Swydd Ddisgrifiad Cynorthwy-ydd Rheoli Cynhyrchu dan Hyfforddiant

MAE'R DYDDIAD CAU AR GYFER Y CWRS YMA WEDI PASIO - POB LWC OS YDYCH CHI WEDI YMGEISIO!

CYNLLUN HYFFORDDI 10 MIS - AMRYWIAETH

GYDA BBC CYMRU

SWYDD DDISGRIFIAD YR HYFFORDDAI


Teitl: Cynorthwy-ydd Rheoli Cynhyrchu dan Hyfforddiant

Lleoliad: BBC Cymru, Caerdydd

Dyddiad Cau: 12yp, 25ain Mawrth 2010

Dyddiadau cyfweld: Rhwng 19eg a 30ain Ebrill 2010

Dyddiad Dechrau: 7fed o Fehefin 2010

MAE'R WYBODAETH I GYD AR Y DUDALEN HON, OND OS OES YN WELL GENNYCH GALLWCH LAWRLWYTHO FERSIWN WORD I'CH CYFRIFIADUR DRWY GLICIO AR Y LINC YMA.


Mae BBC Cymru yn cynhyrchu amrywiaeth eang o raglenni ar gyfer teledu lleol a rhwydwaith. Ymhlith ei gynyrchiadau diweddar mae X-ray, One Show, Last Chance To See, Pobol y Cwm, Legends a Cherddor Ifanc y Flwyddyn y BBC.

Bydd gan y Cynorthwy-ydd Rheoli Cynhyrchu'r cymhelliant a'r egni i ffynnu mewn amgylchedd prysur a chyffrous gan gefnogi'r Cydlynwyr Cynhyrchu a'r Rheolwr Cynhyrchu. Fel rhan o'r tîm cynhyrchu byddwch yn trefnu gwaith ffilmio, llunio amserlenni, delio â chyflwynwyr a'u hasiantau a threfnu gwaith ôl-gynhyrchu. Byddwch yn gallu ymdopi â rhestr o dasgau sy'n newid yn gyson a'u blaenoriaethu, a gweithio o fewn terfynau amser tynn, gan feddu ar hunangymhelliant a'r gallu i weithio ar eich pen eich hun yn ogystal â fel rhan o dîm. Swydd swyddfa yw hon lle mae cynllunio a threfnu yn sgiliau allweddol sydd eu hangen ar gyfer camau ffilmio ac ôl-gynhyrchu'r rhaglenni. Mae sgiliau T.G. rhagorol a dealltwriaeth o brosesau ôl-gynhyrchu, ynghyd â sgiliau cadarn o ran cyfathrebu a phobl, yn ddefnyddiol. Mae profiad blaenorol o gynhyrchu ym maes teledu yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol.


GOFYNION Y RÔL

Yn atebol i: Cydlynydd/Rheolwr Cynhyrchu
Mae'r Cynorthwy-ydd Rheoli Cynhyrchu yn rhoi cymorth gweinyddol i'r tîm(au) cynhyrchu, er mwyn sicrhau y bydd y cynyrchiadau yn cael eu trefnu'n rhwydd ac yn effeithlon.


Pwrpas

  • Gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr golygyddol er mwyn darparu cynnwys ardderchog, nodedig, aml-lwyfan drwy ddarparu ffyrdd o wireddu uchelgeisiau golygyddol o fewn cyfyngiadau gweithredol ac ariannol.
  • Rhoi cymorth arbenigol drwy ddefnyddio sgiliau, gwybodaeth a phrofiad rheoli cynhyrchu.
  • Cyfrannu at gymuned rheoli cynhyrchu broffesiynol ar draws y BBC.
  • Ysgogi gwelliant parhaus ar bob cam o'r broses gynhyrchu.
  • Cyfrannu at ddiwylliant cydweithredol a chreadigol a'i gynnal.


