Mae llu o siaradwyr o’r safon uchaf wedi cadarnhau eu presenoldeb yn SYMPOSIUM AML-BLATFFORM 2010.
Cewch ychydig o wybodaeth am bob un ar y dudalen yma -
EURYN OGWEN WILLIAMS

Mae Euryn yn gweithio fel Ymgynghorydd ar y Cyfryngau. Bu'n gynhyrchydd rhaglenni gyda ITV, BBC Cymru ac yn annibynnol; ef oedd Cyfarwyddwr Rhaglenni cyntaf S4C (1981 -1991) ac ers hynny mae wedi cynghori'r Gaeliaid yn yr Alban a'r Gwyddelod ar ddarparu cynnwys mewn ieithoedd lleiafrifol.
Ar hyn o bryd, mae'n cynghori, darlithio ac ysgrifennu am ddatblygu cynnwys newydd yn y byd digidol.
STUART COSGROVE, Cyfarwyddwr Cenhedloedd a Rhanbarthau, Channel 4
Stuart yw Cyfarwyddwr Cenhedloedd a Rhanbarthau Channel 4 sydd â cyfrifoldeb cyffredinol dros strategaeth a datblygu corfforedig y tu allan i Lundain.
Ymunodd â Channel 4 ym mis Ebrill 1994 fel Golygydd Comisiynu ‘Indpendent Film and Video’. O dan ei arweinyddiaeth ennillodd ‘Independent Film and Video’ nifer o wobrau rhyngwladol. Mae ‘The Dying Rooms’, datgeliad o farwolaeth a dioddefaint yng Nghartrefi Plant Amddifad y Llywodraeth yn Tseina, yn garreg filltir yn allbwn Channel 4 hyd heddiw. Comisiynodd yr adran hefyd ddramau mentrus megis ‘Granton Star Cause’ gan Irvine Welsh, a ennillodd y Prix Italia ym 1998 ac a gafodd ei ryddhau wedyn o dan y teitl ‘The Acid House’ mewn sinemau. Roedd ‘Independent Film and Video’ yn arloesol mewn pecynnu rhaglenni i themau gan gynnwys pecyn ffilm ‘The Shooting Gallery’, y gyfres rhyngwladol ‘Secret Asia’ a’r gyfres cynhennus am y diwydiant rhyw ‘The Red Light Zone’.
Ym 1996, cafodd Stuart ei ddyrchafu i swydd Rheolwr Celfyddydau ac Adloniant, gan reoli rhaglenni celfyddydol ac adloniant, chwaraeon, ac Americanaidd megis ER, Friends a Frasier. Ymysg y rhaglenni a darddodd o’r adran ar y pryd roedd y sioe adloniant wythnosol ‘TFI Friday’, rhaglenni comedi newydd megis ‘Brass Eye’ gan Chris Morris, ‘The Mark Thomas Comedy Product’ a ‘Harry Hill’. Comisiynodd yr adran hefyd rai o raglenni cyfres mwyaf cofiadwy Channel 4 gan gynnwys ‘Father Ted’, ‘Eurotrash’ a ‘The Big Breakfast’.
Ganwyd Stuart yn Perth, Yr Alban, graddiodd mewn Drama a Saesneg o Brifysgol Hull, ac mae ganddo PhD yn y Cyfryngau. Gwnaeth enw iddo’i hun fel beirniad diwylliannol yn gweithio fel Golygydd y Cyfryngau gyda NME ac yn cyfrannu tuag at The Face, The Guardian a The Observer. Roedd yn gyflwynydd cyson ar brif raglen gelfyddydol BBC2 ‘The Late Show. Ei gyfres radio gwlt ‘On The Ball’ yw sioe radio mwyaf poblogaidd Yr Alban, ac sydd wedi ennill dwy Wobr Sony.
Ymunodd Stuart â Channel 4 o gefndir cynhyrchu annibynnol, wedi gyrfa lwyddiannus fel cynhyrchydd gyda Big Star, gwneuthurwyr y gyfres boblogaidd a enillodd nifer o wobrau ‘Halfway to Paradise’. Mae’n Gyfarwyddwr ar BT (Yr Alban) ac yn Ymddiriedolwr ar y Gwaddoliad Cenedlaethol dros Wyddoniaeth, Technoleg a'r Celfyddydau (NESTA).
Astudiodd Stuart ym Mhrifysgol Hull, Prifysgol George Mason, Ysgol Lywodraeth ac Arweinyddiaeth JFK yn Harvard, ac Ysgol Fusnes Wharton. Mae ganddo ddoethuriaeth mewn Saesneg ac Astudiaethau Americanaidd ac mae’n Athro Anrhydeddus o Brifysgol Abertay a Prifysgol John Moores Lerpwl.
ANDREW CHITTY, Illumina Digital Ltd
Yn fewnol, Andrew sydd yn gyfrifol am gyfeiriad strategol y cwmni ac yn allanol am ddelwedd y cwmni i’r prif gwsmeriaid a’r partneriaid, yn ogystal ag ar fforymau diwydiant a hapddalwyr. Mae gan Andrew hefyd rol yn natblygiad creadigol rhai o brif brosiectau Illumina, ac mae’n Rheolwr Gyfarwyddwr ar TouchIllumina Ltd, y cwmni menter ar y cyd gyda Touch Productions. Mae Andrew yn aelod o fwrdd TRC Media yn Glasgow (The Research Centre gynt) a Skillset, a bellach ef yw Is-Gadeirydd (Rhyngweithiol) PACT.
www.illumina.co.uk
MATT LOCKE, Golygydd Comisiynu Addysg a Cyfryngau Newydd, Channel 4
IAIN TWEEDALE, Golygydd Rhyngweithiol BBC Cymru Wales
WIL STEPHENS, Cube Interactive
www.cubeinteractive.co.uk
DK, Cyfarwyddwr, Media Snackers

