Lleoliadau Cwmni 2

Nia Young Ymchwilydd dan Hyfforddiant

Ymchwilydd dan Hyfforddiant

"Profiad gwerth chweil, bythgofiadwy sydd wedi dysgu mwy na gallen i ddychmygu imi ac wedi gosod sialensau digonol!"

Beth oeddet ti’n ei wneud cyn bod yn hyfforddai ar gynllun Cyfle?
Newydd raddio o Brifysgol Abertawe

Sut daethost ti i wybod am Cyfle, a beth oedd dy ddisgwyliadau?
Drwy ffrind, ddim yn siwr beth i’w ddisgwyl ond wedi meddwl bydde fe’n fwy o brofiad ‘observing’ fel profiad gwaith. Hwn yn llawer gwell!

Rhestra'r prosiectau yr wyt ti wedi gweithio arnyn nhw a noda pwy oedd yn rhan o’r cynhyrchiad:
  • Gala Glanaethwy – Hefin Rees, Gwawr Owen, Gruff Rees
  • Texaco Young Musician – Aled John, Gareth Williams
  • Cor Cymru – Hefin Owen, Garmon Emyr, Gwawr Owen. Gruff Rees
  • Tigh Dudley – Dudley Newbery, Paul Leyshon, Magwen Griffiths
Pa agwedd / elfennau o’r gwaith wyt ti wedi’i fwynhau fwyaf?
Yr ymchwilo mewn i bethau hollol newydd.
Trefnu a ffeindio lleoliadau.
Bod ar set a dysgu’n gwmws sut ‘ma popeth yn gweithio.

Lle wyt ti'n gweld dy hun ymhen 10 mlynedd? Pa bethau hoffet ti'i gyflawni erbyn hynny?
Cynhyrchu rhaglenni dogfen.

Carol Hughes, Gweinyddydd Ol-gynhyrchu dan HyfforddiantCarol Hughes

Gweinyddwraig Ôl Gynhyrchu

"Cyfnod byrlymus yn llawn amrywiol brofiadau"

Beth oeddet ti’n ei wneud cyn bod yn hyfforddai ar gynllun Cyfle?
Wedi bod yn y byd addysg am dros ugain mlynedd, yn athrawes gynradd am oddeutu wyth mlynedd ac yna ‘n ddirprwy bennaeth am dair blynedd ar ddeg ‘roeddwn wedi dod i’r penderfyniad ei bod yn amser i mi arall gyfeirio a gwneud rhyw fath o waith fyddai’n hollol wahanol i ddysgu.

Sut sut daethost ti i wybod am Cyfle, a beth oedd dy ddisgwyliadau?
Ar ôl treulio cyfnod yn gwneud gwaith llanw dros dro yn Cwmni Da, ac wedi cael rhywfaint o flas ar waith clirio rhaglenni, gwelais hysbyseb yn y papur newydd yn son am gyrsiau Cyfle. Roedd yna le ar y cwrs ar gyfer gweinyddwr ôl gynhyrchu oedd yn apelio’n fawr ataf.

Rhestra'r prosiectau yr wyt ti wedi gweithio arnyn nhw:

  • Sioe Gelf series 12
  • Sioe Gelf seried 13
  • Atom
  • Lle Aeth Pawb?
  • O’r Galon
  • Byw yn yr Ardd
  • Angell yn India
  • Ffit 100%

Pa agwedd / elfennau o’r gwaith wyt ti wedi’i fwynhau fwyaf?
Teimlaf fy mod wedi cael y cyfle i weithio fel aelod o dîm yn ystod fy lleoliad a fy mod wedi derbyn cefnogaeth ac arweiniad arbennig gan fy nghydweithwyr. Mae sawl agwedd o’r gwaith ‘rwy’n ei fwynhau yn cynnwys:

  • Ymchwilio amrywiaeth o ffynonellau er mwyn canfod pwy sy’n berchen ar hawlfraint deunydd arbennig,
  • Rhoi trefn ar waith papur a chytundebau
  • Y boddhad a gaf o gyflawni a chwblhau’r gwaith sydd ynghlwm â chlirio rhaglen.

Lle wyt ti’n gweld dy hun ymhen 10 mlynedd?
Datblygu fy neallusrwydd ac arbenigedd o faes hawlfreintiau a chael cyfle i ymgyfarwyddo mwy fwy â gofynion cyfreithiol cytundebau.

Lowri Evans Lowri Evans, Ymchwilydd dan Hyfforddiant
Ymchwilydd dan Hyfforddiant

Beth oeddet ti'n ei wneud cyn bod yn hyfforddai ar gynllun Cyfle?
Cyflawni gradd Cymraeg a Hanes Cymru cyn parhau i wneud gradd MA Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Blwyddyn yn teithio o amgylch y byd.

Sut daethost ti i wybod am Cyfle, a beth oedd dy ddisgwyliadau?
Gweld hysbyseb yn y Daily Post. Roeddwn i'n disgwyl arweiniad i’r byd cyfryngol a dealltwriaeth pellach o’r maes.

Rhestra' prosiectau yr wyt ti wedi gweithio arnyn nhw a noda pwy oedd yn rhan o’r cynhyrchiad:

  • Sioe Gelf (Cynhyrchydd Geraint Ellis)
  • Popeth ar Ffilm (Cynhyrchydd Ifor ap Glyn)
  • Eisteddfod yr Urdd (Olwen Meredydd)
  • Ffit 100% (Cynhyrchydd Emyr Gruffydd)
  • Fferm Ffactor (Uwch Gynhyrchydd Neville Hughes, Cynhyrchydd, Non Griffith)

Pa agwedd / elfennau o’r gwaith wyt ti wedi’i fwynhau fwyaf?
Gwaith ar Fferm Ffactor. Hefyd, cael datblygu’r syniad o’r dechrau a’i weld yn llwyddo – rhoi gwerth i’r holl ymdrech a gwaith caled.
Yn wir, mae wedi rhoi cyfle gwych i ddod i’r afael â’r byd cyfryngol. Agoriad llygad i’r holl broses – o ddatblygu syniad hyd nes ei weld ar y teledu. Mae hefyd wedi bod yn gyfnod da i wneud cysylltiadau gwych a chael profiad mewn maesydd gwahanol.

Lle wyt ti'n gweld dy hun ymhen 10 mlynedd? Pa bethau yr hoffet ti'i gyflawni erbyn hynny?
Yn gweithio ymhlith pobl.
Wedi cael cymaint o brofiad bywyd a phosib – cyfle i deithio mwy gobeithio!

Cefnogwyr Lleoliadau Cwmni

Amlblatfform a Rhyngweithiol

Hyfforddiant Mewnol!

Cefnogaeth Ariannol

Ffyrdd o ariannu'ch hyfforddiant

Bookmark and Share