Courses

Delta Digidol 2 - Rhaglenwyr a datblygwyr

Manylion y Cwrs

MAE'R CYNLLUN YMA BELLACH WEDI CAU AR GYFER CEISIADAU. COFRESTRWCH I'N CYLCHLYTHYR NEU DILYNWCH NI AR FACEBOOK/TWITTER I FOD Y CYNTAF I GLYWED AM GYRSIAU TEBYG.

CYNLLUN HYFFORDDI 6 MIS RHAN AMSER

gyda cymhwyster PG Cert neu Gredydau

___________________________

Edrych am ffordd i fewn i fyd gêmau, app’s â’r cyfryngau creadigol?

Ydi’r canlynol yn gyfarwydd i chi?
Javascript / jQuery / HTML / Actionscript / PHP / .Net / Python / Objective-C?

Be’ sy’n cael ei gynnig – mynediad uniongyrchol i bobl broffesiynol o’r diwydiant am gyfnod o chwe mis o ddysgu rhan-amser i fynd â’ch gyrfa i’r lefel nesaf.

Mae Delta Digidol 2 yn gynllun hyfforddi rhan-amser ar gyfer wyth o raglennwyr/datblygwyr, er mwyn -

  • Gwella sgiliau gwyddonwyr cyfrifiadurol gan eu hannog i ddatblygu eu gyrfaoedd ymhellach o fewn y diwydiant Cyfryngau Creadigol.
  • Llenwi’r diffyg sgiliau enfawr o ddatblygwyr gwe a rhaglenwyr gêmau sydd ar hyn o bryd yn mynd i weithio y tu allan i Gymru.
    ___________________________

Cynnigir –

  • Rhaglen dwys o weithdai
  • Hyd at 5 diwrnod yn y dosbarth a 3 wythnos o waith astudio annibynnol y mis am chwe mis (perffaith ar gyfer gweithio a hyfforddi ar yr un pryd)
  • Mynediad i rai o siaradwyr a tiwtoriaid gorau’r diwydiant
  • Cyfres o frîffiau gan y diwydiant – bydd disgwyl i chi gyd-weithio â cyfranogwyr eraill ar-lein ac oddi-ar-lein
  • Mentor profiadol o’r diwydiant, Cynllun Hyfforddi Unigol a cefnogaeth staff Cyfle

Hyd Cwrs

6 mis

Dyddiadau’r Cwrs

Mae'r cwrs yn rhedeg o Awst 2011 i Ionawr 2012

Dyddiad Cau

Mae'r cynllun yma bellach wedi cau ar gyfer ceisiadau.

Tiwtoriaid

Arweinwyr y Cwrs- Aled Bartholomew a Rhys Miles Thomas

Lleoliad

Canolfan Hyfforddi Cyfle, Caerdydd


View Larger Map

Arianwyr a Cefnogwyr

dd2_hUCiN_case_study_l.jpg

RSS
mailing-list Join our mailing list Join our mailing list Join our mailing list