DK yw sefydlydd MediaSnackers, term bu iddo ei fathu yn gynnar yn 2006 tra’n disgrifio’r hyn roedd pobl ifanc yn ei wneud gyda cyfryngau – lansiwyd y wefan rai misoedd yn ddiweddarach ym Mehefin.
Mae ganddo gefndir addysgol mewn cyfathrebu a’r cyfryngau, yn ogystal a chefndir proffesiynol mewn llywodraeth leol (ef oedd y cyntaf a’r unig un i ddal swydd Swyddog Ieuenctid Corfforaethol yn y DU)
Mae MediaSnackers yn ei gadw allan o drwbl. (dywed DK ‘Mae’r enw DK yn dod o lythrennau cyntaf fy hen enw. Galwodd un o’r bobl ifanc cyntaf fues i’n gweithio â nhw fi yn DK ac mae wedi aros gyda fi – nes i erioed hoffi fy hen enw felly mi gadwais yr enw byth ers hynny’)
Gellir gweld mwy am DK a’r gwaith mae MediaSnackers yn ei wneud ar -
www.mediasnackers.com
JAMES KIRKHAM, Holler

James Kirkham yw Rheolwr Gyfarwyddwr Holler, yr asiantaeth strategaeth ddigidol sydd yn gweithio gyda cwmniau megis Channel 4, Kickers, Living, Red Bull a Virgin TV.
Holler oedd yn gyfrifrol am y marchnata gafodd ei gymeradwyo’n uchel ar gyfer ‘Skins’ ar E4, oedd yn ddull oedd yn torri tîr newydd ac a arweiniodd at lu o wobrau gan gynnwys tri IPA Gold. Mae James yn ysgrifennu colofn cyson ar gyfer cylchgrawn Broadcast ac mae’n ymwneud â’r gymuned farchnata ddigidol, drwy gyd-gadeirio The Media Festival, i gyflwyno dangosiad ‘4 talent’, a cynhadleddau Addysg Promax a BETT.
Cewch fwy ar gefndir a gwaith James a Holler yma - www.holler.co.uk
DAN HON, Six to Start
Dan Hon yw Prif Weithredwr Six to Start, cwmni cynhyrchu adloniant sydd wedi ennill gwobrau di-ri, gafodd ei sefydlu gan Dan a’i frawd, Adrian, ym mis Medi 2007.
Roedd prosiect cyntaf Six to Start, ‘We Tell Stories’ ar gyfer Penguin, yn ail-ddychmygu sut y gallai cyhoeddwr addasu i gynhyrchu ffuglen ar gyfer y we. Cafodd ‘We Tell Stories’ ymateb gwych gan y beirniaid a’r farchnad masnachol, gan ennill gwobrau am Arloesi a’r Gorau yn y Sioe yn South by Southwest Interactive 2009.
