Yn ôl at yr eitemau newyddion
Mae’r digwyddiad cyntaf yng Nghymru sy’n gyflwyniedig at amlygu’r datblygiadau a syniadau diweddaraf ar gyfer cynhyrchu cynnwys ar gyfer y cyfryngau creadigol yn lansio ei rhaglen heddiw. Gyda siaradwyr o bob cwr o Brydain, sydd wedi ennill gwobrau ac yn arweinwyr yn eu maes, mae’r digwyddiad hwn yn gaddo bod yn un o ddigwyddiadau mwyaf cyffrous, ysbrydoledig a chynhyrchiol 2010.
"Mae Symposium Aml-Blatfform 2010 yn ddigwyddiad i’r rhai hynny sydd eisiau bod ar flaen y gad ym myd cystadleuol, aml-newidiol cynhyrchu cynnwys yr 21ain ganrif" meddai Iona Williams, Prif Weithredwraig CYFLE, y cwmni hyfforddi ar gyfer diwydiannau’r cyfryngau creadigol yng Nghymru sy’n trefnu’r digwyddiad.
"’Dyn ni ond yn crafu’r wyneb pan mae’n dod at gynhyrchu cynnwys arloesol sy’n gwneud defnydd llawn o’r botensial sy’n cael ei gynnig gan y dechnoleg sydd bellach ar gael a’r ffordd mae ein arferion gwylio yn newid.
Bydd siaradwyr megis, Stuart Cosgrove, Pennaeth Cenhedloedd a Rhanbarthau Channel 4; Sarah Clay,
Comisiynydd Gweithredol Aml-Blatfform, Drama, BBC; a Wil Stephens o’r cwmni Cymreig, Cube Interactive yn ein arwain drwy’r tirlun newydd a elwir yn aml-blatfform."
Cynhelir y Symposium yn yr ATRiuM yng Nghaerdydd ar y 15fed o Ebrill 2010, a bydd yn gyfle i rwydweithio gyda meddylwyr blaengar, dadlau, rhyngweithio, dysgu a chymdeithasu gyda’r bwriad o roi mantais i dalent Cymru sydd am greu cynnwys newydd, arloesol sy’n gweithio ar draws nifer o lwyfannau.
Digwyddiad unigryw i Gymru fydd yn gyfle i gynnyddu ymwybyddiaeth o effaith datblygiadau aml-blatfform ar brosesau creadigol a comisiynu’r cyfryngau.
Cost cofrestru ar gyfer y digwyddiad yw £50 (yn cynnwys TAW a lluniaeth).
Gellir cael manylion pellach a cofrestru drwy glicio YMA
Rhestr lawn o siaradwyr y Symposium Aml-Blatfform 2010 –
- EURYN OGWEN WILLIAMS, Ymgynghorydd ar y Cyfryngau
- STUART COSGROVE, Pennaeth Cenhedloedd a Rhanbarthau, Channel 4
- ANDREW CHITTY, Illumina Digital Ltd
- MATT LOCKE, Golygydd Comisiynu Addysg a Cyfryngau Newydd, Channel 4
- IAIN TWEEDALE, Golygydd Rhyngweithiol BBC Cymru Wales
- WIL STEPHENS, Cube Interactive
- DK, Media Snackers
- JAMES KIRKHAM, Holler
- DAN HON, Six to Start
- JUSTINE POTTER, Savvy Productions
- NEIL MOSSEY, Ysgrifennwr Aml-Blatfform
- TIM WRIGHT, XPT Ltd
- SARAH CLAY, Comisiynydd Gweithredol Aml-Blatfform, Drama, BBC
Cyflwynir mewn partneriaeth â Skillset Cymru, ac ariannwyd gan S4C a TAC.
