Hyfforddiant Asesu Risg Iechyd a Diogelwch: Cychwynnol
Manylion y Cwrs
DYDDIADAU NESAF:
14+15 Mehefin (Caernarfon) / 18+19 Mehefin (Caerdydd - LLAWN) / Gorffennaf 5+6 (Caernarfon) / Dyddiadau newydd ym mis Medi i'w cadarnhau
Rheolaeth Cynhyrchu ac Asesu Risgiau yn y Gweithle (X3/X3.5) - yn arwain at uned NVQ HSO3/006 Asesu Rigiau yn y Gweithle (Assessing Risks in the Workplace)
Cwrs deuddydd ar ffurf dosbarth i ddarparu gwybodaeth am ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch ac i sicrhau bod unigolion yn gwneud asesiadau yn y ffordd briodol. Bydd hwn yn arwain at Gymhwyster uned NVQ Asesu Risgiau yn y Gweithle sef X3.
Mae'r cwrs yma wedi cael ei awdurdodi a'i gydnabod fel rhan o Pasport Diogelwch Cynhyrchu (Production Safety Passport (PSP)) y diwydiant.
Uchafswm y nifer fydd ar y cwrs yma fydd 8.
Cynnigir y cwrs yma yng Nghaerdydd neu Caernarfon, ac hefyd yn y Gymraeg neu'r Saesneg yn dibynnu ar y galw.
I archebu lle ar y cwrs yma, cysylltwch a shan@cyfle.co.uk neu 01286 668003.
_____________
Asesu Risgiau (Cwrs ar ffurf dosbarth)
Yn arwain at uned NVQ HSO3/006
Asesiad Risg Iechyd a Diogelwch o Weithle
Mae’r cwrs dau ddiwrnod wedi ei gynllunio i gyflwyno’r wybodaeth graidd sy’n angenrheidiol ar gyfer gwneud asesiad risg o fewn amgylchedd Radio, Teledu neu Ffilm. Bydd yr unigolyn yn derbyn gwybodaeth ar
- Hanfodion Cyfraith Iechyd a Diogelwch
- Gofynion cyfreithiol a goblygiadau
Bydd dull gweithredu’r broses Adnabod Peryglon ac egwyddorion gwneud Asesiad Risg yn cael eu cyflwyno, gydag enghreifftiau perthnasol o fewn y meysydd perthnasol.
Deunydd Ategol
Mae deunydd ategol helaeth i’w gael, yn cynnwys pamffledi gan HSE a thempledi ar gyfer adnabod peryglon a ffurflen dempled Asesu Risgiau. Yn ogystal ag ymateb i ofynion statudol mae'r templedi wedi eu cynllunio yn arbennig ar gyfer gofynion ychwanegol yr uned NVQ.
Mae’r cwrs yn cynnwys esiamplau o ymarfer da ym maes Asesu Risgiau gydag esiamplau a sefyllfaoedd ymarferol. Bydd gwybodaeth o’r pwnc yn cael ei brofi’n achlysurol fel rhan o’r broses ddysgu.
Asesiadau Risg
Fel rhan o’r cwrs, bydd ymgeiswyr yn cyflwyno esiamplau o Asesiad Risg maent wedi eu gwneud ar gynhyrchiad cyfredol neu gynhyrchiad diweddar, neu efallai eitemau maent am eu gwneud yn y dyfodol agos.
Gydag ychydig o waith cartref, mae modd cwblhau’r holl waith ar gyfer yr NVQ, yn barod i’w asesu’n ffurfiol o fewn y ddau ddiwrnod. Gall rhai gyda llai o brofiad symud ymlaen gyda’r NVQ yn unol â’u gallu i ddysgu a’u profiad.
Mae modd asesu’r uned NVQ hon o bellter.
Cost y Cwrs: £300+TAW (Bwrsariaethau ar gael - gweler Cefnogaeth Arianol isod am fwy o fanylion)
Hyd Cwrs
2 ddiwrnod
Dyddiadau’r Cwrs
14+15 Mehefin (Caernarfon) / 18+19 Mehefin (C'dydd- LLAWN) / Gorffennaf 5+6 (Caernarfon)
Cost y cwrs
£300 + £60 V.A.T.
Cefnogaeth Ariannol
Mae Bwrsariaethau Iechyd a Diogelwch Skillset bellach ar gael i'r rheiny sy'n gweithio yn y diwydiant Ffilm a Theledu er mwyn mynychu'r cwrs hwn.
Ewch i wefan Skillset am fwy o fanylion - http://www.skillset.org/funding/individuals/hs_bursaries/index_2.asp
Tiwtoriaid
Huw Aled

Mae gan Huw Aled gymhwyster NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch, ac mae'n diwtor cyson ar gyrsiau Iechyd a Diogelwch i gwmniau cynhyrchu, gan ddysgu gofynnion cyfreithiol sylfaenol Iechyd a Diogelwch y DU a sut i baratoi asesiadau risg.
Rheolwr Cynhyrchu a Hyfforddwr Technegol
Mae'n Reolwr Cynhyrchu profiadol, yn ogystal a bod yn hyfforddwr technegol, gan ddarparu hyfforddiant o'r safon uchaf. Gyda dros 31 mlynedd o brofiad, mae'n adnabod y diwydiant creadigol fel cefn ei law.
Lleoliad
Canolfan Hyfforddi Cyfle, 33-35 Stryd West Bute, Bae Caerdydd, CF11 5LH
neu
Canolfan Hyfforddi Cyfle, Galeri 13, Doc Fictoria, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SQ