MAE'R DYDDIAD CAU AR GYFER Y CWRS YMA WEDI PASIO - POB LWC OS YDYCH CHI WEDI YMGEISIO!
CYNLLUN HYFFORDDI 10 MIS - AMRYWIAETH
BBC CYMRU WALES
CANLLAWIAU YMGEISIO
Gofynnwn i chi dreulio amser yn darllen y canllawiau ymgeisio hyn cyn i chi lenwi’r ffurflen gais. Mae hyn yn hanfodol i chi gael dealltwriaeth glir o’r cynllun a’r hyn sydd yn ddisgwyliedig ohonoch chi.
MAE'R WYBODAETH I GYD AR Y DUDALEN HON, OND OS OES YN WELL GENNYCH GALLWCH LAWRLWYTHO FERSIWN WORD I'CH CYFRIFIADUR DRWY GLICIO AR Y LINC YMA.
CEFNDIR I'R CYNLLUN
Os ydych chi wedi bod yn chwilio am ffordd o lansio’ch gyrfa a bod gennych angerdd dros ddarlledu ,ac eisiau gweithio gyda’r gorau, gallai’r cynllun hyfforddi unigryw hwn gynnig yr ateb. Mae’r cyfle hwn yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth rhwng Cyfle a BBC Cymru Wales. Rydym yn chwilio am 3 hyfforddai i fod yn rhan o’r fenter wych hon yn cynnig cyfle delfrydol i unigolyn dawnus ennill profiad go iawn o’r diwydiant; hyfforddi yn y gwaith a datblygu sgiliau penodol; cael cefnogaeth ac arweiniad parhaus gan rai o brif weithwyr proffesiynol y diwydiant, ynghyd â chyfle unigryw i gyfrannu’n weithgar i gynyrchiadau BBC Cymru Wales.
Mae’r cynllun gweithred positif hwn wedi ei amcanu at ymgeiswyr o gefndir du a lleiafrifoedd ethnig. Ei bwrpas yw i annog potensial pobl dalentog a chreadigol o gefndiroedd du ac ethnig lleiafrifol sydd yn chwilio am ddatblygu gyrfa yn y diwydiant.
Mae hwn yn gynllun sydd yn gweithredu’n gadarnhaol. Mae wedi cael ei ddatblygu’n gytun gydag adran 37 Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 er mwyn annog grwpiau Du ac Ethnig Lleiafrifol i gyrraedd potensial mewn hyfforddiant sy’n gweithredu’n bositif mewn ardaloedd gwaith sydd yn dangos tan gynrychiolaeth.
At bwrpas y cynllun hyfforddi sy’n gweithredu’n gadarnhaol yma, mae’r grwpiau hil canlynol yn cael eu targedu’n benodol a byddant yn cael eu galw fel grwp yn ‘Lleiafrif Ethnig’ –
- Asaidd
- Asaidd/Prydeinig
- Du/Prydeinig
- Du/Arall
- Tseineaidd
- Dwyrain Canol/Agos
- Ethnig Gymysg
PWY YW CYFLE?
Cyfle yw cwmni hyfforddi Diwydiannau’r Cyfryngau Creadigol, Cymru. Sefydlwyd Cyfle yn 1986 i hyfforddi technegwyr ar gyfer y diwydiant i ymateb i ddyfodiad S4C. Yn ystod 2000 enillodd Cyfle ei statws fel Darparwr Hyfforddi Cenedlaethol Swyddogol Skillset (y Cyngor Sgiliau Sector). Cyfle yw’r prif borth mynediad i’r diwydiant ar gyfer newydd ddyfodiaid ac mae’n cynnig cymorth hyfforddi ymarferol i weithlu'r diwydiant.
PWY YW BBC CYMRU?
BBC Cymru Wales yw darlledwr y genedl. Y maent yn cynnig ystod eang o ddarpariaeth yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer cynulleidfaoedd ledled Cymru ar y teledu, y radio a thrwy eu gwefannau. Mae eu rhaglenni teledu ar gael ar BBC ONE Wales, BBC TWO Wales, BBC iPlayer ac S4C. Yr ydyn nhw hefyd yn cynnig dwy orsaf radio genedlaethol, BBC Radio Cymru (Cymraeg) a BBC Radio Wales (Saesneg). Mae eu cynyrchiadau teledu rhwydwaith, gan gynnwys Doctor Who a Torchwood, yn denu miliynau o wylwyr drwy’r byd i gyd.
PWY SY’N ARIANNU’R CYNLLUN HWN?
Ariannir y cynllun hwn gan BBC Cymru Wales, Academi + Skillset a HEFCW ac fe’i chefnogir gan Skillset.
BETH YW’R CYNLLUN A BETH YW STRWYTHUR YR HYFFORDDIANT?
