Hyfforddiant Cychwynnol: Amddiffyn Plant NSPCC
Manylion y Cwrs
DYDDIAD NESAF - 27 MEHEFIN 2012 (Caerdydd)
Gweithdy Amddifyn Plant ar gyfer unigolion dynodedig mewn cydweithrediad â'r NSPCC.
Os oes digon o ddiddordeb bydd dyddiad pellach yn cael ei drefnu yng Nghaernarfon.
Wedi ei gynllunio ar gyfer rheiny sydd heb dderbyn unrhyw hyfforddiant amddiffyn plant yn y gorffennol, bydd y cwrs undydd hwn yn galluogi cyfranogwyr i ymateb yn briodol i bryderon ynglŷn â diogelwch a lles person ifanc neu blentyn, ac i gyfrannu tuag at greu amgylchfyd amddiffynnol.
BWRIAD: I alluogi cyfranogwyr i ymateb yn briodol i bryderon ynglŷn â diogelwch a lles person ifanc neu blentyn, ac i gyfrannu tuag at greu amgylchfyd amddiffynnol.
AMCAN: Erbyn diwedd y dydd, dylech fedru:
- Trafod beth sy’n cyfrif fel camdrin plant, a sut i’w adnabod.
- Adnabod deddfwriaeth ac arweiniad yng nghyd-destun amddiffyn plant.
- Ymateb i bryderon amddiffyn plant o fewn canllawiau eich sefydliad.
- Dynodi ffactorau sy’n cyfrannu tuag at amgylchedd amddiffynnol.
- Sicrhau fod amrywiol faterion yn cael eu hintegru’n llawn i’r broses amddiffyn plant.
- Adnabod pwysigrwydd eich swyddogaeth i sicrhau diogelwch ac amddiffyniad pobl ifanc.
_________
Am fwy o wybodaeth am y cwrs yma neu i archebu lle pan mae dyddiad ar gael cysylltwch â shan@cyfle.co.uk neu 01286 668003.
Hyd Cwrs
1 Diwrnod
Dyddiadau’r Cwrs
27 Mehefin 2012
Cost y cwrs
£150 + £30 V.A.T.
Cefnogaeth Ariannol
Bwrsariaethau Skillset Cymru
Grantiau yw Bwrsariaethau Skillset Cymru ar gyfer unigolion sy'n gweithio yn y diwydiant teledu Cymreig ac sydd eisiau buddsoddi mewn hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Rheolir y gronfa gan Skillset a daw'r cyllid o'r darlledwr S4C â'r gymdeithas fasnach Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC).
Mae dwy gronfa ariannu, Bwrsariaethau Llawrydd Skillset Cymru a Bwrsariaethau Skillset Cymru ar gyfer Golygyddion.
Tiwtoriaid
Veronica Grant, NSPCC
Mae NSPCC yn cael ei ysbrydoli gan y gred bod posb i ni wneud gwahaniaeth i bob plentyn. Dyma pam ein amcan yw i waredu ar gamdrin plant yn y DU. Hyd yn oed os na wireddir hyn am rai cenedlaethau, fe wnawn lwyddo i wneud llawer mwy ar gyfer plant drwy gadw at y weledigaeth ysbrydoledig hwn.
Lleoliad
Canolfan Hyfforddi Cyfle, 33-35 Stryd West Bute, Bae Caerdydd CF10 5LH
Arianwyr a Cefnogwyr