Cyd-destun

  • Mae deiliaid swyddi ar y lefel hon yn atebol i Gydlynydd Cynhyrchu (neu rywun cyfatebol) neu Reolwr Cynhyrchu ac maent yn gyfrifol am roi cymorth rheoli cynhyrchu arbenigol i gynhyrchiad.
  • Mae disgwyl iddynt ddatblygu amrywiaeth o gysylltiadau mewnol ar draws y BBC.
  • Cyfyngir cydberthnasau allanol i gysylltu â chysylltiadau ar ran y Cydlynydd neu'r Rheolwr Cynhyrchu.


Awdurdod gwneud penderfyniadau

  • Mae gan ddeiliaid swyddi ar y lefel hon rywfaint o ryddid i amrywio'r dulliau o weithio ond mae paramedrau ac allbynnau'r rôl wedi'u sefydlu a'u diffinio'n glir.

ALLBWN ALLWEDDOL


Llunio a chynllunio cynyrchiadau

  • Rhoi cymorth gweinyddol i'r tîm cynhyrchu yn ystod y broses gynllunio a'r cyfnod sefydlu.
  • Cynorthwyo'r Cydlynydd Cynhyrchu (neu rywun cyfatebol) wrth baratoi a chyfleu gwybodaeth gynhyrchu ddilynol.
  • Rheoli a chyflwyno cynyrchiadau
  • Yn gyfrifol am sicrhau bod y swyddfa gynhyrchu yn cael ei rhedeg yn dda, gan weithredu fel pwynt cyswllt allweddol ar y cynhyrchiad.
  • Yn gyfrifol gyda chydweithwyr golygyddol am sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau a chanllawiau'r BBC, er mwyn lleihau amlygiad y BBC i risg. Trosglwyddo problemau i lefel uwch yn brydlon.
  • Rhoi cymorth gweinyddol i sicrhau yr enillir pob hawl angenrheidiol ar gyfer pob rhan o'r broses o gyflwyno'r cynhyrchiad.
  • Cefnogi'r tîm rheoli cynhyrchu drwy ddefnyddio sgiliau arbenigol fel gweithio mewn stiwdio, gweithio ar leoliad, ac ar gyfer Trydydd Cyfarwyddwyr Cynorthwyol, cynllunio/cydlynu gweithgareddau cefndirol a chefnogi tîm y Cyfarwyddwr Cynorthwyol.
  • Yn atebol am ddatrys unrhyw broblemau gweithredol sy'n codi fel rhan o'r swydd.
  • Yn atebol am gael gwerth am arian yn y rôl drwy reoli amser ac adnoddau mewn ffordd effeithiol ac effeithlon.

Cynllunio a rheoli cyllid cynhyrchu

  • Yn gyfrifol am roi'r cymorth gweinyddol sy'n gysylltiedig â rheoli a monitro cyllidebau cynhyrchu.
  • Yn gyfrifol am roi'r cymorth gweinyddol sy'n gysylltiedig â rhagweld a chyflwyno adroddiadau ar gynnydd yn unol ag arfer gorau.

Rheoli asedau'r cyfryngau

  • Cynorthwyo yn y prosesau o ddal a rheoli metadata yn unol â chanllawiau a pholisïau'r BBC.
  • Casglu gwybodaeth gywir sydd ei angen er mwyn sicrhau y bydd popeth sy'n cael ei gyflawni ar gael mewn modd amserol i gyflawni'r comisiwn a bod "gwaith papur" ôl-gynhyrchu cynhyrchiad wedi'i gwblhau ac yn gywir.

Rheoli perfformiad meysydd cynhyrchu

  • Cefnogi amrywiaeth ym mhob agwedd ar y cynhyrchiad/cynyrchiadau.
  • Rhoi cymorth gweinyddol i gydlynu, monitro ac adolygu trefniadau diogelwch.
  • Cynnal amgylchedd gwaith iach a diogel bob amser, gan drosglwyddo unrhyw faterion neu broblemau i lefel uwch.
  • Yn deall ac yn cydymffurfio â pholisïau a chanllawiau Caffael ar gyfer caffael adnoddau cynhyrchu.