Cyn cyd-sefydlu Six to Start gyda’i frawd, roedd Dan yn COO gyda Accel Partners a Mind Candy, cwmni newydd gafodd ei gefnogi gan Index Ventures, lle gweithiodd ar y gem realaeth amgen, Perplex City, a ennillodd nifer o wobrau. Mae ganddo radd yn y gyfraith o Goleg Gonville a Caius, Prifysgol Caergrawnt, ac mae ganddo MSc mewn Peirianneg Meddalwedd gan Brifysgol Lerpwl.
Mae Dan wedi siarad yn helaeth ar ARGs, transmedia, adloniant traws-blatfform a gemau cymdeithasol ac mae wedi bod yn aelod o banel beirniadu ar gyfer BAFTA Videogames a Gwobrau Addysg RTS. Yn ennillydd gwobr Amlblatfform 4Talent ar gyfer talent newydd, yn ddiweddar bu’n siarad yn The Media Festival, b.tween 2009, Hello Digital 2008, Sheffield Doc/Fest 2008, WildScreen, South by Southwest 2009, 2008 a 2007, ac yn y London Games Festival.
Ers y Nadolig bu Dan yn ‘cold turkey’ ar World of Warcraft, ac mae ei Horde Rogue wedi cael ei esgeuluso’n druenus. Bu’n blogio ers 2000, ac mae wrth ei fodd â Twitter am resymau hollol wahanol. Mae’n angerddol tu hwnt dros y potensial i greu mathau newydd o gyfryngau ac adloniant.
www.sixtostart.com
JUSTINE POTTER, Savvy Productions

Mae Savvy Productions yn arbennigo mewn darparu profiadau adloniant a drama unrhywle, ac unrhywbryd. Maent wedi creu pecyn aml-blatfform digidol ‘PlatformSavvy’ sydd yn galluogi naratif i gael ei gyflwyno drwy ffurf teledu, theatr, arlein, ffôn symudol, consol gêmau a theclynnau symudol. Drwy’r pecyn gellir greu profiadau cyflawn sy’n cymysgu ffurfiau corfforol a digidol, gan roi’r gynulleidfa wrth galon y ddrama.
Mae Justine Potter wedi creu gyrfa drwy fynd ar drywydd ysgrifennwyr ardderchog ac anegluro’r linell rhwng y ffeithiol a’r ffuglen fel cynhyrchydd a cyfarwyddwr, lle mae gan y gynulleidfa rôl ganolog. O yrfa yn y theatr, symudodd Justine i Ddrama Radio’r BBC ac yna i Gynhyrchu ar gyfer Cwmni Cynhyrchu Red TV cyn sefydlu Savvy.
Prosiectau Cyfredol – ar hyn o bryd mae Savvy yn gweithio ar naratifau traws lwyfan a chynnwys drama rhyngweithiol sy’n defnyddio PlatformSavvy ar gyfer Radio BBC, BBC Rhyngweithiol, CBBC a Cbeebies, Theatr Genedlaethol yr Alabn, Cwmni Red TV, Teledu’r Cenhedloedd a’r Rhanbarthau a Sony Playstation.
I ddarllen mwy am waith Savvy ewch i’r gwefan - www.savvyproductions.net
NEIL MOSSEY

