Gwybodaeth am y Cynllun - MPTV

Gwybodaeth am y Cynllun

Cynllun Cynhyrchu Aml-Blatfform i Grewyr Teledu

Rydym yn byw mewn byd o gynnwys aml-haenen.

Mae’r gynulleidfa bellach yn hawlio mwy o fynediad i’w hoff gynnwys teledu ffeithiol neu greadigol.

Er enghraifft – y gallu i ryngweithio ar-lein gyda chymeriadau teledu trwy Fforwm neu Gyfrwng Cymdeithasol. Neu wylio gwe-gyfres ar-lein sy’n cyflwyno cymeriadau newydd tu hwnt i’r sgrîn deledu.

Mae nhw’n awyddus i drafod y sioe gyda phobl eraill ar Facebook neu Twitter, mynd i weld bandiau o’r rhaglen deledu’n perfformio’n fyw, chwarae gemau anferth aml-ddefnyddiwr ar-lein sy’n rhoi cyfle iddynt grwydro ‘byd’ y rhaglen deledu.

Ma’ nhw eisiau darllen nofelau graffeg ar-lein sy’n adrodd straeon eraill sydd wedi eu gosod ym myd y rhaglen deledu, a chwarae Gemau Realaeth Amgen sy’n herio’r gynulleidfa i ddatrys posau cymhleth yn seiliedig ar ddelweddau’r rhaglen. Mae nhw eisiau app i’r iPhone yn seiliedig ar gymeriad teledu i chwarae gyda’u ffrindiau mewn tafarn – ac ymlaen ac ymlaen.

Mae’r gynulleidfa eisiau rhyngweithio gyda chynhyrchiad teledu mewn modd sydd eto i gael ei greu – hyd yn oed drwy greu cynnwys eu hunain.

Gyda miloedd o sianelau digidol ar gael – pob un yn ymladd am arian hysbysebu – rhaid i gynhyrchiadau teledu gystadlu ar bob lefel er mwyn ennill sylw cynulleidfa a’u cadw.

Er mwyn diwallu’r chwant hyn – ac i greu’r lefel ystod yma o gynnwys, mae’n rhaid iddynt ddod i mewn i’r byd Aml-Blatfform.

Ond o ble y daw’r syniadau?

Cyrsiau Byrion

Cyrsiau datblygu'n broffesiynol!

Cefnogaeth Ariannol

Ffyrdd o ariannu'ch hyfforddiant

Alumni Cyfle

Lle mae nhw erbyn hyn?

Bookmark and Share