Cynllun hyfforddi 10 mis llawn amser galwedigaethol newydd ddyfodiaid dwys yw hwn. Rydym yn chwilio am 3 hyfforddai yn y meysydd canlynol:
- Cynorthwy-ydd Rheoli Cynhyrchu dan hyfforddiant x 2
- Dylunydd Graffeg Iau dan hyfforddiant x 1
Sicrhewch eich bod wedi darllen swydd ddisgrifiadau’r hyfforddai ar gyfer bob maes uchod cyn i chi lenwi’r ffurflen gais.
Dyma strwythur y cynllun hyfforddi:
- Bydd y cynllun yn dechrau gyda chwrs rhagarweiniol diwydiant 4 wythnos yn cynnwys sesiynau gyda gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant a gweithdai ymarferol.
- Wedi cwblhau’r cwrs rhagarweiniol bydd pob hyfforddai yn derbyn hyfforddiant ar leoliad gyda BBC Cymru Wales. Bydd pob hyfforddai yn derbyn hyfforddiant gan weithwyr proffesiynol yn ogystal â chreu cysylltiadau gwerthfawr ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.
- Bydd pob hyfforddai yn cael cynlluniau hyfforddi unigol a chyfarfodydd monitro cyson yn ystod y cynllun.
- Bydd yr hyfforddai yn mynychu cyrsiau byrion yn ogystal â derbyn cyfleoedd i fynychu gweithdai a digwyddiadau rhwydweithio a gwyliau.
- Bydd mentor profiadol o’r diwydiant wedi’i neilltuo i bob hyfforddai.
- Bydd yr hyfforddai yn derbyn Cyngor Gyrfaoedd ac Arweiniad yn ystod y cynllun gan staff Cyfle, pobl broffesiynol o’r diwydiant a Chynghorwyr Gyrfaoedd Skillset.
- Bydd yr hyfforddai yn mynychu ‘Rhaglen Gloi’ ar ddiwedd y cyfnod hyfforddi er mwyn paratoi’r hyfforddai am waith ar ôl Cyfle. Bydd gweithdai gan bobl yn y diwydiant yn trafod y pynciau fel CVs, hunan-farchnata, sgiliau negydu, sgiliau rwyd-weithio, a bod yn llawrydd.
MEINI PRAWF A PHROSESAU DETHOL:
- Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddod o gefndir du a lleiafrifoedd ethnig.
At bwrpas y cynllun hyfforddi sy’n gweithredu’n gadarnhaol yma, mae’r grwpiau hil canlynol yn cael eu targedu’n benodol a byddant yn cael eu galw fel grwp yn ‘Lleiafrif Ethnig’ – Asaidd; Asaidd/Prydeinig; Du/Prydeinig; Du/Arall; Tseineaidd; Dwyrain Canol/Agos; Ethnig Gymysg
- Mae’n rhaid bod yn18 oed neu hyn.
- Mae’r cynllun hwn yn agored i ymgeiswyr sydd wedi cael eu geni yng Nghymru neu sydd wedi bod yn byw yng Nghymru am o leiaf y 2 flynedd diwethaf.
- Mae angen trwydded yrru lawn ar bob ymgeisydd.
- Mae’n rhaid i chi fod yn newydd ddyfodiad gyda llai na 12 mis o brofiad o weithio yn y diwydiant.
- Mae angen trwydded yrru lân ar bob ymgeisydd yn ddelfrydol.
- Rydym yn gofyn i chi ymgeisio am un swydd hyfforddi yn unig o fewn y cynllun hwn.
- Oherwydd cyfyngiadau ariannol, ni allwn gefnogi unrhyw un sydd mewn addysg amser llawn ar hyn o bryd
- Mae’n rhaid i chi fod ar gael am gyfnod cyfan yr hyfforddi fel yr amlinellir.
- Mae angen i’r ymgeiswyr lenwi’r ffurflen gais priodol. Dim ond gwybodaeth sydd ar y ffurflen swyddogol yr ydym yn fodlon ei ystyried ar yr adeg hon, felly peidiwch ag anfon eich CV, lluniau na unrhyw ddeunydd arall atom ar hyn o bryd.
Rydym ni’n awyddus i wybod:
- Pa gamau rydych chi eisoes wedi eu cymryd i gael profiad o fewn y diwydiant.
- Pam fod y cynllun hwn, fwy nag unrhyw gwrs arall, yn mynd i wella’ch cyfle o gael gwaith yn y diwydiant.
- Beth yr ydych chi wedi ei wneud a fydd yn dangos i ni eich bod yn gweithio’n effeithiol mewn tîm ac yn berchen ar ystod eang o brofiad o fewn a thu hwnt i addysg ffurfiol.
