Final Cut Pro 7 - Golygu ar gyfer rhai nad ydynt yn olygyddion
Manylion y Cwrs
Dyddiadau Cyrsiau: Mai 10+11 (Caerdydd) / Mai 28+29 yn Aberystwyth (lleoliad newydd)
Cwrs dechreuol wedi ei gynllunio i fynd a chi drwy brif elfennau golygu gyda Final Cut Pro 7.
Mae’r cwrs yma’n agored i’r rhai sy’n byw a/neu yn gweithio mewn ardaloedd ESF Cymru yn unig (gweler Ydw i’n Gymwys? isod am fanylion). Os nad ydych chi'n gymwys, rydym yn cynnig cwrs FCP arall sy'n agored i bawb hefyd, EWCH YMA am fanylion.
Mae’r hyfforddiant yn cynnig dysgu ymarferol proffesiynol, gan ddarparu pobl broffesiynol nad ydynt o gefndir golygyddol â’r cyfle i ddefnyddio swyddogaethau golygu sylfaenol FCP 7. Bydd yr hyfforddiant hefyd yn darparu dealltwriaeth o’r broses golygu mewn perthynas â graddau eraill yn y broses gynhyrchu, a pwysigrwydd strwythr naratif, estheteg â’r gynulleidfa.
Dysgir y cwrs gan yr Hyfforddwr Apple Trwyddedig, Neil Sinclair, a bydd y mynychwyr yn defnyddio'r feddalwedd a'r caledwedd ddiweddaraf sy'n cynnwys -
- deg iMac 21.5 modfedd, sgrîn lydan 16:9 newydd sbon gyda 3.06 GHz Intel Duo Core 2 processor a 4 GB o 1066mhz DDR3 SDRAM
- Final Cut Studio 3 - sy'n cynnwys Final Cut Pro 7, Motion 4, Soundtrack Pro 3, Color 1.5, Compressor 3.5 a DVD Studio Pro 4.
Lleolir yr hyfforddiant unai yn ein canolfan hyfforddi yng Nghaernarfon neu Caerdydd, yn dibynnu ar y galw.
PWYSIG - Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod bellach yn gallu cynnig rhai cyrsiau yn Aberystwyth. Bydd y cyntaf o'r rhain yn cael i gynnal ar y 5+6 o Fawrth.
__________
Ydw i’n Gymwys?
Sylwer bod cynnal y cyrsiau yma wedi ei wneud yn bosib drwy Skillset Cymru, a gefnogir gan £2.7m o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Lywodraeth Cymru, gyda gweddill yr arian yn cael ei ddarparu gan y darlledwr Cymraeg S4C, y gymdeithas fasnach ar gyfer cynhyrchwyr ffilm a theledu annibynnol Cymru, Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC).
Prif fwriad rhaglen Sgiliau i’r Economi Ddigidol yw i ddatblygu a dosbarthu darpariaeth sgiliau hyblyg, ar lefel uchel , sy’n cael ei arwain gan y diwydiant ac sy’n addas ar gyfer anghenion cyflogwyr a pobl llawrydd y Cyfryngau Creadigol sy’n byw ac yn gweithio yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, gan gefnogi’r economi gwybodaeth a diogelu perfformiad a chynhychedd y sector yn yr ardaloedd yma. Bydd y prosiect hefyd yn ceisio cynnyddu’n sylweddol y cyfleoedd hyfforddiant ar gyfer Newydd Ddyfodiaid/Pobl Broffesiynol Iau yn yr ardaloedd yma.
Ar sail hyn, bydd rhaid i fynychwyr y cyrsiau yma fod unai yn byw neu yn gweithio o fewn yr ardaloedd Cydgyfeiriant h.y.
- Ynys Môn
- Gwynedd
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Ceredigion
- Sir Gaerfyrddin
- Sir Benfro
- Abertawe
- Nedd Port Talbot
- Penybont
- Merthyr Tydful
- Rhondda Cynon Taf
- Torfaen
- Caerffili
- Blaenau Gwent
Cliciwch yma i weld map o'r ardaloedd cymwys.
___________________
Cost y Cwrs: Cost llawn y cwrs fydd £450+TAW, OND gallai'r rheiny sy'n gymwys am Fwrsari Skillset fynychu am £90+TAW!
Cysylltwch â Shân am sgwrs am sut y gallwch dderbyn nawdd i dalu am eich hyfforddiant ar 01286 668003 neu ebostiwch shan@cyfle.co.uk

Hyd Cwrs
Deuddydd
Dyddiadau’r Cwrs
16+17 Ebrill (Caerdydd) / 28+29 Mai (Aberystwyth)
Cost y cwrs
£450 + £90 V.A.T.
Cefnogaeth Ariannol
Bwrsariaethau Skillset Cymru
Grantiau yw Bwrsariaethau Skillset Cymru ar gyfer unigolion sy'n gweithio yn y diwydiant teledu Cymreig ac sydd eisiau buddsoddi mewn hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Rheolir y gronfa gan Skillset a daw'r cyllid o'r darlledwr S4C â'r gymdeithas fasnach Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC).
Mae dwy gronfa ariannu, Bwrsariaethau Llawrydd Skillset Cymru a Bwrsariaethau Skillset Cymru ar gyfer Golygyddion.
Tiwtoriaid
Neil Sinclair
Hyfforddwr Profiadol
![]()
Mae gan Neil dros 27 mlynedd o brofiad fel golygydd gyda gwybodaeth helaeth mewn darlledu fideo ac ôl gynhyrchu. Mae o wedi gweithio ar raglenni ar hyd pob agwedd o ddarlledu, o fideos pop a phromos, i ddramâu a dogfennau, defnyddio ffilm a systemau Avid, Quantel ac Apple. Ar hyn o bryd, mae Neil yn gweithio fel Uwch Olygydd gyda S4C. Cyn hynny, gweithiodd am nifer o flynyddoedd fel golygydd llawrydd ar gyfer BBC Cymru, ITV a Channel 4 ynghyd a nifer o gwmnïau annibynnol eraill.
Hyfforddwr Apple Ardystiedig
Mae Neil wedi bod yn Hyfforddwr Apple Ardystiedig ar gyfer Final Cut Pro ers 2005 (gan ychwanegu ‘Motion’ yn 2007) ac ers hynny, mae wedi bod yn darparu hyfforddiant i olygyddion llawrydd a staff cynhyrchu yng Nghymru ar gyfer cwmnïau fel Cyfle, Skillset Cymru, Derwen ac ITV Cymru.
Gyda phrofiad ym mhrif agweddau fformatau HD a’u defnydd o fewn Stiwdio Final Cut a dealltwriaeth gynhwysfawr o dechnegau ‘transcoding’ a chywasgu, mae profiadau Neil yn hanfodol ar gyfer amgylchedd aml-fformat heddiw.
Lleoliad
Canolfan Hyfforddi Cyfle, 33-35 Stryd West Bute, Bae Caerdydd CF10 5LH
Arianwyr a Cefnogwyr
Gwnaed y prosiect yma’n bosibl drwy Skillset Cymru, a gefnogir gan £2.7m o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Lywodraeth Cymru, gyda gweddill yr arian yn cael ei ddarparu gan y darlledwr Cymraeg S4C, y gymdeithas fasnach ar gyfer cynhyrchwyr ffilm a theledu annibynnol Cymru, Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC).
