MAE'R DYDDIAD CAU AR GYFER Y CWRS YMA WEDI PASIO - POB LWC OS YDYCH CHI WEDI YMGEISIO!
CYNLLUN HYFFORDDI 6 MIS ADRAN GELF
GYDA DRAMA BBC CYMRU
DISGRIFIAD SWYDD HYFFORDDAI
Teitl: Hyfforddai Propiau wrth Gefn
Lleoliad: Stiwdios
Dyddiad cau: 12yp, 25ain Mawrth 2010
Dyddiadau cyfweld: Rhwng y 19eg a’r 30ain Ebrill 2010
Dyddiad Dechrau: 7fed Mehefin 2010
MAE'R WYBODAETH I GYD AR Y DUDALEN HON, OND OS OES YN WELL GENNYCH GALLWCH LAWRLWYTHO FERSIWN WORD I'CH CYFRIFIADUR DRWY GLICIO AR Y LINC YMA.
Diben y Swydd
Gan weithio ochr yn ochr â'r Person Propiau Wrth Gefn byddwch yn gyfrifol am barhad y propiau a gwisgo'r set yn ystod y cyfnod ffilmio, gan gofnodi unrhyw newidiadau a wneir ac ymateb yn sydyn i unrhyw ddiwygiadau i'r script, y setiau a'r lleoliadau.
Lleolir y swydd yn stiwdios Upper Boat, ond bydd gofyn i chi weithio ar safleoedd eraill neu ar Leoliad ac ar gynyrchiadau eraill. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio yn ôl amserlen cynyrchiadau, a fydd yn rhedeg yn ystod y dydd a'r nos yn ôl anghenion y cynhyrchiad. Mae angen i ddeiliad y swydd fod yn fodlon teithio i leoliadau a stiwdios eraill.
Llinellau Atebolrwydd a Chydberthnasau Allweddol
Mae'r Hyfforddai Propiau wrth Gefn yn gweithio i'r Person Propiau Wrth Gefn, Meistr y Propiau, â’r Prynwr Propiau Cynyrchiadau, o ddydd i ddydd.
Atebolrwydd Allweddol
1. Cydymffurfio â rheoliadau diogelwch a tân cyfredol a'r Rheoliadau Sefydlog sy'n gymwys i'r gweithle. Hysbysu rheolwyr am unrhyw sefyllfa pan amheuir fod unigolyn yn profi problemau neu amgylchiadau sy'n cael effaith andwyol ar ei (h)iechyd neu ei (g)allu i weithio.
2. Gallu ymgymryd â'r amrywiaeth lawn o ddyletswyddau'r Hyfforddai Propiau wrth Gefn a gwneud hynny yn ôl yr angen.
3. Cynnig cyfraniad ystyrlon i'r broses gynllunio.
MANYLEB PERSON
Gwybodaeth a Phrofiad Gofynnol
1. Cydymffurfio â rheoliadau diogelwch a tân cyfredol a'r Rheoliadau Sefydlog sy'n gymwys i'r gweithle. Hysbysu rheolwyr am unrhyw sefyllfa pan amheuir fod unigolyn yn profi problemau neu amgylchiadau sy'n cael effaith andwyol ar ei (h)iechyd neu ei (g)allu i weithio.
2. Gallu ymgymryd â'r amrywiaeth lawn o ddyletswyddau'r Hyfforddai Propiau wrth Gefn a gwneud hynny yn ôl yr angen.
3. Cynnig cyfraniad ystyrlon i'r broses gynllunio.
4. Gweithio o dan arweiniad y Gweithiwr Propiau Wrth Gefn er mwyn sicrhau parhad gwisgo'r set a'r ategolion yn ystod y cyfnod ffilmio. Mae'r swydd yn gofyn am fanwl gywirdeb a sgiliau trefnu.
Cymwyseddau
Nodwyd bod y cymwyseddau arwain canlynol (ymddygiad a nodweddion) yn allweddol i lwyddo yn y swydd. Disgwylir i ymgeiswyr llwyddiannus ddangos y cymwyseddau hyn.
1. Meddwl yn Strategol
Gallu nodi gweledigaeth ynghyd â'r cynlluniau sydd angen eu gweithredu i gyflawni'r nod yn y pen draw. Gwerthuso sefyllfaoedd, penderfyniadau, materion ac ati yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hwy.
2. Meddwl yn ddadansoddol
Gallu symleiddio problemau cymhleth, prosesu prosiectau yn gydrannau a'u harchwilio a'u gwerthuso'n systematig. Gallu nodi cydberthnasau achosol a llunio fframweithiau er mwyn datrys problemau a/neu ddatblygu.
3. Gwneud penderfyniadau
Parodrwydd a gallu i gymryd y cam cyntaf, dechrau camau gweithredu a bod yn gyfrifol am oblygiadau'r penderfyniadau a wnaed.
4. Dychymyg/meddwl yn greadigol
Gallu troi syniadau/ysgogiadau creadigol yn realiti ymarferol. Gallu edrych ar sefyllfaoedd a phroblemau presennol mewn ffyrdd newydd a chreu datrysiadau creadigol.
5. Cynllunio a threfnu
Gallu bod yn flaengar er mwyn sefydlu dull gweithredu effeithiol a phriodol i chi eich hun ac i bobl eraill. Blaenoriaethu a chynllunio gweithgareddau gan ystyried yr holl faterion a ffactorau perthnasol megis terfynau amser, gofynion staffio ac adnoddau.
6. Dyfalbarhad
Gallu rheoli effeithiolrwydd personol drwy reoli emosiynau yn wyneb pwysau, rhwystrau neu wrth ddelio â sefyllfaoedd cythruddol. Dangos ymagwedd at waith a nodweddir gan ymrwymiad, cymhelliant a brwdfrydedd.
7. Dylanwadu a Darbwyllo
Gallu cyflwyno dadleuon cadarn a rhesymol i argyhoeddi eraill. Yn gallu defnyddio amrywiaeth o strategaethau i ddarbwyllo pobl mewn ffordd sy'n arwain at gytundeb neu newid ymddygiad.
8. Cyfathrebu
Gallu cyfleu neges yn glir drwy fabwysiadu amrywiaeth o arddulliau, dulliau a thechnegau sy'n briodol i'r gynulleidfa ac i natur y wybodaeth.
9. Rheoli Cydberthnasau
Y gallu i greu a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol gydag amrywiaeth o bobl. Gweithio mewn tîm.
10. Hunan Ddatblygiad
Gallu nodi cyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu a manteisio arnynt.
11. Teithio
Yn fodlon teithio o'r prif weithle i leoliadau a stiwdios.