MAE'R DYDDIAD CAU AR GYFER Y CWRS YMA WEDI PASIO - POB LWC OS YDYCH CHI WEDI YMGEISIO!
CYNLLUN HYFFORDDI 6 MIS ADRAN GELF
GYDA DRAMA BBC CYMRU
DISGRIFIAD SWYDD HYFFORDDAI
Teitl: Hyfforddai Addurno Set
Lleoliad: Stiwdios
Dyddiad cau: 12yp, 25ain Mawrth 2010
Dyddiadau cyfweld: Rhwng y 19eg a’r 30ain Ebrill 2010
Dyddiad Dechrau: 7fed Mehefin 2010
MAE'R WYBODAETH I GYD AR Y DUDALEN HON, OND OS OES YN WELL GENNYCH GALLWCH LAWRLWYTHO FERSIWN WORD I'CH CYFRIFIADUR DRWY GLICIO AR Y LINC YMA.
Diben y Swydd
Gan weithio o dan yr Addurnwr Set byddwch yn dysgu sut i addurno set, o ymchwilio i'r sgript, dadansoddi'r gofynion o ran propiau a dodrefn, i gael gafael ar ddeunyddiau a'u defnyddio ar y set neu ar leoliad.
Mae'r swydd wedi'i lleoli yn stiwdios Upper Boat, ond bydd angen gweithio hefyd mewn lleoliadau eraill neu ar Leoliad ac ar gynyrchiadau eraill. Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio yn ôl amserlenni cynhyrchu, yn ystod y dydd a'r nos fel y bo angen yn ôl gofynion y broses. Dylai deiliad y swydd hefyd fod yn fodlon teithio i leoliadau a stiwdios eraill.
Llinellau Atebolrwydd a Chydberthnasau Allweddol
Bydd yr Hyfforddai Addurno Set yn gweithio i'r Addurnwr Set, Cyfarwyddwyr Celf a'r Cynllunydd Cynhyrchu o ddydd i ddydd.
Atebolrwydd Allweddol
1. Gweithio o fewn y rheoliadau diogelwch a thân a'r Rheolau Sefydlog cyfredol sy'n gymwys i'r gweithle. Rhoi gwybod i reolwyr am unrhyw sefyllfa lle yr ymddengys y gall unigolyn fod yn cael problemau neu am amgylchiadau sy'n cael effaith niweidiol ar ei iechyd neu ar ei allu i wneud ei waith.
2. Gallu cyflawni holl ddyletswyddau'r Hyfforddai Addurno Set a gwneud hynny yn ôl yr angen.
3. Cynnig mewnbwn ystyrlon i'r broses gynllunio.
MANYLEB PERSON
Gwybodaeth a Phrofiad Gofynnol
1. Gweithio o fewn y rheoliadau diogelwch a thân a'r Rheolau Sefydlog cyfredol sy'n gymwys i'r gweithle. Rhoi gwybod i reolwyr am unrhyw sefyllfa lle yr ymddengys y gall unigolyn fod yn cael problemau neu am amgylchiadau sy'n cael effaith niweidiol ar ei iechyd neu ar ei allu i wneud ei waith.
2. Gallu cyflawni holl ddyletswyddau'r Hyfforddai Addurno Set a gwneud hynny yn ôl yr angen.
3. Cynnig mewnbwn ystyrlon i'r broses gynllunio.
4. Gweithio o dan yr Addurnwr Set mewn perthynas â phob proses gan gynnwys, dadansoddi'r gofynion o ran propiau a dodrefn, cael gafael ar gyflenwyr a chyflawni'r dyluniadau naill ar y set neu ar leoliad.
Cymwyseddau
Nodwyd bod y cymwyseddau arwain canlynol (ymddygiad a nodweddion) yn allweddol i lwyddo yn y swydd. Disgwylir i ymgeiswyr llwyddiannus ddangos y cymwyseddau hyn.
1. Meddwl yn strategol
Gallu nodi gweledigaeth ynghyd â'r cynlluniau sydd angen eu gweithredu i gyflawni'r nod yn y pen draw. Gwerthuso sefyllfaoedd, penderfyniadau, materion ac ati yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hwy.
2. Meddwl yn ddadansoddol
Gallu symleiddio problemau cymhleth, prosesu prosiectau yn gydrannau a'u harchwilio a'u gwerthuso'n systematig. Gallu nodi cydberthnasau achosol a llunio fframweithiau er mwyn datrys problemau a/neu ddatblygu.
3. Gwneud penderfyniadau
Parodrwydd a gallu i gymryd y cam cyntaf, dechrau camau gweithredu a bod yn gyfrifol am oblygiadau'r penderfyniadau a wnaed.
4. Dychymyg/meddwl yn greadigol
Gallu troi syniadau/ysgogiadau creadigol yn realiti ymarferol. Gallu edrych ar sefyllfaoedd a phroblemau presennol mewn ffyrdd newydd a chreu datrysiadau creadigol.
5. Cynllunio a threfnu
Gallu bod yn flaengar er mwyn sefydlu dull gweithredu effeithiol a phriodol i'ch hunan ac i bobl eraill. Blaenoriaethu a chynllunio gweithgareddau gan ystyried yr holl faterion a ffactorau perthnasol megis terfynau amser, gofynion staffio ac adnoddau.
6. Dyfalbarhad
Gallu rheoli effeithiolrwydd personol drwy reoli emosiynau yn wyneb pwysau, rhwystrau neu wrth ddelio â sefyllfaoedd cythruddol. Dangos ymagwedd at waith a nodweddir gan ymrwymiad, ysgogiad ac egni.
7. Dylanwadu a Darbwyllo
Gallu cyflwyno dadleuon cadarn a rhesymol i argyhoeddi eraill. Gallu defnyddio amrywiaeth o strategaethau i ddarbwyllo pobl mewn ffordd sy'n arwain at gytundeb neu newid ymddygiad.
8. Cyfathrebu
Gallu cyfleu neges yn glir drwy fabwysiadu amrywiaeth o arddulliau, dulliau a thechnegau sy'n briodol i'r gynulleidfa ac i natur y wybodaeth.
9. Rheoli Cydberthnasau
Gallu creu a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol ag amrywiaeth o bobl. Gweithio mewn tîm.
10. Hunan Ddatblygiad
Gallu nodi cyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu a manteisio arnynt.
11. Teithio
Yn fodlon teithio o'r ganolfan yn Upper Boat, i leoliadau a stiwdios.