Courses

Final Cut Pro 7

Manylion y Cwrs

Dyddiadau Cyrsiau: I'w Gadarnhau

Cwrs dechreuol wedi ei gynllunio i fynd a chi drwy brif elfennau golygu gyda Final Cut Pro 7.

FCP crop 2_8sINC_case_study_l.jpg

Mae’r hyfforddiant yn cynnig dysgu ymarferol proffesiynol, gan ddarparu pobl broffesiynol nad ydynt o gefndir golygyddol â’r cyfle i ddefnyddio swyddogaethau golygu sylfaenol FCP 7.  Bydd yr hyfforddiant hefyd yn darparu dealltwriaeth o’r broses golygu mewn perthynas â graddau eraill yn y broses gynhyrchu, a pwysigrwydd strwythr naratif, estheteg â’r gynulleidfa.

Dysgir y cwrs gan yr Hyfforddwr Apple Trwyddedig, Neil Sinclair, a bydd y mynychwyr yn defnyddio'r feddalwedd a'r caledwedd ddiweddaraf sy'n cynnwys -

  • deg iMac 21.5 modfedd, sgrîn lydan 16:9 newydd sbon gyda 3.06 GHz Intel Duo Core 2 processor a 4 GB o 1066mhz DDR3 SDRAM
  • Final Cut Studio 3 - sy'n cynnwys Final Cut Pro 7, Motion 4, Soundtrack Pro 3, Color 1.5, Compressor 3.5 a DVD Studio Pro 4.

Lleolir yr hyfforddiant yn ein canolfan hyfforddi yng Nghaerdydd.

__________

I sicrhau lle neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â shan@cyfle.co.uk neu ffoniwch 01286 668003.

__________

Os nad oes posib i chi fynychu ar y dyddiadau yma ac rydych chi'n byw mewn ardal ESF yng Nghymru, mae'n bosib y gallech chi fynychu un o'n cyrsiau FCP eraill.  Cliciwch yma am fanylion.

__________

ARIANNU EICH HYFFORDDIANT - mae nawdd ariannol ar gael i helpu talu am y cwrs yma.  Ewch i CEFNOGAETH ARIANNOL isod am fwy o fanylion, neu cysylltwch â Shân am sgwrs.

Talu drwy Anfonebbutton

Hyd Cwrs

Deuddydd

Dyddiadau’r Cwrs

I'w Gadarnhau

Cost y cwrs

£450 + £90 V.A.T.

Cefnogaeth Ariannol

Bwrsariaethau Skillset Cymru

Grantiau yw Bwrsariaethau Skillset Cymru ar gyfer unigolion sy'n gweithio yn y diwydiant teledu Cymreig ac sydd eisiau buddsoddi mewn hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Rheolir y gronfa gan Skillset a daw'r cyllid o'r darlledwr S4C â'r gymdeithas fasnach Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC).

Mae dwy gronfa ariannu, Bwrsariaethau Llawrydd Skillset Cymru a Bwrsariaethau Skillset Cymru ar gyfer Golygyddion.

RHOWCH GLEC YMA AM FWY O WYBODAETH.

Tiwtoriaid

Neil Sinclair

Hyfforddwr Profiadol

1587_12081_file_eng_Neil-Sinclair-Editor_191_143_j6fkV_thumb.jpg

Mae gan Neil dros 27 mlynedd o brofiad fel golygydd gyda gwybodaeth helaeth mewn darlledu fideo ac ôl gynhyrchu. Mae o wedi gweithio ar raglenni ar hyd pob agwedd o ddarlledu, o fideos pop a phromos, i ddramâu a dogfennau, defnyddio ffilm a systemau Avid, Quantel ac Apple. Ar hyn o bryd, mae Neil yn gweithio fel Uwch Olygydd gyda S4C. Cyn hynny, gweithiodd am nifer o flynyddoedd fel golygydd llawrydd ar gyfer BBC Cymru, ITV a Channel 4 ynghyd a nifer o gwmnïau annibynnol eraill.

Hyfforddwr Apple Ardystiedig

Mae Neil wedi bod yn Hyfforddwr Apple Ardystiedig ar gyfer Final Cut Pro ers 2005 (gan ychwanegu ‘Motion’ yn 2007) ac ers hynny, mae wedi bod yn darparu hyfforddiant i olygyddion llawrydd a staff cynhyrchu yng Nghymru ar gyfer cwmnïau fel Cyfle, Skillset Cymru, Derwen ac ITV Cymru.

Gyda phrofiad ym mhrif agweddau fformatau HD a’u defnydd o fewn Stiwdio Final Cut a dealltwriaeth gynhwysfawr o dechnegau ‘transcoding’ a chywasgu, mae profiadau Neil yn hanfodol ar gyfer amgylchedd aml-fformat heddiw.

Lleoliad

Canolfan Hyfforddi Cyfle, 33-35 Stryd West Bute, Bae Caerdydd CF10 5LH


View Larger Map

RSS
mailing-list Join our mailing list Join our mailing list Join our mailing list