Yn ôl at yr eitemau newyddion
Rydyn ni’n falch iawn o allu cyhoeddi bod Cyfle wedi ennill cytundebau i gynnal 3 cynllun hyfforddi newydd sbon.
Wedi eu lleoli gyda BBC Cymru, bydd 2 o’r cynlluniau yn darparu hyfforddi mewn swydd ar gynhyrchiadau uchel ael. Ariannir y cynlluniau yma gan BBC Cymru, Busnes Creadigol Cymru ac Academi+)
Mae’r trydydd yn gytundeb i ddarparu cynllun arloesol Cynhyrchu Aml-blatfform ar gyfer Pobl Greadigol mewn Teledu (Tystysgrif Ol-Radd) llawn amser dros 4 mis, mewn cydweithrediad â’r ATRiuM. Ariannir y cynllun hwn gan Skillset Academi+, S4C a TAC a cefnogir gan Skillset Cymru.
Bydd manylion pellach a recriwtio yn cael ei gyhoeddi’n fuan iawn, felly cadwch lygad ar y wefan neu sicrhewch eich bod yn derbyn newyddion Cyfle yn syth drwy un neu fwy o’r canlynol –
E-gylchlythyr – cliciwch yma i gofrestru
Twitter – Cyfle
Facebook – Hyfforddiant Cyfle Training
Blogger – Hyfforddiant Cyfle Training