Cynllun Cynhyrchu Aml-blatfform i Grewyr Teledu
Ffynhonellau Ariannol Posib ar gyfer Hyfforddeion
Rydym yn sylweddoli nad yw’n hawdd codi’r arian angenrheidiol ar gyfer gallu mynychu cwrs Ol-Raddedig weithiau, felly ‘dyn ni wedi rhoi rhestr o ffynhonellau cymorth ariannol posib at ei gilydd i roi peth arweiniad i chi at yr hyn sydd ar gael.
Beth?
Benthyciad Datblygiad Gyrfaol a Phroffesiynol
Benthyciad ar gyfer y cwrs, dim llog yn cael ei dalu yn ystod y cwrs ac am fis wedi hynny. Wedyn yn mynd yn ol at raddfa’r banc.
Grant Dysgu i Oedolion
£30 yr wythnos os yn sengl, ac yn ennill llai na £19,513. NEU os gyda phartner ac ag incwm cyfunol o llai na £30,810.
Gofal i Ddysgu
Cymorth gyda’ch plant os ydyn nhw o dan 20 oed.
Gofal Plant 20+
Cymorth gyda chostau gofal plant gan eich darparwr addysg bellach.
Cronfeydd Cefnogi Dewisol
Cymorth gydag addysg ar gyfer gwir galedi ariannol.
Cynllun Gofal Plant am Ddim ar gyfer Hyfforddiant a Dysgu ar Gyfer Gwaith
Cymorth gofal plant ar gyfer rhai sydd dros 20 oed lle mae incwm y cartref yn £20,000 neu’n llai.
CYMORTH ARALL
Am wybodaeth bellach am y cymorth ariannol sydd ar gael i’r rhai sy’n mynychu’r cwrs yma ewch i - money.glam.ac.uk