- Eich bod yn hyblyg ac yn meddu ar y sgiliau cyfathrebu sydd eu hangen i weithio yn y diwydiant heddiw.
- Am y gwaith yr ydych eisoes wedi gwneud yn y maes ac unrhyw brofiadau datrys problemau yr ydych chi wedi eu cael.
Oherwydd nifer y ceisiadau yr ydym yn eu disgwyl i dderbyn ni allwn ymateb i bob ymgeisydd. Felly os nad ydych wedi clywed gennym 3 wythnos ar ol y dyddiad cau, mae’n golygu nad ydych wedi cael eich dethol am gyfweliad y tro hwn.
Awgrymwn y dylsech gysylltu â Skillset, y Cyngor Sgiliau ar gyfer y Diwydiannau Creadigol ar www.skillset.org am fwy o gyngor a gwybodaeth ar hyfforddiant yn y diwydiant. Am gyngor gyrfau gan weithiwr proffesiynol o’r cyfryngau, cysylltwch â Skillset Cymru careers ar 0800 0121 815, neu drwy e-bost ar walescareers@skillset.org
CYFWELIADAU
- Cynhelir cyfweliadau rhwng y 19eg a 30ain Ebrill 2010.
- Dylai’r ymgeiswyr wneud yn siŵr eu bod ar gael yn ystod yr wythnos gyfweld am nad yw hi’n bosib ail-amserlennu’r cyfweliadau.
Os cewch eich dethol ar gyfer eich cyfweld, bydd yn rhaid i chi ddangos:
- fod gennych y gallu i gyfathrebu'n glir.
- fod gennych chi ddealltwriaeth o’ch swydd, o Cyfle a BBC Cymru Wales, a bod gennych y potensial i gyrraedd anghenion manwl a gofynion iechyd a diogelwch y diwydiant.
Bydd y paneli cyfweld yn cynnwys pobl o BBC Cymru Wales a staff Cyfle.
Byddwn ni’n gadael i chi wybod os oes rhaid i chi baratoi unrhyw ddeunydd ar gyfer y cyfweliad ymlaen llaw. Fodd bynnag mae croeso i chi ddod ag unrhyw beth sydd yn arddangos eich sgiliau, dealltwriaeth a’ch potensial i weithio a hyfforddi yn y diwydiant.
Os ydych yn llwyddiannus yn dilyn cyfweliad, yn amodol ar ddau eirda boddhaol, bydd cynnig ysgrifenedig yn cael ei wneud. Bydd y cynllun yn dechrau ar y 7fed o Fehefin 2010.
PA GYMWYSTERAU A PHROFIAD SYDD EU HANGEN AR GYFER Y CYNLLUN?
Mae pob swydd ddisgrifiad yn cynnwys pa sgiliau, cymwysterau a phrofiad sydd eu hangen ond y prif feini prawf yw talent, ymroddiad amlwg, penderfynoldeb a dealltwriaeth ymarferol o’r diwydiant. Mae unrhyw gymwysterau sydd gennych chi yn y maes hefyd yn ddefnyddiol, ac fe ddylech chi sôn am y rhain yn eich cais. Mae gennym ddiddordeb mawr yn yr hyn mae’r ymgeisydd wedi ei wneud, tu hwnt i astudio, i geisio symud eu gyrfa yn y diwydiant yn ei flaen.
A FYDDAF YN DERBYN LWFANS HYFFORDDI?
Byddwch yn derbyn lwfans hyfforddi wythnosol o £200 (rhydd o dreth ond bydd rhaid tynnu cyfraniadau yswiriant cenedlaethol).
BETH SYDD YN DDISGWYLIEDIG OHONOF I OS CAF FY NERBYN AR Y CYNLLUN?
- Tra eich bod ar leoliad, mae’r diwrnodau yn gallu bod yn hir, gydag oriau anghymdeithasol i’r Cynorthwy-ydd Rheoli Cynhyrchu dan hyffordiant. Yn aml fe fydd cynyrchiadau yn saethu dros benwythnosau. Gall amodau ar gynyrchiadau fod yn ingol a blinedig. Fel Dylunydd Graffeg Iau dan hyfforddiant bydd rhaid i chi weithio i ddyddiadau cau ac o bosib bydd rhaid gweithio oriau hir er mwyn cwblhau’r gwaith. Ar gyfer y 2 swydd bydd disgwyl i chi weithio fel aelod iau ac ymgymryd â thasgau a osodir gan eich goruchwyliwr. Bydd pob person yn gyswllt proffesiynol i’ch helpu chi gyda chyflogaeth yn y dyfodol. Wrth sicrhau eich bod chi’n ewyllysgar, brwdfrydig ac yn flaenweithgar bydd posibilrwydd bod yr hyfforddai yn cael mwy o gyfrifoldeb.
