Kathryn Lane, Hyfforddai 
Beth oeddet t’n ei wneud cyn bod yn hyfforddai ar gynllun Cyfle?
Cyn bod yn hyfforddai ro’n i’n gweithio rhan amser gyda Radio Swansea Sound & Wave fel cydlynydd hyrwyddiadau. Roeddwn I hefyd yn dysgu dawns i a drama mewn ysgolion yn Ne Cymru gyda chwmni o’r enw Bigfoot.
Sut daethost ti wybod am Cyfle, a beth oedd dy disgwyliadau?
Gwelais hysbyseb yn y Metro. Doeddwn i ddim wir yn gwybod be i ddisgwyl - ond roeddwn yn teimlo y byddai’r cynllun yn rhoi sgiliau hynod werthfawr i mi drwy ddulliau ymarferol a thrwy brofiadau gwaith ac y byddwn i’n llawer mwy hyderus gyda fy ngallu.
Rhestra'r prosiectau yr ydych chi wedi gweithio arnyn nhw a noda pwy oedd yn rhan o’r cynhyrchiad:
- Break Free - Cyfle: Rhys Miles Thomas a hyfforddeion Cyfle
- 0 ond 1 – Briff gan y diwydiant
- Stephen Evans – Gwefan ar gyfer Telesgop
- Ffos Las and Style awards – Digwyddiadau wedi eu ffilmio i Telesgop
- Bro – Rhaglen deledu wedi’i saethu gan Telesgop
- Olympic TV – gwefan ar gyfer Telesgop
Pa agwedd / elfennau o’r gwaith wyt ti wedi’i fwynhau fwyaf?
- Dysgu sgiliau newydd
- Cwrdd â phobl newydd
- Cyflwyno
- Ymchwilio
- Meddwl a chreu syniadau
Lle wyt ti'n gweld fy hun ymhen 10 mlynedd? Pa bethau yr hoffet ti'i gyflawni erbyn hynny?
Dwi’n gweld fy hun yn gweithio’n llwyddiannus yn y cyfryngau ac yn ennill parch gan eraill. Hoffwn fod mewn rôl rheoli.
Unrhyw sylwadau eraill?
Gall Cyfle agor drysau i’r diwydiant a chynnig cyfleoedd ffantastig. Dwi’n gobeithio bydd y cynllun yn parhau ac yn cynnig cefnogaeth i’r bobl hynny sydd eisiau symud ymlaen gyda’u gyrfa yn y cyfryngau. Dwi’n sicr fy mod yn siarad ar ran holl hyfforddeion Cyfle pan dwi’n dweud ein bod yn hynod o ddiolchgar i Cyfle a’r staff.
Andy John Kelly
"Rhwydweithio yw’r gair allweddol"
Beth oeddet ti’n ei wneud cyn bod yn hyfforddai ar gynllun Cyfle?
Roeddwn i’n gweithio’n llawrydd fel dylunydd ac yn gweithio rhan amser mewn siop.
Sut daethost ti i wybod am Cyfle, a beth oedd dy ddisgwyliadau?
Cyn cydweithiwr i mi soniodd wrtha i am y cynllun hyfforddi – roedd o newydd orffen un o’r cynlluniau labordy animeiddio gyda Cyfle.
Roedd o wedi argymell Cyfle i mi ac am fy mod i wedi gweld ei sgiliau o’n cynyddu’n sylweddol yn ystod y lab animeiddio roedd gen i obeithion mawr ar gyfer y cwrs.
Rhestra'r prosiectau yr wyt ti wedi gweithio arnyn nhw:
- Break Free – Drama ar-lein cyntaf yng Nghymru gyda chriw Cyfle
- 0 ond 1 – brasfodel o wefan ar gyfer sioe gem deledu newydd.
- Dewin - Amryw o gynyrchiadau gyda Cube. Hyn yn cynnwys hysbyseb ar gyfer S4C, nifer o gemau, dylunio sain, animeiddio/ dylunio a chodio.
- Cyw - Amryw o gynyrchiadau eto gyda Cube, gan gynnwys animeiddio, dylunio sain a dylunio.
Bws Parti – Sound design.
Pa agwedd / elfennau o’r gwaith wyt ti wedi’i fwynhau fwyaf?
Gweithio gyda phawb yn Cube ac ar y briffiau byw, meddwl am syniadau a chael y cyfle i ddefnyddio ystod eang o’n sgiliau. Nid yn unig dylunio ond hefyd sain a graffeg symudol.
Lle wyt ti’n gweld dy hun ymhen 10 mlynedd?
Gweithio fel cynllunydd/dylunydd ar gyfer asiant dylunio gyda’r gobaith o feddu ar bortffolio o gleientiaid a golwg o ddechrau fy nghwmni fy hun.