Strategaeth a gwelliant parhaus

  • Yn chwilio'n weithredol am ffyrdd o wella effeithlonrwydd o fewn y cynhyrchiad.
  • Yn deall ac yn cefnogi'r rhesymeg dros gael ffyrdd newydd o weithio a/neu ar gyfer mabwysiadu technoleg newydd sy'n gysylltiedig â chynhyrchu.
  • Cefnogi isadrannau eraill i weithredu eu strategaethau (e.e. Cyfryngau a Thechnoleg y Dyfodol, BBC People, Man gwaith, Caffael, Arian, ac ati) gan wirfoddoli adborth rheolaidd ar y nwyddau a'r gwasanaethau a ddarperir, yn enwedig gan gyflenwyr allanol.

Sgiliau, gwybodaeth a phrofiad

  • Profiad o weithio mewn amgylchedd heriol ac o weithio dan bwysau.
  • Yn dangos sgiliau trefnu a chynllunio cryf ac yn rheoli gofynion croes o fewn terfynau amser.
  • Ymwybyddiaeth o gynhyrchu/cynnwys aml-lwyfan.
  • Y gallu i ddefnyddio systemau a mabwysiadu technolegau newydd.
  • Y gallu i ddod o hyd i wybodaeth ac adnoddau yn ôl yr angen.
  • Gweithiwr tîm effeithiol - gallu rheoli cydberthnasau'n effeithiol a chydweithio o fewn tîm amrywiol.
  • Gallu dylanwadu ar eraill a'u hysgogi.
  • Sgiliau busnes ac ariannol - gallu deall cyllidebau a gweithio gyda nhw.
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar effeithiol yn Saesneg.
  • Deall pwysigrwydd gwerthoedd, ei bolisïau, gweithdrefnau a chanllawiau y BBC, gan gynnwys canllawiau Golygyddol ac Iechyd a Diogelwch.
  • Dangos diddordeb yn y BBC a'r diwydiant ehangach.


CYMWYSEDDAU

Creadigol a Dadansoddol - Gallu creu a helpu i droi syniadau creadigol yn gynlluniau ymarferol. Rheoli Cydberthnasau a Chydweithio Y gallu i greu a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol gydag amrywiaeth o bobl. Yn cydweithio ag eraill i ddatrys problemau. Rhannu syniadau a gwybodaeth gyda chydweithwyr.

Cynllunio a Threfnu - Yn ddyfeisgar ac effeithlon wrth gydlynu gweithgareddau a threfnu logisteg rhwng eu maes eu hunain a meysydd eraill. Delio â manylder a "gwaith papur" yn gywir ac yn effeithlon. Gallu ymdopi â rhestr o dasgau/gofynion sy'n newid yn gyson a'u blaenoriaethu, a gweithio o fewn terfynau amser.

Gwneud Penderfyniadau - Yn gallu gwerthuso'r camau gweithredu gorau pan fydd problem neu nifer o opsiynau yn eu hwynebu. Yn gwybod pryd i gyfeirio mater at rywun ar lefel uwch.

Dylanwadu a Darbwyllo - Yn deall y ffordd orau o ddylanwadu ar fathau gwahanol o bobl ac yn llwyddo i berswadio eraill, hyd yn oed pan na fydd ganddynt awdurdod ffurfiol.

Gwydnwch - Yn cynnal perfformiad heb gynhyrchu na cholli rheolaeth pan fyddant o dan bwysau neu mewn sefyllfaoedd anodd.

Deall Amrywiaeth - Deall a gwerthfawrogi eu natur unigryw nhw a natur unigryw pobl eraill. Dangos eu bod yn gallu gwella a deall amrywiaeth ac ymrwymiad i hynny. Yn gallu egluro sut y gall gwahaniaethau unigol fod o fudd i'r BBC.

Cyrsiau Byrion

Cyrsiau datblygu'n broffesiynol!

Cefnogaeth Ariannol

Ffyrdd o ariannu'ch hyfforddiant

Alumni Cyfle

Lle mae nhw erbyn hyn?

Bookmark and Share