Courses

Dimensiwn Digidol

Manylion y Cwrs

MAE'R CYNLLUN YMA BELLACH WEDI CAU AR GYFER CEISIADAU. COFRESTRWCH I'N CYLCHLYTHYR NEU DILYNWCH NI AR FACEBOOK/TWITTER I FOD Y CYNTAF I GLYWED AM GYRSIAU TEBYG.

Cynllun Hyfforddi NEWYDD ar gyfer y diwydiannau cyfryngau creadigol

 Rhowch fantais i’ch gyrfa yn 2012

_____________________

Ar gael –

  • Rhaglen dwys o weithdai dros 7 mis
  • Hyfforddiant ar-lein ac astudio o bell
  • Mynediad i rai o siaradwyr a tiwtoriaid gorau’r diwydiant
  • Cyfres o frîffiau gan y diwydiant – bydd disgwyl i chi gyd-weithio â cyfranogwyr eraill ar-lein ac oddi-ar-lein
  • Mentor profiadol o’r diwydiant, Cynllun Hyfforddi Unigol a cefnogaeth staff Cyfle

_____________________

Mae Dimensiwn Digidol yn raglen hyfforddi 7 mis mewn cynhyrchu a rheoli aml-lwyfan ar gyfer 12 cyfranogwr sydd unai yn byw a/neu’n gweithio yn ardaloedd cydgyfeiriant Gorllewin Cymru â’r Cymoedd gan gynnwys Gogledd Orllewin Cymru.

Rhaid i’r diwydiant teledu heddiw gystadlu fwy-fwy am gynulleidfa drwy gynhyrchu cynnwys ar gyfer teclynnau symudol, arlein, argraffu, digwyddiadau byw, gemau, cyfryngau rhyngweithiol ac yn y blaen.  Bydd y cynllun hwn yn dysgu i chi’r sgiliau er mwyn creu a cynhyrchu cynnwys diddorol a chyffrous ar gyfer yr holl lwyfannau yma a mwy.

Oes gen ti ddiddordeb mewn dilyn neu datblygu dy yrfa ym myd teledu neu elfennau eraill o’r cyfryngau?  Bydd y cynllun hyfforddi hwn yn rhoi i ti’r sgiliau fyddi di eu hangen i achub y blaen ar y gweddill.

Eisiau gweld be wnaeth eraill ei gyflawni ar gyrsiau aml-lwyfan eraill Cyfle? -

Digital Delta 2011 gan Cyfle ar Vimeo.

Multiplatform gan Cyfle ar Vimeo.

 _____________________

MEINI PRAWF A PROSESAU DETHOL:

Ydw i’n Gymwys?

Sylwer bod cynnal y cyrsiau yma wedi ei wneud yn bosib drwy Skillset Cymru, a gefnogir gan £2.7m o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Lywodraeth Cymru, gyda gweddill yr arian yn cael ei ddarparu gan y darlledwr Cymraeg S4C, y gymdeithas fasnach ar gyfer cynhyrchwyr ffilm a theledu annibynnol Cymru, Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC).

Prif fwriad rhaglen Sgiliau i’r Economi Ddigidol yw i ddatblygu a dosbarthu darpariaeth sgiliau hyblyg, ar lefel uchel , sy’n cael ei arwain gan y diwydiant ac sy’n addas ar gyfer anghenion cyflogwyr a pobl llawrydd y Cyfryngau Creadigol sy’n byw ac yn gweithio yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd gan gynnwys Gogledd Orllewin Cymru, gan gefnogi’r economi gwybodaeth a diogelu perfformiad a chynhychedd y sector yn yr ardaloedd yma. 

Ar sail hyn, bydd rhaid i fynychwyr y cyrsiau yma fod unai yn byw neu yn gweithio o fewn yr ardaloedd Cydgyfeiriant h.y.

