Delta Digidol - Y Gweithiwr Digidol
Manylion y Cwrs
MAE'R CYNLLUN YMA BELLACH WEDI CAU AR GYFER CEISIADAU. COFRESTRWCH I'N CYLCHLYTHYR NEU DILYNWCH NI AR FACEBOOK/TWITTER I FOD Y CYNTAF I GLYWED AM GYRSIAU TEBYG.
DELTA DIGIDOL - Y GWEITHIWR DIGIDOL
CYNLLUN HYFFORDDI RHAN-AMSER DROS 6 MIS – GELLIR GWEITHIO A HYFFORDDI AR YR UN PRYD!
__________________
R’yn ni’n edrych am unigolion creadigol, talentog, a penderfynol sy’n gobeithio rhoi eu stamp ar ddiwydiant cyfryngau heddiw – Diddordeb?
Prif fwriad y cynllun hyfforddi hwn yw i ddangos beth yw’r posibiliadau, y technegau â’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn gweithio yn y diwydiant cyfryngau aml-lwyfan sydd ohonni heddiw.
Cafodd 100% o’r hyfforddeion fu ar gynllun hyfforddi llawn amser diweddar Cyfle ‘Cynhyrchu Aml-lwyfan ar gyfer Crewyr Teledu’ hyd i waith.
Os ydych chi’n byw unrhywle yn y DU ac yn gallu dangos o leiaf 1 mlynedd o brofiad diwydiant mewn rolau megis Ymchwilwyr, Rhedwyr, Is-gynorthwywyr Cynhyrchu, Golygyddion Cynorthwyol, Is-reolwyr Cynhyrchu a Cydlynwyr ac yn y blaen, efallai mai dyma’r cyfle i chi fynd a’ch gyrfa i’r lefel nesaf.
Ynghŷd â’r uchod y prif meini prawf yw talent, ymroddiad amlwg, penderfyniad a gwybodaeth ymarferol o’r diwydiant.
Bydd y cynllun yn cael ei gynnal dros chwe mis mewn deuddeg sesiwn dau ddiwrnod – perffaith ar gyfer gweithio a hyfforddi ar yr un pryd. Bydd y cyfranogwyr yn gweithio’n unigol ar lein, gyda cefnogaeth helaeth gan diwtoriaid, yn ogystal â chael dosbarthiadau meistr, hyfforddiant arbenigol, a wythnos lawn o gydweithio dwys gyda cyfranogwyr Cynllun ‘Sgwennwr Aml-lwyfan Cyfle i greu prosiect ‘Trawsgyfryngol’ (Transmedia) gwreiddiol.
Hyd Cwrs
6 mis
Dyddiadau’r Cwrs
Mae'r cynllun yn rhedeg o Fawrth 2011 i Hydref 2011
Dyddiad Cau
Mae'r cynllun yma bellach wedi cau ar gyfer ceisiadau.
Tiwtoriaid
Amrywiol.
Arweinydd y Cynllun - Rhys Miles Thomas
Lleoliad
Arianwyr a Cefnogwyr
![]()