Hyfforddiant Asesu Risg Iechyd a Diogelwch: Ail-gymhwyso
Manylion y Cwrs
DYDDIADAU NESAF - 15 Mai (DYDDIAD NEWYDD- Caernarfon, cyfrwng Cymraeg) / 20 Mehefin (Caerdydd- Llawn)
Cwrs diwrnod i ddiweddaru gwybodaeth am unrhyw newidiadau mewn deddfwriaeth ynghyd â sicrhau bod y mynychwyr yn parhau i gwblhau asesiadau risg yn gywir. Mae'n ofynnol i unigolion sy'n cynhyrchu, ail-gymhwyso bob tair mlynedd.
Mae'r cwrs yma wedi cael ei awdurdodi a'i gydnabod fel rhan o Pasport Diogelwch Cynhyrchu (Production Safety Passport (PSP)) y diwydiant.
Cynhelir y cwrs newydd yn fisol* ar gyfer hyd at 8 o fynychwyr o'r diwydiant.
____________
Os nad ydych yn siwr pryd mae'ch cymhwyster yn dod i ben, neu am ragor o wybodaeth ar y cwrs, cysylltwch â Shân Gwenfron Jones ar 01286 668003 neu shan@cyfle.co.uk
____________
Cynnigir y cwrs yma yng Nghaerdydd neu Caernarfon, ac hefyd yn y Gymraeg neu'r Saesneg yn dibynnu ar y galw.
Cost y Cwrs: £200+TAW (Bwrsariaethau ar gael - gweler Cefnogaeth Arianol isod am fwy o fanylion)
Hyd Cwrs
1 diwrnod
Dyddiadau’r Cwrs
15 Mai (Caernarfon) / 20 Mehefin (Caerdydd- LLAWN)
Cost y cwrs
£200 + £40 V.A.T.
Cefnogaeth Ariannol
Mae Bwrsariaethau Skillset Cymru i Weithwyr Llawrydd bellach ar gael i'r rheiny sy'n gweithio yn y diwydiant Ffilm a Theledu er mwyn mynychu'r cwrs hwn.
Ewch i wefan Skillset am fwy o fanylion - CLICIWCH YMA
Mae Bwrsariaethau Iechyd a Diogelwch Skillset (DU) bellach ar gael i'r rheiny sy'n gweithio yn y diwydiant Ffilm a Theledu er mwyn mynychu'r cwrs hwn.
Ewch i wefan Skillset am fwy o fanylion - http://www.skillset.org/funding/individuals/hs_bursaries/index_2.asp
Tiwtoriaid
Huw Aled
Mae gan Huw Aled gymhwyster NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch, ac mae'n diwtor cyson ar gyrsiau Iechyd a Diogelwch i gwmniau cynhyrchu, gan ddysgu gofynnion cyfreithiol sylfaenol Iechyd a Diogelwch y DU a sut i baratoi asesiadau risg.
Rheolwr Cynhyrchu a Hyfforddwr Technegol
Mae'n Reolwr Cynhyrchu profiadol, yn ogystal a bod yn hyfforddwr technegol, gan ddarparu hyfforddiant o'r safon uchaf. Gyda dros 31 mlynedd o brofiad, mae'n adnabod y diwydiant creadigol fel cefn ei law.
Lleoliad
Canolfan Hyfforddi Cyfle, 33-35 Stryd West Bute, Bae Caerdydd, CF11 5LH
neu
Canolfan Hyfforddi Cyfle, Galeri 13, Doc Fictoria, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SQ