STWNSH ARCHIF
Manylion y Cwrs
MAE'R CYNLLUN YMA BELLACH WEDI CAU AR GYFER CEISIADAU. COFRESTRWCH I'N CYLCHLYTHYR NEU DILYNWCH NI AR FACEBOOK/TWITTER I FOD Y CYNTAF I GLYWED AM GYRSIAU TEBYG.
STWNSH ARCHIF
Eisiau dysgu sut i greu rhywbeth anghyffredin allan o’r cyffredin?
DYDDIAD CAU DERBYN CEISIADAU – 12yp, Dydd Mercher 8fed o Chwefror 2012
____________________
Mae miloedd o dapiau, rîliau a disgiau o ddeunydd delwedd symudol mewn bodolaeth ac yn byw mewn archifau, llyfrgelloedd a storfeydd led-led y wlad. 
Beth allai gael ei gyflawni gyda’r holl ddeunydd yma?
Pam stopio gyda ‘dogfen ddiddorol am yr Ail Ryfel Byd gyda cyflwynydd enwog…’?
Beth am ‘stwnsh’ i gerddoriaeth, App ar gyfer twristiaid/ymwelwyr, neu raglen gomedi, neu rywbeth hollol wahanol?!
______________________
Mae Cyfle yn gwahodd ceisiadau i gynllun hyfforddi UNIGRYW newydd sbon sydd wedi ei gynllunio i ddysgu’r sgiliau creadigol, arloesol a hanfodol sydd eu hangen ar gyfer creu byd newydd o brofiadau allan o ddeunydd delwedd symudol sydd eisoes yn bodoli.
- Cynllun hyfforddi rhan-amser dros 6 mis, sy’n cael ei ddysgu dros 5 wythnos o gyswllt dosbarth dwys
- Cyfle i greu prosiect personol
- Cefnogaeth ar-lein a mentora unigol
Y 3 prif gyfnod datblygu yn ystod yr hyfforddiant fydd –
- Hanfodion Archif (hanfodion hawlfraint, hawliau clirio ayyb)
- Ail-bwrpasu’n greadigol ac yn fasnachol
- Dosbarthu, marchnata, busnes
______________________
PWY DDYLAI YMGEISIO? –
Rydym yn chwilio am unigolion sydd yn meddu ar ystod eang o brofiadau a/neu cymhwysterau ac sy’n dangos gwir-frwdfrydedd am y pwnc dan sylw, cyn belled a’ch bod chi dros 18 oed, nid yw oedran yn broblem chwaith.
- Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn.
- Mae’r cynllun hwn yn agored i ymgeiswyr sy’n byw yng Nghymru yn unig
Fel enghraifft bydd y cwrs yma yn addas ar gyfer y mathau canlynol o bobl (nid yw’r rhestr hwn yn un cyfyngedig) –
- Cwmnïau Cynhyrchu Teledu – yn enwedig rheiny sydd eisiau ymelwa ar eu archif eu hunain
- Cynhyrchwyr Annibynnol Llawrydd sydd yn dymuno creu cynnwys newydd a chyffrous
- Gwneuthurwyr Ffilm
- Graddedigion Prifysgol sydd eisiau ychwanegu at eu ystod sgiliau a cynnyddu eu cyflogadwyedd
- Awduron/Cyhoeddwyr
- Cwmnïau ac adrannau Marchnata a PR – yn enwedig y rheiny sydd eisiau creu ymgyrchoedd arloesol, creadigol a diddorol
- Athrawon/Darlithwyr – yn enwedig rheiny sydd yn dymuno creu deunyddiau arloesol ar gyfer pwrpasau addysgiadol
- Cerddorion – yn enwedig rheiny sydd eisiau creu deunyddiau hyrwyddo arloesol / fideos cerddorol ayyb
- Cwmnïau Cynhyrchu/Cynhyrchwyr/Crewyr Theatr
- Sefydliadau Celfyddydol a Threftadaeth a Twristiaeth
______________________
EWCH I LAWR Y DUDALEN I WELD Y MEINI PRAWF A’R DREFN YMGEISIO (GAN GYNNWYS Y NODIADAU CANLLAW)
______________________
- Cynhelir cyfweliadau yn ystod wythnos yr 20fed o Chwefror 2012
- Dyddiad dechrau’r cynllun: Dydd Llun, 26th o Fawrth 2012
______________________
MEINI PRAWF A PHROSESAU DETHOL:
Noder os gwelwch yn dda -
- Ni fydd posib i ni dderbyn ceisadau gan unigolion sydd yn astudio yn llawn amser yn ystod cyfnod y cwrs.