- Bydd disgwyl i chi fynychu cyfarfodydd monitro gydag aelod o staff Cyfle a chynrychiolydd o’ch lleoliad hyfforddi.
- Bydd rhaid i chi gwblhau taflenni amser misol.
SUT FYDD CYFLE YN FY NGHEFNOGI I AR Y CYNLLUN?
- Bydd aelod o staff Cyfle yn gweithio gyda phob hyfforddai i greu cynllun hyfforddi unigol fydd yn dynodi anghenion hyfforddi’r unigolyn.
- Bydd cynnydd yn cael ei fonitro yn ôl y cynllun hyfforddi unigol yn ogystal â Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol y diwydiant (cymeradwywyd gan Skillset).
- Bydd aelod o staff Cyfle yn cyfarfod gyda’r hyfforddai i drafod cynnydd, ac fe fydd yr aelod o staff y cwmni ar gael i gynnig cefnogaeth a chyngor pan fo’r angen.
- Bydd arolygydd y cwmni yn rhoi adborth i Cyfle am gynnydd yr hyfforddai, ac fe ddefnyddir hyn ar gyfer monitro anghenion hyfforddi.
BETH WNAF I GYFLAWNI MEWN 10 MIS?
Gobeithiwn erbyn diwedd y lleoliad y byddai’r hyfforddai wedi cael gwybodaeth, profiad a chymwyseddau penodol yn y meysydd canlynol:
- Dealltwriaeth gynhwysfawr o’r adran a’r rolau yn yr adran honno.
- Wedi ennill gwybodaeth am y prosesau gwahanol a’r gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r swydd, a dealltwriaeth sylfaenol o’r rhain.
- Wedi gwella’i gysylltiadau yn y diwydiant a’i wybodaeth rhwydweithio.
- Yn meddu ar ddealltwriaeth well o’r llwybrau gyrfaol a’r gefnogaeth ranbarthol amrywiol sydd ar gael i’r rheiny sy’n newydd i’r cyfryngau.
- Profiad o’r diwydiant.
- Dealltwriaeth glir o anghenion hyfforddi presennol ag anghenion a ddaw i’r amlwg.
HINTIAU AC AWGRYMIADAU
- Darllenwch yr hysbyseb, swydd ddisgrifiadau a’r canllawiau ymgeisio yn fanwl a gwnewch yn siŵr eich bod yn glir am ba sgiliau sydd eu hangen.
- Byddwch yn glir am yr hyn sydd wedi’ch denu chi i wneud cais am y swydd.
- Nodwch sut mae eich profiad yn berthnasol.
- Nodwch sut mae eich sgiliau yn cyfateb i ofynion y swydd – RHOWCH ENGHREIFFTIAU!
- Dangoswch unrhyw sgiliau trosglwyddadwy sydd gennych, sy’n berthnasol.
- Llenwch bob adran o’r ffurflen gais a’r ffurflen fonitro.
- Edrychwch ac edrychwch eilwaith am gamsillafu a chamgymeriadau – EDRYCHWCH ETO!
- Dylech gyfleu eich sgiliau, rhinweddau a phrofiadau yn glir.
- Rhowch argraff gadarnhaol a brwdfrydig.
- Byddwch yn onest – allwch chi ategu’ch honiadau mewn cyfweliad?
- Cadwch gopi o’r ffurflen i gyfeirio ati cyn cyfweliad.
- CYFLWYNWCH Y FFURFLEN GAIS A’R FFURFLEN FONITRO CYN Y DYDDIAD CAU.
GWYBODAETH BWYSIG ARALL:
Oherwydd nifer y ceisiadau yr ydym yn eu rhagweld, ni allwn dderbyn ymholiadau dros y ffôn ynglŷn â derbyn ceisiadau.
Bydd yn well gennym os ydych yn cwblhau’r ffurflenni ar lein.
Er hyn, gallwch hefyd lawrlwytho’r ffurflenni ar Fformat Word a naill ai eu danfon yn electroneg at new@cyfle.co.uk neu gallwch chi bostio eich ffurflenni. Awgrymwn yn gryf y dylech eu danfon drwy bost wedi recordio os oes arnoch chi angen prawf derbyn.
Os ydych yn ei bostio, danfonwch eich cais at:
CYFLE
Cynllun Hyfforddi Amrywiaeth
33 – 35 West Bute Street
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF10 5LH
Os gwelwch yn dda, peidiwch ddyblygu eich cais, gyrrwch NAILL AI yn electronig NEU drwy bost.
Ni dderbynnir ceisiadau wedi’r dyddiad cau.
Dyddiad Cau: Dydd Iau, 25 o fawrth 2010 erbyn 12 y.p.