu 21 mlynedd o hyfforddiant. Prif weithgareddau yn cynnwys hyfforddiant Aml-lwyfan arloesol, Ymddiriedaeth a Chydymffurfiaeth, Amddiffyn Plant ac Arwain a Rheoli. Hefyd, cyrsiau newydd ar gyfer cynhyrchwyr ffilm broffesiynol a thargedu pobl anabl i’r diwydiant.
2007
Cyfle yn cynnig cyrsiau newydd Amrywiaeth a Ffilm a hefyd yn cychwyn ei Lab Animeiddio Digidol arloesol 4 mis. Y flwyddyn hon mae Cyfle yn hyfforddi 317 hyfforddi o weithwyr llawrydd, staff cwmnïau a newydd ddyfodiaid - y nifer uchaf erioed. Cyfle hefyd yn rhedeg ei gwrs rhyngwladol cyntaf ac yn sefydlu ei chwaer gwmni, Cyfle International.
2006
Cyfle a BBC Cymru yn cydweithio ar gynlluniau hyfforddi. Yn sgil hyn, fe ddewiswyd Cyfle fel un o’i brif ddarparwyr hyfforddiant.
2005
Cyfle yn bartner diwydiannol Academi Sgrin Cymru. Mae hefyd yn cynnig ei leoliad rhyngwladol cyntaf yn Kuala Lumpur, Malaysia.
2004
Cyfle yn un o Bartneriaid / Darparwyr Hyfforddiant Cydnabyddedig Skillset am y tro cyntaf.
2001
Cyfle yn ymgorffori hyfforddiant dwyieithog. Media Skills Wales yn cau lawr. Hefyd, peilot cwrs Dimensiwn 10 Cyfle a ddatblygodd i gynnig Gradd Diploma Ôl Radd.
2000
Lansiad Cronfa Sgiliau Cymru. Cronfa un pwrpas ar gyfer darpariaeth hyfforddi gweithwyr proffesiynol.
1999
Ymgeisydd Cyfle yn ennill tystysgrif genedlaethol Iechyd a Diogelwch X3 am y tro cyntaf.
1998
Cyfle’n derbyn canmoliaeth Gwobr Hyfforddiant Cenedlaethol.
1997
Canolfan newydd Cyfle yng Nghaerdydd yn rhedeg cwrs newydd ddyfodiad cyntaf ar gyfer y di-gymraeg drwy Broadcast Training Wales, cyn newid i Media Skills Wales.
1995
Cyfle yn ennill statws ‘Buddsoddwyr Mewn Pobl’.
1994
Cyfle yw’r cwmni cyntaf tu allan i Lundain i gyrraedd Statws Canolfan Asesu, wedi’i gymeradwyo gan Skillset, er mwyn cynnig cymwysterau diwydiannol. Cyfle hefyd yn cynnig Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer gweithwyr proffesiynol.
1986
Cyfle’n rhedeg ei gwrs ar leoliad cyntaf drwy’r iaith Gymraeg ar gyfer 7 o newydd ddyfodiaid yng Nghaernarfon.