Cynllun Cynhyrchu Aml-Blatfform i Grewyr Teledu
Cwestiynnau Gofynnwyd yn Aml
4 Mis.
- Llawn amser neu ran amser?
Llawn Amser.
9.30 – 5.00 – Dydd Llun i Ddydd Gwener.
£1000
- A fydd lwfans hyfforddi ar gael i’r hyfforddeion yn ystod cyfnod y cynllun?
Na
- Ble mae’r cynllun yn digwydd?
Bydd y rhan fwyaf o’r cwrs yn digwydd yn swyddfeydd hyfforddi Cyfle yng Nghaerdydd, gyda chyfnod saethu yn yr ATRiuM – Prifysgol Morgannwg yn ogystal a chyfleoedd ar leoliad yn ardal De Cymru.
- Sgen i ddim Gradd - ydw i dal yn gymwys?
Ydych, mond fod gennych 3 mlynedd o brofiad proffesiynnol a gyrfaol yn y Diwydiannau Creadigol.
- Dw i’n siarad Cymraeg – alla’i wneud y cynllun yn Gymraeg?
Bydd y rhan fwyaf o’r hyfforddi yn Saesneg, ond bydd croeso i’r hyfforddai gynnig gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg. Cymraeg yw iaith gyntaf Arweinydd y Cwrs.
- Beth yw’r cymhwyster a gaf i ar ddiwedd y cwrs?
Tystysgrif Ôl-Raddedig Proffesiynnol, Galwedigaethol yn y Diwydiannau Creadigol.
- A’i gwaith ysgrifenedig yw’r cwrs yn bennaf?
Na, bydd y rhan fwyaf o’r cwrs yn ymarferol – gyda mentora a gweithdai gan bobl proffesiynnol y diwydiant. Ond, bydd angen cyflwyno rhywfaint o waith ysgrifenedig er mwyn ennill y Tystysgrif Ôl-Raddedig Proffesiynnol, Galwedigaethol yn y Diwydiannau Creadigol..
- Alla’i ddim defnyddio’r Rhyngrwyd - yw’r cynllun yn addas i mi?
Gan fod gymaint o’r cynllun yn ymwneud â gweithio yn y diwydiannau ar-lein, bydd y gallu i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn hanfodol.
- Tydw i ddim yn ‘berson technegol’ – yw’r cwrs yn berthnasol imi?
Ydi. Bydd unrhyw wybodaeth technegol sydd ei angen yn cael ei ddysgu gyda chymorth mentora.