Cylchlythyr

Derbyniwch y diweddaraf!

CYNHYRCHU AR SAIL FFEIL

Diwrnod hyfforddi

Swyddi yn y Diwydiant

Swyddi yn y Diwydiant

Ymchwilydd - Adran Chwaraeon - BBC Cymru Wales

Caerdydd
Gradd: 5D
Cytundeb: Ymlyniad/CytundebTymor Sefydlog 9 mis

Mae angen ymchwilydd brwdfrydig arnom sydd â gwybodaeth drylwyr o faes chwaraeon a chwaraeon yng Nghymru i weithio ar raglenni ar draws nifer o raglenni yn yr adran. Mae'r adran Chwaraeon yn cynhyrchu ystod o rhaglenni teledu ar gyfer BBC Cymru a S4C yn gynnwys gemau a digwyddiadau bywg I raglenni wythnosol.

Mae angen talent greadigol arnoch i gynhyrchu toreth o syniadau chwaraeon, y gallu dadansoddol i chwilio am berlau, y sgiliau newyddiadurol i ddweud stori a'r gallu trefniadol i ddarparu deunyddiau ymchwil ar gyfer cyflwynwyr/sylwebyddion, trefnu a chatalogio deunyddiau archif a chynnal dyddiadur chwaraeon. Byddai profiad o waith cynhyrchu radio o fantais.

Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, yn llafar ac yn ysgrifenedig, yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Am fanylion pellach cysylltwch â Lawrence Hourahane ar 02920 322855

Dyddiad cau: Hanner nos 30 Awst 2010
Dyddiad Cyfweld: W/D 6ed Medi 2010


I weld y cyfle hwn a gwneud cais amdano, cliciwch yma
https://jobs.bbc.co.uk/fe/tpl_bbc04.asp?newms=jj&id=34451

Cliciwch ar y ddolen isod am wybodaeth yn ymwneud â'r buddiannau sydd ar gael i gyflogeion y BBC:
http://jobs.bbc.co.uk/fe/tpl_bbc04.asp?newms=info2

_________________________________

Cynhyrchydd Cynorthwyol, The One Show - Adran Ffeithiol a Cherddoriaeth BBC Cymru, Caerdydd

Gradd 7D
Contract tymor sefydlog/ymlyniad 6 mis

Mae Adran Ffeithiol a Cherddoriaeth BBC Cymru yn cynhyrchu ystod o raglenni ar gyfer teledu lleol a theledu Rhwydwaith gan gynnwys X-Ray, y brif raglen i ddefyddwyr, BBC Cardiff Singer of the World, Last Chance To See, Museum of Life a Between Life and Death.

Mae The ONE Show yn sioe gylchgrawn ffeithiol amserol dyddiol, sy'n cynnwys ystod eang o allbwn o'r holl genres ffeithiol. Mae'r sioe hon wrth wraidd amserlen oriau brig BBC One gan gynnal perthynas sgwrsiol ac ymatebol â chynulleidfa BBC One. Mae'r gyfres yn cynnwys cymysgedd eang o gyfweliadau byw ac eitemau VT o'r holl genres ffeithiol, yn cynnwys Materion Cyfoes, Adloniant Ffeithiol, Hanes, Byd Natur, Gwyddoniaeth, y Celfyddydau, Newyddiaduraeth Defnyddwyr, Realaeth ac eitemau Dogfen.

Rydym yn chwilio am Gynhyrchydd Cynorthwyol golygyddol gryf sy'n llawn syniadau a fydd yn gyfrifol am ffilmiau pum munud ar The One Show. Yn ogystal â barn olygyddol gadarn a greddf am newyddiaduraeth wreiddiol dylai fod gennych ddealltwriaeth dda o gynulleidfa The One Show sy'n bodoli eisoes ynghyd â syniadau am sut i gyrraedd cynulleidfa ehangach. Byddwch yn gyfrifol am feddwl am syniadau/testun straeon, sgriptio, gweithio gyda'r cyflwynwyr a'r gohebwyr a goruchwylio ymchwilydd, cyfarwyddo ar leoliad - byddai'r gallu i ffilmio eitemau eich hunan yn ddelfrydol- ac ôl-gynhyrchu.

Am ragor o fanylion cysylltwch â Catrin Griffith - 02920 322 785

Dyddiad cau: Hanner nos 05 Medi 2010
Dyddiad Cyfweld: W/D 27 Medi 2010

I weld y cyfle hwn a gwneud cais amdano, cliciwch yma
https://jobs.bbc.co.uk/fe/tpl_bbc04.asp?newms=jj&id=35008

Cliciwch ar y ddolen isod am wybodaeth yn ymwneud â'r buddiannau sydd ar gael i gyflogeion y BBC:
http://jobs.bbc.co.uk/fe/tpl_bbc04.asp?newms=info2

_________________________________

Ymchwilydd 'The One Show' - Adran Ffeithiol BBC Cymru - Caerdydd

Contract/Ymlyniad Tymor Sefydlog 6 mis (diwedd mis Medi 2010 tan fis Mawrth 2011)
Gradd 5D

Mae Adran Ffeithiol a Cherddoriaeth BBC Cymru yn cynhyrchu ystod o raglenni ar gyfer teledu lleol a theledu'r Rhwydwaith gan gynnwys X-Ray, y brif raglen i ddefnyddwyr, BBC Cardiff Singer of the World, Last Chance To See, Museum of Life a Between Life and Death.

Fel ymchwilydd byddwch yn canfod eitemau ar gyfer y rhaglen gan ddefnyddio eich sgiliau ymchwilio ac yn gwneud gwaith ymchwil cywir ar gyfer darnau difrifol ac ysgafn fel ei gilydd. Byddwch yn aml yn gweithio o dan bwysau i gyflawni gwaith o fewn terfynau amser darlledu a bydd angen i chi allu gweithio ar sawl stori ar yr un pryd. Mae diddordeb brwd mewn newyddiaduraeth defnyddwyr yn hanfodol yn ogystal â dealltwriaeth o'r materion golygyddol a chyfreithiol perthnasol. Byddwch yn frwdfrydig, yn ddiplomyddol ac yn meddu ar hunangymhelliant gyda sgiliau cyfathrebu/pobl yn allweddol. Mae profiad newyddiadurol yn hanfodol. Mae sgiliau hunanffilmio yn ddymunol.

Dyddiad cau: Hanner Nos 6ed Medi 2010

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Catrin Griffith ar 02920 322785

I weld y cyfle hwn a gwneud cais amdano, cliciwch yma
https://jobs.bbc.co.uk/fe/tpl_bbc04.asp?newms=jj&id=35009

Cliciwch ar y ddolen isod am wybodaeth yn ymwneud â'r buddiannau sydd ar gael i gyflogeion y BBC:
http://jobs.bbc.co.uk/fe/tpl_bbc04.asp?newms=info2

_________________________________

Cysylltwch â rhian@cyfle.co.uk os hoffech hysbysebu swydd yma.

Cyngor Gyrfaol Skillset Cymru

Am gyngor ynglŷn â gweithio yn niwydiant y cyfryngau creadigol siaradwch gyda Chynghorydd Gyrfaol Skillset.
Gallwch ffonio am ddim ar 0800 0121 815 neu e-bostio walescareers@skillset.org

Cefnogaeth Ariannol

Ffyrdd o ariannu'ch hyfforddiant

Cyrsiau Byrion

Cyrsiau datblygu'n broffesiynol!

Bookmark and Share