Swydd Ddisgrifiad Meistr Propiau dan Hyfforddiant

MAE'R DYDDIAD CAU AR GYFER Y CWRS YMA WEDI PASIO - POB LWC OS YDYCH CHI WEDI YMGEISIO!

CYNLLUN HYFFORDDI 6 MIS ADRAN GELF

GYDA DRAMA BBC CYMRU

DISGRIFIAD SWYDD HYFFORDDAI


Teitl: Meistr Propiau dan Hyfforddiant

Lleoliad: Stiwdios

Dyddiad cau: 12yp, 25ain Mawrth 2010

Dyddiadau cyfweld: Rhwng y 19eg a’r 30ain Ebrill 2010

Dyddiad Dechrau: 7fed Mehefin 2010

MAE'R WYBODAETH I GYD AR Y DUDALEN HON, OND OS OES YN WELL GENNYCH GALLWCH LAWRLWYTHO FERSIWN WORD I'CH CYFRIFIADUR DRWY GLICIO AR Y LINC YMA.


Diben y Swydd

Gan weithio o dan arweiniad y Meistr Propiau byddwch yn gyfrifol am yr holl ategolion sy'n gysylltiedig â'r cynhyrchiad, gan gynnwys rhestr ohonynt, gofalu am yr eitemau a'u cynnal a'u cadw a'u dychwelyd, gan sicrhau eu bod ar gael yn y lleoliad cywir, ar amser ac mewn cyflwr derbyniol. Mae'r swydd yn cynnwys llwytho, cludo a storio'r holl ategolion ac yn cynnwys gweinyddu'r gwaith papur perthnasol.

Lleolir y swyd yn stiwdios Upper Boat, ond bydd gofyn i chi weithio ar safleoedd eraill neu ar Leoliad ac ar gynhyrchiadau eraill.

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio yn ôl amserlen cynyrchiadau, a fydd yn rhedeg yn ystod y dydd a'r nos yn ôl anghenion y cynhyrchiad. Mae angen i ddeiliad y swydd fod yn fodlon teithio i leoliadau a stiwdios eraill


Llinellau Atebolrwydd a Chydberthnasau Allweddol

Mae'r Meistr Propiau dan Hyfforddiant yn gweithio o dan arweiniad y Cyfarwyddwyr Celf o ddydd i ddydd.


Atebolrwydd Allweddol

1. Cydymffurfio â rheoliadau diogelwch a tân cyfredol a'r Rheolau Sefydlog sy'n gymwys i'r gweithle. Hysbysu rheolwyr am unrhyw sefyllfa pan amheuir fod unigolyn yn profi problemau neu amgylchiadau sy'n cael effaith andwyol ar ei (h)iechyd neu ei (g)allu i weithio.

2. Gallu ymgymryd â'r amrywiaeth lawn o ddyletswyddau Meistr Propiau dan Hyfforddiant a gwneud hynny fel yr angen.

3. Cynnig cyfraniad ystyrlon i'r broses gynllunio.


MANYLEB PERSON

Gwybodaeth a Phrofiad Gofynnol

1. Cydymffurfio â rheoliadau diogelwch a tân cyfredol a'r Rheolau Sefydlog sy'n gymwys i'r gweithle. Hysbysu rheolwyr am unrhyw sefyllfa pan amheuir fod unigolyn yn profi problemau neu amgylchiadau sy'n cael effaith andwyol ar ei (h)iechyd neu ei (g)allu i weithio.

2. Gallu ymgymryd â'r amrywiaeth lawn o ddyletswyddau Meistr Propiau dan Hyfforddiant a gwneud hynny fel yr angen.

3. Cynnig cyfraniad ystyrlon i'r broses gynllunio.

4. Gan weithio o dan arweiniad y Meistr Propiau i greu rhestr o'r eitemau a gofalu am yr holl eitemau sy'n gysylltiedig â'tr cynhyrchiad gan gynnwys eu cynnal a'u cadw, yn ogystal â llwytho, cludo a storio'r holl ategolion a gweinyddu'r gwaith papur perthnasol


Cymwyseddau

Nodwyd bod y cymwyseddau arwain canlynol (ymddygiad a nodweddion) yn allweddol i lwyddo yn y swydd. Disgwylir i ymgeiswyr llwyddiannus ddangos y cymwyseddau hyn.

1. Meddwl yn Strategol

Gallu nodi gweledigaeth ynghyd â'r cynlluniau sydd angen eu gweithredu i gyflawni'r nod yn y pen draw. Gwerthuso sefyllfaoedd, penderfyniadau, materion ac ati yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hwy.

2. Meddwl yn ddadansoddol

Gallu symleiddio problemau cymhleth, prosesu prosiectau yn gydrannau a'u harchwilio a'u gwerthuso'n systematig. Gallu nodi cydberthnasau achosol a llunio fframweithiau er mwyn datrys problemau a/neu ddatblygu.

3. Gwneud penderfyniadau

Parodrwydd a gallu i gymryd y cam cyntaf, dechrau camau gweithredu a bod yn gyfrifol am oblygiadau'r penderfyniadau a wnaed.

4. Dychymyg/meddwl yn greadigol

Gallu troi syniadau/ysgogiadau creadigol yn realiti ymarferol. Gallu edrych ar sefyllfaoedd a phroblemau presennol mewn ffyrdd newydd a chreu datrysiadau creadigol.

5. Cynllunio a threfnu

Gallu bod yn flaengar er mwyn sefydlu dull gweithredu effeithiol a phriodol i chi eich hun ac i bobl eraill. Blaenoriaethu a chynllunio gweithgareddau gan ystyried yr holl faterion a ffactorau perthnasol megis terfynau amser, gofynion staffio ac adnoddau.

6. Dyfalbarhad

Gallu rheoli effeithiolrwydd personol drwy reoli emosiynau yn wyneb pwysau, rhwystrau neu wrth ddelio â sefyllfaoedd cythruddol. Dangos ymagwedd at waith a nodweddir gan ymrwymiad, cymhelliant a brwdfrydedd.

7. Dylanwadu a Darbwyllo

Gallu cyflwyno dadleuon cadarn a rhesymol i argyhoeddi eraill. Yn gallu defnyddio amrywiaeth o strategaethau i ddarbwyllo pobl mewn ffordd sy'n arwain at gytundeb neu newid ymddygiad.

8. Cyfathrebu

Gallu cyfleu neges yn glir drwy fabwysiadu amrywiaeth o arddulliau, dulliau a thechnegau sy'n briodol i'r gynulleidfa ac i natur y wybodaeth.

9. Rheoli Cydberthnasau

Y gallu i greu a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol gydag amrywiaeth o bobl. Gweithio mewn tîm.

10. Hunan Ddatblygiad

Gallu nodi cyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu a manteisio arnynt.

11. Teithio

Yn fodlon teithio o'r prif fan gwaith i leoliadau a stiwdios.

Cyrsiau Byrion

Cyrsiau datblygu'n broffesiynol!

Cefnogaeth Ariannol

Ffyrdd o ariannu'ch hyfforddiant

Alumni Cyfle

Lle mae nhw erbyn hyn?

Bookmark and Share