Saethu ar gyfer y We
Manylion y Cwrs
DYDDIADAU'R CWRS: 12-14 MAWRTH 2012 (LLAWN - CYSYLLTWCH A NI OS OES DIDDORDEB MEWN MYNYCHU'R CWRS YN Y DYFODOL)
Saethu ar gyfer y We
gyda Simon Walker.
Ydych chi angen saethu a golygu ffilmiau yn arbennig ar gyfer y we?
Bydd y cwrs hwn yn dysgu’r broses o sgriptio, saethu, golygu ac uwchlwytho fideos ar gyfer cael eu gwylio a’u dosbarthu ar-lein.
Bydd y cwrs yn ymdrin â’r elfennau sylfaenol a’r nodweddion uwch wrth saethu ar gamerau Sony EX1/3, golygu ar Adobe Premiere Pro ac allbwnio ac uwchlwytho ar gyfer y we.
- Dysgu sut i saethu gyda camerau Sony EX3 gyda’r bwriad o ddosbarthu ar y wê ac ar ddyfeisiau symudol
- Dysgu sut i osod a saethu cyfweliadau, yn ogystal â chynllunio arch stori
- Dysgu sut i olygu ar Mac gan ddefnyddio Adobe Premiere Pro
- Ennill dealltwriaeth sylfaenol o olygu sain, ychwanegu effeithiau a chreu teitlau
- Paratoi ac amgodio ffilmiau i'w dosbarthu ar y we
- Dulliau i hyrwyddo a denu traffig i’r ffilmiau a‘r cynnwys
- Hefyd o fudd i wneuthurwyr ffilm canolraddol, sydd eisiau dosbarthu fideos o safon uchel ar y we i wella eu gwerthoedd cynhyrchu
Dros y 3 diwrnod, bydd y cwrs saethu/golygu/uwchlwytho yma yn ymdrin â’r dulliau ar gyfer cynllunio a strwythuro ffilm, hyfforddiant ymarferol gyda'r camerâu ac offer saethu, lleoliadau a symudiadau camera sy'n gweithio'n dda ar gyfer fideos ar-lein, hyfforddiant mewn golygu PPro, cynnwys a golygu sain, cywiro lliw lluniau a dulliau darparu ar-lein. Bydd Simon hefyd yn darparu adnoddau defnyddiol megis nodiadau, gwybodaeth am feddalwedd a chlipiau fideo hyfforddi, sy'n amlygu y technegau allweddol o olygu yn PPro, yn ogystal â chynnig gwybodaeth ychwanegol drwy gydol y cwrs.
Byddwch yn defnyddio camerau Sony EX3 i saethu, ond hefyd yn gynnwysedig yn y cwrs mae cyngor ymarferol am sut i ddelio â'r problemau sy'n gallu codi drwy ddefnyddio camerau eraill (e.e. gweithlif HD SLR).
___________________
Cynnwys y Cwrs
Ar ddiwedd y cwrs, byddwch wedi ymdrin â’r canlynol:
Diwrnod 1 (Cynllunio a Saethu)
- Cyflwyniad i gyfyngiadau fideos ar y we (problemau cywasgu a saethu)
- Strwythur y stori, hyd y ffilm ac ystyriaethau sgript
- Problemau technegol (e.e. cymhareb agwedd, ffocws, dyfnder ffocws, trybedd neu llaw)
- Hyfforddiant mewn gwaith camera, sain a goleuo
- Saethu ffilm fer ar gyfer ei ddarparu ar-lein
Diwrnod 2 (Golygu)
- Digideiddio deunydd
- Golygu yn Adobe Premier Pro
- Sut i olygu yn gyflymach (cyngor arbenigol a llwybrau byr)
- Cyngor cynhyrchu ymarferol (yn cynnwys osgo cywir wrth y cyfrifiadur, stategaeth wrth gefn)
- Ychwanegu teitlau
- Ychwanegu Sain
Diwrnod 3 (Ôl-Gynhyrchu)
- Sut i orffen y golygu
- Cywiro lliw y ffilm
- Addasu ar gyfer amlygiad
- Ail-fframio ar gyfer y wê
- Cywiro problemau
- Cywasgu ar gyfer y wê
- Sut i rannu fideos ar gyfer Windows a dyfeisiau symudol
- Uwchlwytho i wefannau fideos ar-lein
- Sut i gael yr ansawdd gorau o’ch fideos
_________________
Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn:
Cynhyrchwyr, Newyddiadurwyr, Ymchwilwyr, Ffotograffwyr, Golygyddion, Saethwyr DSLR, Gwneuthurwyr Ffilm, Awduron Gwe ac unrhyw un sydd angen creu cynnwys fideo ar-lein.
_________________
Cysylltwch â Shân am sgwrs am sut y gallwch dderbyn nawdd i dalu am eich hyfforddiant, neu i archebu lle ac am fwy o wybodaeth ar 01286 668003 neu ebostiwch shan@cyfle.co.uk
Hyd Cwrs
3 Diwrnod
Dyddiadau’r Cwrs
12-14 Mawrth 2012 (LLAWN - CYSYLLTWCH A NI OS OES DIDDORDEB MEWN MYNYCHU'R CWRS YN Y DYFODOL)
Cost y cwrs
£600 + £120 V.A.T.
Cefnogaeth Ariannol
Bwrsariaethau Skillset Cymru
Grantiau yw Bwrsariaethau Skillset Cymru ar gyfer unigolion sy'n gweithio yn y diwydiant teledu Cymreig ac sydd eisiau buddsoddi mewn hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Rheolir y gronfa gan Skillset a daw'r cyllid o'r darlledwr S4C â'r gymdeithas fasnach Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC).
Mae dwy gronfa ariannu, Bwrsariaethau Llawrydd Skillset Cymru a Bwrsariaethau Skillset Cymru ar gyfer Golygyddion.
Tiwtoriaid
Simon Walker
Mae Simon Walker (www.simonwalkerfreelance.com) yn Hyfforddwr Ardystiedig Adobe, Hyfforddwr Meistr Ardystiedig Apple mewn Final Cut Studio, ac yn hyfforddwr ar gyfer yr Academi Colorist Rhyngwladol (iColorist.com). Yn ogystal, mae’n hyfforddi pobl broffesiynol y diwydiant mewn ffilmio, golygu, graffeg symudol, gwella sain, cywasgu fideos, awduro DVD a Blu-ray a graddio lliw. Mae wedi bod yn ffilmio, golygu, dylunio ac animeiddio ffilmiau byrion, hysbysebion, rhaglenni rhyngweithiol, a dilyniannau graffeg symudol ers dros 15 mlynedd.
Mae Simon yn ysgrifennu, golygu a chynhyrchu pecynnau hyfforddi ar gyfer y diwydiant cyfryngau (gan gynnwys Optimeiddio Fideo a Cywasgu, Creu Ffilm ar gyfer y Rhyngrwyd, a Storio Gweledol gan ddefnyddio Cywiro Lliw a Graddio). Drwy ei gwmni cynhyrchu www.wiltshirevideo.com mae hefyd wedi cynhyrchu dau becyn hyfforddi rhyngweithiol sydd wedi ennill gwobrau ar gyfer Somerfield PLC.
Lleoliad
Canolfan Hyfforddi Cyfle, 33-35 Stryd West Bute, Bae Caerdydd CF10 5LH