- Rhaid i chi fod ar gael ar gyfer cyfnod llawn y cynllun fel sydd wedi ei amlinellu a rhaid ymroi i gwblhau’r holl waith o bell fel bo’r angen.
- Croesawir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg – bydd cyfleon i gynhyrchu gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mae Cyfle yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir.
______________________
GWELER ‘TREFN YMGEISIO’ AM WYBODAETH MANYLACH AR Y MEINI PRAWF (gan gynnwys Sgiliau Hanfodol, Sgiliau Dymuno a Priodoleddau Ymgeisydd)
______________________
Mae’r holl wybodaeth fydd ei angen arnoch i ymgeisio am y cwrs ar gael ar y wefan, ond os teimlwch bod angen sgwrs am rywbeth penodol cysylltwch â Rhys Thomas neu Nadine Roberts ar - 029 2046 5533 / arch@cyfle.co.uk
Hyd Cwrs
6 Mis Rhan-amser
Dyddiadau’r Cwrs
26 o Fawrth - 7 o Fedi 2012
Cost y cwrs
£300
Cefnogaeth Ariannol
Cost yr Hyfforddiant
Oherwydd natur noddedig y cynllun, dim ond ffî o £300 fydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus ei dalu tuag at y costau hyfforddi.
Os byddwch yn llwyddiannus yn ennill lle ar y cynllun hyfforddi hwn mae'n bosib y byddwch yn gymwys ar gyfer derbyn bwrsariaeth drwy Skillset Cymru. Cysylltwch â hwy yn uniongyrchol am wybodaeth drwy'r cyswllt isod:
http://www.skillset.org/funding/individuals/cymru_bursaries/
Proses Ymgeisio
TREFN YMGEISIO:
DARLLENNWCH ‘NODIADAU CANLLAW’R CYNLLUN’ CYN LLENWI’R FFURFLEN GAIS OS GWELWCH YN DDA. Mae’r holl wybodaeth am y cynllun, manyleb person, a manylion sut i geisio yn y ddogfen hon.
Amlinellir y dyddiadau yn y dosbarth yn y Nodiadau Canllaw.
Lawrlwythwch CANLLAWIAU’R CYNLLUN YMA (Word)
Lawrlwythwch CANLLAWIAU’R CYNLLUN YMA (PDF)
______________________
Y BROSES YMGEISIO:
Rhaid i BOB ymgeisydd gwblhau’r Ffurflen Gais â’r Ffurflen Monitro Amrywiaeth -
Y Ffurflen Gais (fersiwn ar-lein – ffafriwn hon)
Fersiwn Addas i Declyn Symudol
Y Ffurflen Gais oddi-ar-lein (ffurf Word – lawrlwythwch yma)
Y Ffurflen Monitro Amrywiaeth (fersiwn ar-lein – ffafriwn hon)
Fersiwn Addas i Declyn Symudol
Y Ffurflen Monitro Amrywiaeth oddi-ar-lein (ffurf Word – lawrlwythwch yma)
Lleoliad
Canolfan Hyfforddi Cyfle, 33-35 Stryd West Bute, Bae Caerdydd CF10 5LH
Arianwyr a Cefnogwyr
Ariannir y cynllun hwn gan Fframwaith Hyfforddiant Skillset Cymru, sydd yn ymagwedd ar y cyd gan Skillset Cymru, y darlledwr iaith Gymraeg S4C a’r gymdeithas fasnach Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC).
