MAE'R DYDDIAD CAU AR GYFER Y CWRS YMA WEDI PASIO - POB LWC OS YDYCH CHI WEDI YMGEISIO!
CYNLLUN HYFFORDDI 10 MIS - AMRYWIAETH
GYDA BBC CYMRU
SWYDD DDISGRIFIAD YR HYFFORDDAI
Teitl: Dylunydd Graffeg Iau dan Hyfforddiant, Hyrwyddiadau a Brandio
Lleoliad: BBC Cymru Wales, Caerdydd
Dyddiad cau: 12 yp, 25ain Mawrth 2010
Dyddiadau cyfweld: Rhwng 19eg a 30ain Ebrill 2010
Dyddiad Dechrau: 7fed o Fehefin 2010
MAE'R WYBODAETH I GYD AR Y DUDALEN HON, OND OS OES YN WELL GENNYCH GALLWCH LAWRLWYTHO FERSIWN WORD I'CH CYFRIFIADUR DRWY GLICIO AR Y LINC YMA.
Mae BBC Cymru yn cynhyrchu rhai o raglenni mwyaf poblogaidd y wlad ac mae'r Adran Hyrwyddiadau a Brandio yn creu ymgyrchoedd i hyrwyddo'r allbwn hwn ac amrywiaeth o wasanaethau a gynigir gan BBC Cymru i gynulleidfaoedd ledled Cymru. Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Ddylunydd Graffeg dan hyfforddiant sydd am i'w waith gael ei weld gan dros filiwn o bobl ledled Cymru bob diwrnod o'r wythnos.
Mae hwn yn gyfle hyfforddiant gwych i Ddylunydd Graffeg Iau weithio gyda'r tîm yn yr Adran Hyrwyddiadau a Brandio i greu gwaith graffeg gwych ar gyfer ymgychoedd ar yr awyr ac oddi ar yr awyr ac ymuno â thîm llwyddiannus a gweithgar.
Gofynnir i'r ymgeiswyr a ddewisir i'w cyfweld gyflawni ymarfer gan ddefnyddio Photoshop ar gyfrifiadur Apple Mac i arddangos a datblygu eu syniadau.
GOFYNION Y RÔL
Nod ac Amcanion y Swydd
Er bod y rôl yn bennaf yn gyfle i hyfforddi, bydd y gwaith hefyd yn gofyn i chi gynorthwyo'r Cyfarwyddwr Celf yn yr Adran Hyrwyddiadau a Brandio, gan gyfrannu at: dilyniannau teitl, graffeg ar y sgrîn, ymgyrchoedd brand BBC Cymru ar gyfer ein meysydd a'n gwasanaethau allweddol yn ogystal â chynnwys ar gyfer pob un o'n llwyfannau cyflwyno gan gynnwys argraffu. Byddai gwybodaeth o Apple Macs a'u rhaglenni dylunio a phecynnau cysylltiedig eraill y diwydiant, megis meddalwedd 3D a chyfuno, yn fanteisiol ond nid yw'n hanfodol.
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
Byddwch yn cynorthwyo'r Cyfarwyddwr Celf gyda briffiau dylunio mewn ymgynghoriad â Chyfarwyddwyr Hyrwyddo, y Rheolwyr Marchnata a chynhyrchwyr gwe.
Byddwch yn gallu gwneud lluniau gweithio, byrddau stori, cynlluniau, darluniau, siartiau, mapiau, animeiddiadau a delweddau a wnaed â llaw.
Bydd angen i chi allu paratoi, casglu a chyflawni gwaith ymchwil ar ddeunydd i ategu'r cysyniad dylunio graffeg a pharatoi gwaith cychwynnol o'r fath yn ôl yr angen i gyfleu bwriad y dyluniad.
Yn y rôl hon disgwylir i chi weithio o dan gyfarwyddyd unigolion creadigol yn yr adran ac ar eich pen eich hun, gan ddilyn briffiau’n gywir a chadw at derfynau amser llym.
Mae dealltwriaeth dda o dueddiadau dylunio a hanes dylunio a disgyblaethau cysylltiedig, a diddordeb ynddynt, yn hanfodol.
GWYBODAETH, SGILIAU A PHROFIAD
Byddwch wedi astudio Dylunio Graffeg neu bwnc perthnasol hyd at lefel gradd, a byddwch yn gallu dangos hyn mewn portffolio neu rolyn ffilm.
Bydd angen i chi weithio ar ystod o brosiectau oddi ar yr awyr ac ar yr awyr.
Y gallu i feddwl yn greadigol; meddwl am syniadau arloesol, blaenoriaethu tasgau cymhleth a gweithio'n effeithiol o dan bwysau ac i derfynau amser, gan gyflawni'r gwaith yn fanwl gywir.
Mae gwybodaeth a brwdfrydedd am y diwydiant dylunio, a bod yn ymwybodol o'r tueddiadau diweddaraf, yn hanfodol.
Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da - y gallu i feithrin cydberthnasau â phobl ar bob lefel.
CYMWYSEDDAU
Meddwl yn ddadansoddol - gallu symleiddio problemau, prosesau neu brosiectau cymhleth yn gydrannau, eu harchwilio a'u gwerthuso'n systematig. Gallu nodi cydberthnasau achosol a llunio fframweithiau er mwyn datrys problemau a/neu ddatblygu.
Cyfathrebu - gallu mynegi syniadau yn glir ac addasu arddull gyfathrebu i weddu i anghenion pobl eraill gan ddefnyddio amrywiaeth o arddulliau ac ymagweddau sy'n addas i'r gynulleidfa a natur y wybodaeth. Yn gallu deall effaith arddull gyfathrebu bersonol ar eraill.
Dull o weithio ar y cyd - y gallu i ystyried rhinweddau syniadau gan gydweithwyr yn wrthrychol a chaniatáu i'r syniadau hynny lywio eich meddwl eich hun. Y gallu i fod yn hael ac yn frwdfrydig am gyfraniadau da gan eraill.
Meddwl yn Greadigol - gallu troi syniadau creadigol yn realiti ymarferol. Y gallu i edrych ar sefyllfaoedd a phroblemau presennol mewn ffyrdd newydd a chreu datrysiadau creadigol, lle bo angen.
Gwneud Penderfyniad - yn barod i achub ar y blaen ac yn gallu gwneud hynny, sbarduno camau gweithredu a bod yn gyfrifol am oblygiadau penderfyniadau.
Hyblygrwydd - addasu a gweithio'n effeithiol gydag unigolion, grwpiau neu mewn sefyllfaoedd amrywiol. Yn gallu deall a gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol a gwrthwynebol ar fater, addasu ymagwedd wrth i ofynion sefyllfa newid, a newid neu dderbyn newidiadau o fewn eich sefydliad neu ofynion swydd yn hawdd.
Cynllunio a Threfnu - gallu meddwl ymlaen llaw er mwyn penderfynu ar ddull gweithredu effeithlon a phriodol i chi'ch hun ac i bobl eraill. Blaenoriaethu a chynllunio gweithgareddau gan ystyried yr holl faterion a ffactorau perthnasol megis terfynau amser, gofynion staffio ac adnoddau.