Courses

Delta Digidol - 'Sgwennwr Aml-Lwyfan

Manylion y Cwrs

MAE'R CYNLLUN YMA BELLACH WEDI CAU AR GYFER CEISIADAU. COFRESTRWCH I'N CYLCHLYTHYR NEU DILYNWCH NI AR FACEBOOK/TWITTER I FOD Y CYNTAF I GLYWED AM GYRSIAU TEBYG.

Untitled_4PFRH_case_study_m.jpgDELTA DIGIDOL– ‘SGWENNWR AML-LWYFAN

CYNLLUN HYFFORDDI RHAN-AMSER DROS 6 MIS – GELLIR GWEITHIO A HYFFORDDI AR YR UN PRYD!

_________________

R’yn ni’n edrych am unigolion creadigol, talentog, a penderfynol sy’n gobeithio rhoi eu stamp ar ddiwydiant cyfryngau heddiw – Diddordeb?

Prif fwriad y cynllun hyfforddi hwn yw i ddangos beth yw’r posibiliadau, y technegau â’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn gweithio yn y diwydiant cyfryngau aml-lwyfan sydd ohonni heddiw.

Cafodd 100% o’r hyfforddeion fu ar gynllun hyfforddi llawn amser diweddar Cyfle ‘Cynhyrchu Aml-lwyfan ar gyfer Crewyr Teledu’ hyd i waith.

Os ydych chi’n byw unrhywle yn y DU ac yn gallu dangos o leiaf 1 mlynedd o brofiad proffesiynol cyflogedig yn y byd ‘sgwennu creadigol, gall hyn fod mewn Teledu, Radio, Theatr, Gemau ac yn y blaen., efallai mai dyma’r cyfle i chi fynd a’ch gyrfa i’r lefel nesaf.

Ynghŷd â’r uchod y prif meini prawf yw talent, ymroddiad amlwg, penderfyniad a gwybodaeth ymarferol o’r diwydiant.

Bydd y cynllun yn cael ei gynnal dros chwe mis mewn deuddeg sesiwn dau ddiwrnod – perffaith ar gyfer gweithio a hyfforddi ar yr un pryd.

Bydd y cyfranogwyr yn gweithio’n unigol ar lein, gyda cefnogaeth helaeth gan diwtoriaid, yn ogystal â chael dosbarthiadau meistr, hyfforddiant arbenigol, a wythnos lawn o gydweithio dwys gyda cyfranogwyr Cynllun Gweithiwr Digidol Cyfle i greu prosiect ‘Trawsgyfryngol’ (Transmedia) gwreiddiol.

Hyd Cwrs

6 Mis

Dyddiadau’r Cwrs

Mae'r cynllun yn rhedeg o Fawrth 2011 i Hydref 2011

Dyddiad Cau

Mae'r cynllun yma bellach wedi cau ar gyfer ceisiadau.

Tiwtoriaid

Amrywiol.

Arweinydd y Cynllun - Rhys Miles Thomas

Lleoliad

Canolfan Hyfforddi Cyfle, Caerdydd


View Larger Map

Arianwyr a Cefnogwyr

funders

RSS
mailing-list Join our mailing list Join our mailing list Join our mailing list