Courses

Busnes y Cyfryngau Cymdeithasol

Manylion y Cwrs

Dyddiadau Nesaf: Cyrsiau ar gael yng Nghaernarfon neu Caerdydd, hefyd yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth trefnu cwrs yn arbennig ar gyfer eich cwmni chi a allai gael ei gynnal yn ei swyddfa chi, cysylltwch am fanylion - shan@cyfle.co.uk.

"Mae'r cwrs yma wedi gwella ystod fy ngwaith fy hun ar y rhyngrwyd, ac social media 690x282_NAQh5_case_study_l.jpgwedi gwneud i fi ddeall sut mae defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn fwy effeithiol...cwrs gwych" Jac Bond, mynychydd cwrs Gorffennaf 2011

Mae nifer o fusnesau bellach yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn creu perthnasau ymglymol gyda pobl a marchnadoedd, cysylltu am gynnyrch, cynnig bargeinion arbennig, datblygu ffyddlondeb cwsmer ac i ymateb i gwestiynnau a thrafodaethau am eu brand.

  • Sut mae modd i chi ddefnyddio teclynnau’r cyfryngau digidol er mwyn cyrraedd yr amcanion busnes yma?
  • Sut gall y cyfryngau digidol gael ei ddefnyddio er mwyn annog creadigrwydd, taclo problemau, galluogi cydweithredu, datblygu cynulleidfaoedd ac adrodd straeon?
  • Pa declynnau sy’n addas ar gyfer eich gwaith chi a beth mae’n nhw’n ei wneud?
  • Sut wyt ti’n mynd o gofrestru i gael cyfri ar declyn arlein i’w ddefnyddio’n effeithol ar brosiect go iawn?

Bydd y cyfranogwyr yn cael y cyfle i archwilio’r cwestiynnau yma a chael profiad ymarferol ar lwyfannau sy’n boblogaidd ar hyn o bryd.

Cynhelir y cwrs yma drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. Gweler y dyddiadau am fanylion iaith pob cwrs.

__________

Cynnwys y Cwrs

  • Diffiniadau a galluoedd y cyfryngau digidol a cymdeithasol
  • Goblygiadau diwylliannol a busnes â’r potensial gydag esiamplau ysbrydoledig
  • Defnydd craff o Facebook: proffiliau, grwpiau, tudalennau, digwyddiadau, llefydd a thaith o gwmpas Facebook mewn cyswllt prosiect go iawn
  • Twitter fel rhwydwaith newyddion cymdeithasol a sgyrsio: cyfrifau, hashtags, crybwylliadau, rhestrau, analytics, negeseuon, cwtogwyr URL, teclynnau monitro, datblygu rhwydwaith
  • Diwylliant a nodweddion YouTube: fel llwyfan cyhoeddi fideo ac fel cymuned
  • Flickr fel llwyfan cyhoeddi lluniau a llyfrgell delweddau am ddim – gydag amodau
  • Blogio: calon cyfryngau cymdeithasol. Edrych ar WordPress â’r cynnydd mewn ffurfiau mwy cyfoethog o drafodaethau arlein
  • RSS, modelau tanysgrifio a chwilio
  • Sut i ddefnyddio LinkedIn i ddarganfod prosiectau a cydweithredwyr
  • Gwneud penderfyniadau a cynllunio ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol: beth sy’n addas – beth am llais y cwmni yn erbyn y llais unigol? Fydd unrhyw strategaeth, teclyn neu lwyfan benodol yn gynaladwy yn y tymor hir?
  • Pryd ddylai ein bod ni’n defnyddio llwyfannau sy’n bodoli eisoes a phryd ddylai ein bod ni’n creu rhai ein hunain?
  • Yr Iaith Gymraeg a materion dwyieithrwydd mewn cyfryngau digidol, archwiliad o’r prif heriau (cwrs Iaith Gymraeg yn unig)

__________

Pwy Ddylai Fynychu?

Unigolion sy’n gweithio mewn marchnata, hyrwyddo neu datblygu busnesau bychan a mawrion yn ogystal a sefydliadau.

__________

I archebu lle neu i ofyn cwestiwn cysylltwch â shan@cyfle.co.uk / 01286 668003

Talu drwy Anfonebbutton

Hyd Cwrs

Deuddydd

Dyddiadau’r Cwrs

I'w gadarnhau

Cost y cwrs

£250 + £50 V.A.T.

Tiwtoriaid

Pwy yw Native HQ?

Am wybodaeth bellach ar NativeHQ ewch i www.nativehq.com/index.php/about/

nativehq_MeUTx_tutor_logo.jpg

Lleoliad

Canolfan Hyfforddi Cyfle Caerdydd, 33-35 Stryd West Bute, Bae Caerdydd, CF10 5LH


View Larger Map

NEU

Canolfan Hyfforddi Cyfle Caernarfon, Galeri 13, Doc Victoria, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SQ

 
View Larger Map

RSS
mailing-list Join our mailing list Join our mailing list Join our mailing list