David Shillitoe 
Hyfforddai Archif
"Mae hyfforddi gyda Cyfle wedi bod yn brofiad amhrisiadwy hyd yn hyn, nid yn unig oherwydd yr hyn dwi wedi'i ddysgu ar leoliad, ond oherwydd y cysylltiadau dwi wedi eu gwneud a'r cyfleoedd sydd wedi dod fy ffordd i"
Beth oeddet t’n ei wneud cyn bod yn hyfforddai ar gynllun Cyfle?
Roeddwn i’n gweithio gyda chwmni hawlio anafiadau masnachol.
Sut daethost ti i wybod am Cyfle?
Clywais am y cwrs yn yr adran swyddi mewn papur newydd lleol.
Rhestra'r prosiectau rwyt ti wedi gweithio arnyn nhw a noda pwy oedd yn rhan o’r cynhyrchiad:
Dwi wedi gweithio ar:
- Ffilm ddogfen nodwedd gyda chwmni annibynnol yn Llundain o’r enw Living Cinema.
- Dwy ffilm fer gyda hyfforddeion eraill Cyfle a Movie Mogul Films yng Nghaerdydd.
- Ymchwilio a darganfod ffynhonnell deunydd archifo ar gyfer nifer o eitemau newyddion a rhaglenni dogfen ITV Cymru.
- Dau brosiect archifo gyda BBC Cymru yn cynnwys recordiau finyl hen ac eitemau newyddion.
Pa agwedd / elfennau o’r gwaith wyt ti wedi’i fwynhau fwyaf?
Dwi wedi mwynhau gweithio ar y ffilmiau dogfen a nodwedd yn arw. Dwi’n teimlo fel petawn i’n cyflawni llawer pan mae popeth yn gweithio’n llwyddiannus a dwi’n teimlo fel petawn i wedi cyfrannu tuag at y llwyddiant.
Dwi hefyd wedi mwynhau cynnal ymchwil ac edrych yn ddyfnach i mewn i bethau er mwy darganfod y delweddau a’r wybodaeth sy’n galluogi’r cynhyrchwr ddweud stori.
Lle wyt ti'n gweld dy hun ymhen 10 mlynedd? Pa bethau hoffet ti eu gyflawni erbyn hynny?
Dwi’n gobeithio bydda i unai yn gweithio o fewn y maes archifo/ymchwil neu yn cyfrannu’n greadigol tuag at gynyrchiadau ffilm neu deledu.
Oes gen ti unrhyw sylwadau pellach yr hoffech eu nodi?
Parhewch gyda’r gwaith da!
Jaqueline Davies
Cynorthwyydd Golygydd Sgript dan Hyfforddiant
"Hudol, brawychus, hwyl, cyflym, boddhaol, agoriad llygad, gwaith caled… a dim ond diwrnod arferol gyda Cyfle ydy hwnna. Mae’n rhoi sylfaen gwych i ddechrau gyrfa yn y diwydiant"
Beth oeddet ti’n ei wneud cyn bod yn hyfforddai ar gynllun Cyfle?
Enillais i radd mewn Saesneg a Diwylliant Poblogaidd ac yna roeddwn yn berson cyllid hunangyflogedig.
Sut daethost ti i wybod am Cyfle, a beth oedd dy ddisgwyliadau?
Des i i glywed am y cynllun drwy weithio gyda Green Bay yn ystod gwyliau’r haf. Roedd gen i ddisgwyliadau mawr o Cyfle a’r hyfforddiant oedden nhw’n darparu.
Rhestra'r prosiectau yr wyt ti wedi gweithio arnyn nhw a noda pwy oedd yn rhan o’r cynhyrchiad:
Asiantaeth Ffilm Cymru:
- Gweithio gyda Swyddog Gweithredol Datblygu Talent
- Darllen sgriptiau ac ysgrifennu adroddiadau
- Prosiect ffilmiau byrion Prydain
- Prosiect sy’n arddangos ffilmiau led led y byd.
Crash:
- Gweithio gyda Red Planet Pictures,
- Roeddwn i’n gynorthwyydd golygu sgript ar gynhyrchiad dwy gyfres gyfan o’r ddrama ar gyfer BBC Cymru.
Pa agwedd / elfennau o’r gwaith wyt ti wedi’i fwynhau fwyaf?
Dwi wirioneddol wedi mwynhau gweithio ar gynhyrchiad gan weld y broses ysgrifennu’n datblygu hyd at y gwaith ffilmio a’i weld ar y sgrin. Roedd y siwrne gyfan yn waith caled, hynod o ddiddorol a dwi wedi’i fwynhau’n arw. Roedd gweithio gyda’r tîm brwdfrydig yn Crash yn wych gan fod pawb eisiau i’r rhaglen fod y gorau posib.
Lle wyt ti’n gweld dy hun ymhen 10 mlynedd?
Mewn deng mlynedd hoffwn fod wedi gweithio fel golygydd sgript a wedi symud i mewn i gynhyrchu.
