15/04/2010, ATRiuM, Caerdydd
Digwyddiad unigryw i Gymru, cyfle i gynnyddu ymwybyddiaeth o effaith datblygiadau aml-blatfform ar y broses greadigol a comisiynnu cyfryngol.
"Mae Symposiwm Aml-Blatfform 2010 yn ddigwyddiad i’r rhai hynny sydd eisiau bod ar flaen y gad ym myd cystadleuol, aml-newidiol cynhyrchu cynnwys yr 21ain ganrif" Iona Williams, Prif Weithredwraig CYFLE
Roedd cyfle i –
- Rwydweithio gyda meddylwyr blaengar
- Wrando a rhyngweithio â siaradwyr o safon uchel
- Ddatblygu syniadau, creu cysylltiadau, a chael eich ysbrydoli
- Ehangu deallusrwydd o’r newid byd yn sgil aml-blatfform
Rhestr lawn o siaradwyr –
- ANDREW CHITTY, Illumina Digital Ltd
- STUART COSGROVE, Pennaeth Cenhedloedd a Rhanbarthau, Channel 4
- MATT LOCKE, Golygydd Comisiynu Addysg a Cyfryngau Newydd, Channel 4
- IAIN TWEEDALE, Golygydd Rhyngweithiol BBC Cymru Wales
- WIL STEPHENS, Cube Interactive
- DK, MediaSnackers
- JAMES KIRKHAM, Holler
- DAN HON, Six to Start
- JUSTINE POTTER, Savvy Productions
- EURYN OGWEN WILLIAMS, Ymgynghorydd ar y Cyfryngau
- NEIL MOSSEY, Ysgrifennwr Aml-Blatfform
- TIM WRIGHT, XPT Ltd
- SARAH CLAY, Comisiynydd Gweithredol Aml-Blatfform, Drama, BBC
Sesiynau 1-1 gyda Arbenigwyr Hawliau o'r Cwmni Cyfreithwyr Cyfryngol Blaenllaw Sheridans
Roedd Peter McInerney (Pennaeth Ffilm, Teledu a Chwaraeon) ac Alex Chapman (Pennaeth Meddalwedd Adloniant) o gwmni cyfreithwyr cyfryngol blaenllaw, Sheridans, ar gael i'w cyfarfod drwy gydol y dydd mewn sesiynnau oedd i'w archebu o flaen llaw. Roeddent yno i gynghori mynychwyr yn breifat ar faterion diogelu hawliau â'r dulliau mwyaf effeithiol o strwythuro dêl ar gyfer cynhyrchu, ariannu ac ymelwa o gynnwys digidol.
Pwy wnaeth fynychu? – Pobl sy’n gweithio ac yn astudio yn y diwydiannau cyfryngau creadigol (teledu, ffilm, aml-gyfryngol)
Pris isel anhygoel o £50 am y diwrnod (yn cynnwys TAW a lluniaeth)
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad byr am y Symposium ac i weld ambell lun o'r diwrnod!
Cyflwynir mewn partneriaeth â Skillset Cymru, ac ariannwyd gan S4C a TAC

RHYNGWEITHIO
Facebook - Hyfforddiant Cyfle Training
Twitter - Cyfle
Blogger - Hyfforddiant Cyfle Training