Cwrs Datblygu App iOS 4 Diwrnod
Manylion y Cwrs
CYSYLLTWCH OS OES DIDDORDEB MEWN MYNYCHU CWRS AR DDYDDIAD ARALL.
Cwrs Datblygu App iOS 4 Diwrnod
Cwrs NEWYDD 4 diwrnod fydd yn cynorthwyo staff cwmni/pobl llawrydd i ddatblygu, profi a cofrestru gydag iTunes App sylweddol allai hyrwyddo cwmni, rhaglen, digwyddiad ayyb.
Does dim angen profiad blaenorol ar gyfer y cwrs yma!
____________________
Cynnwys y Cwrs
Diwrnod 1
Y rhaglen datblygwr App ac arwyddo i fyny
Archwiliad o bosibiliadau App:
- Beth mae sefydliadau tebyg yn ei wneud?
- Beth sy’n bosib?
- Beth fydd hyd y broses?
Cynllunio App:
- Nodweddion
- Llywio
- Gosodiad
- Adnoddau sydd eu hangen
Diwrnod 2
Creu’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer yr App:
- Cyfrwng: Sain/Fideo
- Eiconau
- Gwaith Celf
Creu’r Gosodiad
Diwrnod 3
Defnyddio Xcode i greu’r App
Cywiro’r namau cychwynnol
Diwrnod 4
Profi’r App a gwneud gwelliannau
Marchnata a phrisio
Rhoi’r App ar iTunes Connect â’r App Store
_____________________
Pwy ddylai fynychu? -
Pawb sydd â diddordeb mewn dysgu’r elfennau sylfaenol datblygu Apps ar gyfer iPhone ac iPod Touch.
Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o raglennu neu datblygu.
Gall y cwrs yma gael ei gynnal yn y Gymraeg neu’r Saesneg (yn ddibynnol ar y galw)
_____________________
MWY O WYBODAETH -
MAE POSIBILRWYDD DERBYN NAWDD ER MWYN HELPU TALU AM Y CWRS YMA, AM FWY O WYBODAETH NEU I GADW LLE AR Y CWRS CYSYLLTWCH Â shan@cyfle.co.uk / 01286 668003
____________________
Hyd Cwrs
4 Diwrnod
Dyddiadau’r Cwrs
I'w gadarnhau
Cost y cwrs
£300 + £60 V.A.T.
Cefnogaeth Ariannol
Bwrsariaethau Skillset Cymru
Grantiau yw Bwrsariaethau Skillset Cymru ar gyfer unigolion sy'n gweithio yn y diwydiant teledu Cymreig ac sydd eisiau buddsoddi mewn hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Rheolir y gronfa gan Skillset a daw'r cyllid o'r darlledwr S4C â'r gymdeithas fasnach Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC).
Mae dwy gronfa ariannu, Bwrsariaethau Llawrydd Skillset Cymru a Bwrsariaethau Skillset Cymru ar gyfer Golygyddion.
Tiwtoriaid
David Baugh, Learning in Touch
Mae David Baugh wedi ei hyfforddi fel athro cynradd ac mae ganddo brofiad dosbarth o ddysgu myfyrwyr o 5 – 18 oed fel cydlynydd TG mewn ysgol ac Ymgynghorydd ALL ar gyfer Sir Ddinbych gyda cyfrifoldeb am holl elfennau TG a e-Ddysgu mewn 65 ysgol. Erbyn hyn mae’n hyfforddwr annibynnol, yn awdur ac yn gynghorydd TG yn gweithio gydag ystod eang o sefydliadau.
Mae wedi bod yn ‘Apple Distinguished Educator’ am 9 mlynedd ac mae’n ‘Apple Certified Trainer’. Ennillodd wobr Defnydd Greadigol o TG gan y Gwobrau Dysgu yn 2000 a gwobr ‘ICT in Practice’ BECTA a yn 2011.
Mae ganddo ddiddordeb mewn datblygiad creadigrwydd mewn addysg, yn enwedig mewn perthynas â perthnasedd defnyddio’r cyfryngau digidol yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r diddordeb yma wedi arwain at archwiliadau hir-dymor i ddefnydd ac arfer gorau fideo digidol ac amlgyfrwng mewn addysg a’i rôl yn y broses ddysgu greadigol.
Yn fwyaf diweddar bu’n awdur ac yn ddatblygydd y ‘Digital Cre8or Award’ sydd yn cynnig cymhwyster Lefel 1 a 2 sy’n gyfystyr â ECDL ac sy’n galluogi myfyrwyr ac athrawon i dderbyn achrediad am ddefnydd creadigol o’r cyfryngau digidol. (www.bcs.org/digitalcreator).
Mae Learning in Touch wedi ei gofrestru fel Canolfan Hyfforddi Rhanbarthol Apple (symudol).

Lleoliad
Arianwyr a Cefnogwyr
