Gweler isod restr o'n cefnogwyr cyrfedol:

BBC Cymru yw'r unig wasanaeth darlledu cyhoeddus sy'n creu cynnwys yn y Gymraeg a'r Saesneg ar draws teledu, radio ac ar-lein. Mae BBC Cymru yn ymrwymo i adlewyrchu ac adrodd yr amrywiaeth o fewn bywyd Cymraeg trwy ei newyddion, materion cyfoes, cynnwys gwleidyddol, chwaraeon, drama, ffeithiol a diwylliannol yn y Gymraeg a'r Saesneg.
__________________

Mae S4C yn ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus sy’n darparu ystod o raglenni Cymraeg o safon uchel ar sawl llwyfan, gan gynnwys bandllydan. Caiff ei ariannu gan yr Adran dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU ar sail fformiwla statudol. Mae incwm masnachol ychwanegol yn cael ei greu drwy werthiant rhaglenni a hysbysebion. Mae S4C yn comisiynu’r sector cynhyrchu annibynnol i gynhyrchu’r rhan fwyaf o’i raglenni. Mae’r BBC yn darparu dros 10 awr yr wythnos. Mae ITV Cymru hefyd yn cael ei gomisiynu i gynhyrchu rhaglenni ar gyfer S4C.
__________________

Skillset yw’r corff diwydiannol sy’n cefnogi hyfforddiant a sgiliau pobl a chwmniau. Mae’n cynnig cyngor ac adnoddau i’ch helpu i ddatblygu eich gyrfa ymhellach.
__________________

Cymdeithas fasnach i gynrychioli buddiannau cynhyrchwyr annibynnol sy'n cynhyrchu rhaglenni ar gyfer darlledwyr Cymreig yw TAC. Mae TAC yn cynnig ystod eang o wasanaethau sydd yn cynnwys perthnasau diwydiannol a chyngor busnes a chyfreithiol yn ogystal ag yn gweithredu fel corff lobio a chynrychioladol mewn trafodaethau gyda darlledwyr, y llywodraeth, asianteithiau'r llywodraeth, ac amrywiaeth o gyrff eraill.
__________________

Mae Ymddiried yn rhoi cefnogaeth ariannol i unigolion sydd am ehangu eu sgiliau mewn teledu, ffilm, radio a chyfryngau newydd. Gall Ymddiried hefyd roi cymorth i fudiadau sy'n hybu datblygu sgiliau ac adnoddau addysgiadol er budd y sector gyfryngol.
__________________

Mae Academi+ Skillset yn rhaglen newydd o hyfforddiant galwedigaethol ar gyfer diwydiannau’r Cyfryngau Creadigol yng Nghymru fydd yn darparu prosiectau Datblygiad Proffesiynol Parhaol arloesol. Gall eich helpu chi i ddatblygu sgiliau newydd, i dyfu’ch busnes neu wella’ch siawns o sicrhau’r swydd ddelfrydol.
__________________

Mae Ysgol y Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol yn dod â phynciau creadigol Prifysgol Morgannwg at ei gilydd. Lleolir y campws, ATRiuM, yng nghanol Caerdydd.
__________________

Prifysgol Glyndŵr yw’r brifysgol ieuengaf yng Nghymru - sefydliad addysg newydd sy’n cefnogi ysbryd menter ac athroniaeth allblyg. Mae hyn yn cyhoeddi cyfnod newydd cyffrous i Wrecsam, Cymru, y gororau a’r byd academaidd.