Yr Ymchwilydd Rhagorol
Manylion y Cwrs
MAE'R CYNLLUN YMA BELLACH WEDI CAU AR GYFER CEISIADAU. COFRESTRWCH I'N CYLCHLYTHYR NEU DILYNWCH NI AR FACEBOOK/TWITTER I FOD Y CYNTAF I GLYWED AM GYRSIAU TEBYG.
YR YMCHWILYDD RHAGOROL
CYNLLUN HYFFORDDI RHAN-AMSER DROS 6 MIS
_____________________
Oes gen ti o leiaf 12 mis o brofiad proffesiynol yn y diwydiant teledu fel ymchwilydd, neu mewn amgylchedd cynhyrchu neu datblygu?
Wyt ti eisiau gweithio gyda, a dysgu gan Ymchwiliwr Preifat, Arbenigwyr pwnc a rhai o Newyddiadurwyr uchaf eu parch y diwydiant?
Wyt ti eisiau bod yn Ymchwilydd Rhagorol?
Mae’r Ymchwilydd Rhagorol yn gynllun hyfforddi newydd sbon ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd ag o leiaf 12 mis o brofiad a sgiliau yn y maes ymchwil, ac sydd eisiau ehangu ymhellach ar y sgiliau gan ganolbwyntio ar wella eu sgiliau ymchwilio a newyddiaduraeth.
Cynnigir –
- Rhaglen dwys o weithdai
- 4 sesiwn 1 wythnos dros gyfnod o chwe mis (perffaith ar gyfer gweithio a hyfforddi ar yr un pryd)
- Mynediad i dros 20 o siaradwyr a tiwtoriaid gorau’r diwydiant
- Cyfres o frîffiau gan y diwydiant – bydd disgwyl i chi gyd-weithio â cyfranogwyr eraill ar-lein ac oddi-ar-lein
- Mentor profiadol o’r diwydiant, Cynllun Hyfforddi Unigol a cefnogaeth staff Cyfle
Hyd Cwrs
6 Mis
Dyddiadau’r Cwrs
Mae'r cynllun yn rhedeg o fis Mai 2011 i fis Tachwedd 2011
Dyddiad Cau
Mae'r cynllun yma bellach wedi cau ar gyfer ceisiadau.
Tiwtoriaid
Amrywiol
Lleoliad
Canolfan Hyfforddi Cyfle, Caerdydd
Arianwyr a Cefnogwyr
![]()