Courses

Cwrs Ail Gymhwyso: Amddiffyn Plant gan yr NSPCC

Manylion y Cwrs

DYDDIAD NEWYDD - 28 MEHEFIN 2012 (Caerdydd)

Ar gyfer unigolion fu ar y cwrs cychwynnol tair blynedd yn ol.

NSPCC-Logo_r500n_original.jpg

Os oes digon o ddiddordeb bydd dyddiad pellach yn cael ei drefnu yng Nghaernarfon.

Cynlluniwyd y gweithdai un-niwrnod yma fel adolygiad ar gyfer unigolion a fynychodd y cwrs yn gyntaf dair mlynedd yn ol.

Bwriad y cwrs undydd hwn yw adolygu a diweddaru gwybodaeth i alluogi’r cyfranogwyr i ymateb yn briodol i bryderon ynglŷn â diogelwch a lles person ifanc neu blentyn, ac i gyfrannu tuag at greu amgylchfyd amddiffynnol.

AMCAN: Erbyn diwedd y dydd, dylech fedru:nspcc web_F5sF4_case_study_m.jpg

  • Trafod beth sy’n cyfrif fel camdrin plant, a sut i’w adnabod.
  • Adnabod deddfwriaeth ac arweiniad yng nghyd-destun amddiffyn plant.
  • Ymateb i bryderon amddiffyn plant o fewn canllawiau eich sefydliad.
  • Dynodi ffactorau sy’n cyfrannu tuag at amgylchedd amddiffynnol.
  • Sicrhau fod amrywiol faterion yn cael eu hintegru’n llawn i’r broses amddiffyn plant.
  • Adnabod pwysigrwydd eich swyddogaeth i sicrhau diogelwch ac amddiffyniad pobl ifanc.


Am fwy o wybodaeth am y cwrs yma neu i archebu lle cysylltwch â shan@cyfle.co.uk neu 01286 668003.

Talu drwy Anfonebbutton

Hyd Cwrs

1 diwrnod

Dyddiadau’r Cwrs

28 Mehefin 2012

Cost y cwrs

£150 + £30 V.A.T.

Cefnogaeth Ariannol

Bwrsariaethau Skillset Cymru

Grantiau yw Bwrsariaethau Skillset Cymru ar gyfer unigolion sy'n gweithio yn y diwydiant teledu Cymreig ac sydd eisiau buddsoddi mewn hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Rheolir y gronfa gan Skillset a daw'r cyllid o'r darlledwr S4C â'r gymdeithas fasnach Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC).

Mae dwy gronfa ariannu, Bwrsariaethau Llawrydd Skillset Cymru a Bwrsariaethau Skillset Cymru ar gyfer Golygyddion.

RHOWCH GLEC YMA AM FWY O WYBODAETH.

Tiwtoriaid

Veronica Grant, NSPCCVeronica Grant_oA3Oa_tutor_logo.jpg

Mae NSPCC yn cael ei ysbrydoli gan y gred bod posb i ni wneud gwahaniaeth i bob plentyn.  Dyma pam ein amcan yw i waredu ar gamdrin plant yn y DU.  Hyd yn oed os na wireddir hyn am rai cenedlaethau, fe wnawn lwyddo i wneud llawer mwy ar gyfer plant drwy gadw at y weledigaeth ysbrydoledig hwn.

www.nspcc.org.uk

Lleoliad

Canolfan Hyfforddi Cyfle, 33-35 Stryd West Bute, Bae Caerdydd CF10 5LH


View Larger Map

Arianwyr a Cefnogwyr

1669_12250_file_eng_logos-fframwaith_457_104_WszU4_large.jpg

RSS
mailing-list Join our mailing list Join our mailing list Join our mailing list