Cwrs Undydd Datblygu App ar gyfer iPod/iPhone
Manylion y Cwrs
DYDDIADAU NESAF - I'w Gadarnhau yn y Flwyddyn Newydd
Ddim yn raglennydd/datblygwr? Dim problem! Dysgwch sgiliau newydd yn ein canolfannau hyfforddi yng Nghaernarfon neu Caerdydd.
Bydd y cwrs undydd hwn, a gynhelir UNAI yn ein Canolfan Hyfforddi NEWYDD yn Galeri, Caernarfon NEU yn ein Canolfan Hyfforddi ym Mae Caerdydd, yn eich dysgu sut i adeiladu apps iPod touch/iPhone syml wedi eu seilio ar gynnwys megis fideo, lluniau a testun, a darganfyddwch sut i’w rhoi i mewn i siop iTunes.
Cynnwys y Cwrs
- Cyflwyniad i Ddatblygu iOS
- Edrych ar ddulliau gwahanol o ddatblygu ar gyfer iPod
- Rhaglen Datblygwyr Apple
- Gosod yr SDK
- Creu cynnwys ar gyfer eich app
- Profi cynnwys yn yr iPhone Simulator
- Gweithio mewn SDK
- Cyflwyno’r SDK
- Mewnforio cynnwys
- Cyflwyniad i côdio
- Creu’r rhyngwyneb ()
- Creu eicon ar gyfer eich app
- Adeiladu a profi eich app
_____________________
Pwy ddylai fynychu? -
Pawb sydd â diddordeb mewn dysgu’r elfennau sylfaenol datblygu Apps ar gyfer iPhone ac iPod Touch.
Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o raglennu neu datblygu.
Cost y Cwrs: £135+TAW
___________
I sicrhau lle neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â shan@cyfle.co.uk neu ffoniwch 01286 668003.
Hyd Cwrs
1 diwrnod
Dyddiadau’r Cwrs
I'w Gadarnhau yn y Flwyddyn Newydd
Cost y cwrs
£135 + £27 V.A.T.
Tiwtoriaid
David Baugh, Learning in Touch
Mae David Baugh wedi ei hyfforddi fel athro cynradd ac mae ganddo brofiad dosbarth o ddysgu myfyrwyr o 5 – 18 oed fel cydlynydd TG mewn ysgol ac Ymgynghorydd ALL ar gyfer Sir Ddinbych gyda cyfrifoldeb am holl elfennau TG a e-Ddysgu mewn 65 ysgol. Erbyn hyn mae’n hyfforddwr annibynnol, yn awdur ac yn gynghorydd TG yn gweithio gydag ystod eang o sefydliadau.
Mae wedi bod yn ‘Apple Distinguished Educator’ am 9 mlynedd ac mae’n ‘Apple Certified Trainer’. Ennillodd wobr Defnydd Greadigol o TG gan y Gwobrau Dysgu yn 2000 a gwobr ‘ICT in Practice’ BECTA a yn 2011.
Mae ganddo ddiddordeb mewn datblygiad creadigrwydd mewn addysg, yn enwedig mewn perthynas â perthnasedd defnyddio’r cyfryngau digidol yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r diddordeb yma wedi arwain at archwiliadau hir-dymor i ddefnydd ac arfer gorau fideo digidol ac amlgyfrwng mewn addysg a’i rôl yn y broses ddysgu greadigol.
Yn fwyaf diweddar bu’n awdur ac yn ddatblygydd y ‘Digital Cre8or Award’ sydd yn cynnig cymhwyster Lefel 1 a 2 sy’n gyfystyr â ECDL ac sy’n galluogi myfyrwyr ac athrawon i dderbyn achrediad am ddefnydd creadigol o’r cyfryngau digidol. (www.bcs.org/digitalcreator).
Mae Learning in Touch wedi ei gofrestru fel Canolfan Hyfforddi Rhanbarthol Apple (symudol).
![]()
Lleoliad
Canolfan Hyfforddi Cyfle, 33-35 Stryd West Bute, Bae Caerdydd, CF11 5LH
neu
Canolfan Hyfforddi Cyfle, Caernarfon