  • Ynys Môn
  • Gwynedd
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Ceredigion
  • Sir Gaerfyrddin
  • Sir Benfro
  • Abertawe
  • Castell Nedd Port Talbot
  • Pen-y-bont
  • Merthyr Tydful
  • Rhondda Cynon Taf
  • Torfaen
  • Caerffili
  • Blaenau Gwent

Cliciwch yma i weld map o'r ardaloedd cymwys.

Yn ychwanegol i hyn, rhaid i ymgeiswyr gyflawni’r canlynol - 

  • Bydd gan ymgeiswyr o leiaf 12 mis o brofiad gwaith proffesiynol yn y diwydiannau cyfryngau creadigol.

NEU

  • Bydd ymgeiswyr wedi cwblhau cymhwyster yn llwyddiannus ar lefel gradd neu uwch mewn cyfrifiadureg neu aml-gyfrwng neu bynciau perthnasol eraill yn y diwydiannau cyfryngau creadigol.
  • Rhaid i ymgeiswyr hefyd fod yn 18 oed neu’n hŷn.

_____________________

Noder os gwelwch yn dda -

  • Ni fydd posib i ni dderbyn ceisadau gan unigolion sydd yn astudio yn llawn amser yn ystod cyfnod y cwrs.
  • Rhaid i chi fod ar gael ar gyfer cyfnod llawn y cynllun fel sydd wedi ei amlinellu a rhaid ymroi i gwblhau’r holl waith o bell fel bo’r angen.
  • Croesawir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg – bydd cyfleon i gynhyrchu gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Mae Cyfle yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir.

GWELER ‘TREFN YMGEISIO’ AM WYBODAETH MANYLACH AR Y MEINI PRAWF GAN GYNNWYS CANLLAWIAU'R CYNLLUN A FFURFLENNI CAIS.

_____________________

Ni allwch geisio am y cynllun hyfforddi hwn os ydych chi:

  • Mewn addysg llawn amser rhwng y 10fed o Ionawr – 20fed o Orffennaf 2012          
  • Ddim yn byw a/neu yn gweithio yn ardaloedd penodol ESF o Gymru fel yr amlinellir uchod

_____________________________________________________________________

Mae’r holl wybodaeth fydd ei angen arnoch i ymgeisio am y cwrs ar gael ar y wefan, ond os teimlwch bod angen sgwrs am rywbeth penodol cysylltwch â Rhys Miles Thomas ar - 029 2046 5533 / dd@cyfle.co.uk

_____________________

ESF WALES LOGOS_gJCJZ_slideshow.jpg

Hyd Cwrs

7 Mis

Dyddiadau’r Cwrs

Ionawr - Gorffennaf 2012

Dyddiad Cau

Mae'r cynllun yma bellach wedi cau ar gyfer ceisiadau.

Cost y cwrs

£1000

Cefnogaeth Ariannol

Oherwydd natur noddedig y cynllun, dim ond ffî o £1000 fydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus ei dalu tuag at y costau hyfforddi.

Os byddwch yn llwyddiannus yn ennill lle ar y cynllun hyfforddi hwn mae'n bosib y byddwch yn gymwys ar gyfer derbyn bwrsariaeth drwy Skillset Cymru. Cysylltwch â hwy yn uniongyrchol am wybodaeth drwy'r cyswllt isod:
http://www.skillset.org/funding/individuals/cymru_bursaries/

Arianwyr a Cefnogwyr

Gwnaed y prosiect yma’n bosibl drwy Skillset Cymru, a gefnogir gan £2.7m o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Lywodraeth Cymru, gyda gweddill yr arian yn cael ei ddarparu gan y darlledwr Cymraeg S4C, y gymdeithas fasnach ar gyfer cynhyrchwyr ffilm a theledu annibynnol Cymru, Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC).

ESF WALES LOGOS_gJCJZ_slideshow.jpg

RSS
mailing-list Join our mailing list Join our mailing list Join our mailing list