Gweithiodd Neil ym mynd teledu a radio cyn iddo ysgrifennu Ail Dymor y ddrama we rhyngweithiol dyddiol KateModern (storïo dros 26 wythnos, a sgriptio 74 o we-bennodau), sef ‘spinoff’ o’r gyfres Americanaidd lonelygirl15. Gorffennodd y gyfres ym mis Gorffennaf 2008, gyda’r fideoau yn derbyn dros 66 miliwn o ddangosiadau, y cynhyrchiad arlein mwyaf ym Mhrydain hyd heddiw.
Ers hyn mae wedi cael gwaith yn ysgrifennu triniaethau ar gyfer cleientiaid megis bebo originals, Disney UK, a rhwydwaith ffôn symudol. Ymysg ei gredydau teledu mae "My Parents Are Aliens" (itv1), "Freefonix" (BBC One), "Blackout" (Channel 4), "SuperNormal" (itv1), "The Worst Witch" (itv1), "Hedz" (BBC One) a enillodd ddwy BAFTA, a "The RDA with John Gordillo" (BBC Choice).
Gellir darllen ei flog am ei gyfres ar y wê yma - www.storygas.com
TIM WRIGHT, XPT Ltd

Mae Tim Wright yn ysgrifennwr digidol, yn gynhyrchydd rhyngweithiol ac yn gyfarwyddwr o XPT Ltd.
Ymysg ei gredydau ysgrifennu mae dwy brosiect rhyngweithiol a enillodd wobrau BAFTA: y ddisg gomedi hunan-gymorth 'Mind Gym' a’r ddrama dros y wê/ebost 'Online Caroline'. Yn 2004/5 fe greodd y ddrama BBC Radio 4 ffuglen ar y we gydweithiol boblogaidd ‘In Search of Oldton’, gafodd ei enwebu am Wobr Sony. Roedd yn prosiect yn arloesol yn ei ddefnydd o gynnwys a grewyd gan y defnyddiwr o fewn ffurf naratif ffuglen.
Parhaodd Tim ei berthynas â Radio 4 drwy gyfrannu tuag at newidiadau mawr gwefan ‘Today’, tra’n ysgrifennu drwy ddrama ‘Afternoon Plays’ arall, 'Say What You Want To Hear', oedd yn gwahodd y gynulleidfa arlein i gymryd rhan. Bu’n cyd-ddatblygu ac ysgrifennu elfen y wê o’r prosiect celf gyhoeddus boblogaidd ‘The Telectroscope’, ac yn ddiweddar bu iddo gwblhau ‘Kidmapped!’, arbrawf mewn ‘blogfen’ llenyddol, sy’n cynnwys taith gerdded 240 milltir ar draws yr Alban a’r defnydd o declynnau ‘geoleoli’ a chyfryngau symudol.
Gellir darllen mwy am waith Tim ar y gwefannau canlynol -
www.timwright.typepad.com
www.swywth.com
Google: kidmapper
www.blog.telectroscope.org
www.oldton.com
www.bbc.co.uk/today
SARAH CLAY, Comisiynydd Gweithredol Aml-blatfform, Drama, BBC

Mae Sarah yn gyfrifol am gomisiynu cynnwys ar gyfer yr holl lwyfannau heblaw am deledu (gwe, symudol, teledu rhyngweithiol) ar gyfer BBC Drama, BBC Films, a Caffaeliadau.
Mae’n comisiynu gwasanaethau arlein hynan gynhaliol yn ogystal ag agweddau rhyngweithiol comisiynau teledu, er mwyn creu profiadau rhyngweithiol sy’n cysylltu â cynulleidfaoedd drwy ffocws gref ar adrodd stori.
Cyn ei rol presenol, gweithiodd Sarah fel Golygydd Gweithredol gyda Indies gan arolygu teitlau proffil ar draws y llechi Gwybodaeth, Drama ac Adloniant. Ymysg y prosiectau yma roedd: Survivors, Mark Kermode's Film Blog a Tymor Siapan BBC Four. Treuliodd 2 flynedd yn rhedeg llechen drama aml-blatfform y BBC. Ennillodd ddwy wobr BAFTA ar gyfer Spooks Interactive, a cafodd gymeriad a grewyd yn arbennig ar gyfer gem Rhyngweithiol Heroes y BBC ei sgwennu i mewn i’r brif gyfres deledu Americanaidd. Mae newydd arolygu lansiad Eastenders:E20, ac ail-lansio prif wefan Eastenders. Cyn cyrraedd yn y BBC 9 mlynedd yn ôl, bu Sarah yn gweithio gyda AOL Time Warner.
Cysylltiadau defnyddiol
www.bbc.co.uk/eastenders
www.bbc.co.uk/e20
www.bbc.co.uk/beinghuman