Lewis Monk
Cynorthwyydd Golygu dan Hyfforddiant"Fel person graddedig, mae Cyfle wedi’n rhoi i yn y sefyllfa orau bosib yn enwedig gyda’r holl gefnogaeth a’r arweinyddiaeth tu ôl i mi"
Beth oeddet ti’n ei wneud cyn bod yn hyfforddai ar gynllun Cyfle?
Roeddwn i wedi graddio o Brifysgol ac wedi derbyn dau gomisiwn gan Gyngor Swydd Henffordd.
Sut daethost ti i glywed am Cyfle a beth oedd dy ddisgwyliadau?
- Clywais i am y cynllun drwy’r cylchlythyr.
- Y peth cyntaf ddoth i’n meddwl oedd bod y cyfle’n rhy dda, sef darparwr hyfforddiant sy’n cael ei arwain gan ddiwydiant eisiau rhoi tâl i mi i gael profiad gwaith!
Rhestra' prosiectau wyt ti wedi gweithio arnyn nhw:
- Talie, Richard Moss (graddio)
- Torchwood, Tim Ricketts (dubio)
- Coast, Geraint P.H. (graddio, cydffurfio)
- Human-Planet, Crag (trosi graddfa ffrâm)
- TeliTailes, Jeremy (golygu)
- Sarah Jane Adventures, Doctor Who Confidential, Jon Everett (graddio,arlein, sgrin wyrdd)
Pa agwedd / elfennau o’r gwaith wyt ti wedi’i fwynhau fwyaf?
- Baselight
- Tridiau o hyfforddiant un-i-un gyda golygydd hynod brofiadol
- Golwg agosach o’r diwydiant
- Defnydd o offer drudfawr na fydda i’n cael eu defnyddio fel rheol,
- Dwi bellach yn teimlo’n fel bod cefnogaeth ar gael i feithrin sgiliau,
- Gwneud cysylltiadau
- Y gallu i ofyn cwestiynau technegol a gwirioneddol credu yn yr atebion,
- Pa mor groesawgar ydy pobl yn y diwydiant teledu
Lle wyt ti'n gweld dy hun ymhen 10 mlynedd? Pa bethau hoffet ti'i gyflawni erbyn hynny?
Hoffwn i weld fy hun fel golygydd ar-lein gyda dealltwriaeth eang o’r broses graddio ac yn ddelfrydol yn gweithio mewn drama a ffilm. Bydda i hefyd falla yn edrych am ddechrau fy nghwmni ôl gynhyrchu fy hun.
Unrhyw sylwadau eraill?
Diolch am y cyfle gwych yma – byddwn i ddim wedi gwneud hyn heb Cyfle!
Vanessa Lu
Hyfforddai Cynhyrchu
"Mae’n fan cychwyn gwych ar gyfer datblygu fy ngyrfa mewn diwydiant hynod gystadleuol"
Beth oeddet ti’n ei wneud cyn bod yn hyfforddai ar gynllun Cyfle?
Roeddwn i’n arfer bod yn is-olygydd ar gyfer grŵp newyddiadurol yn Tsiena. Enillais i ddwy radd meistr - yn cynnwys MA Newyddiaduraeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd ac MA mewn Rheolaeth Marchnata ym Mhrifysgol Gloucestershire. Ar ôl graddio, roeddwn i’n gweithio fel Cynghorydd Marchnata yng Nghymru am ddwy flynedd. Roedd fy nghyfrifoldebau i’n cynnwys ymchwilio i mewn i amryw o raglenni teledu a marchnadoedd y cyfryngau yn y DU.
Sut daethost ti i wybod am Cyfle, a beth oedd dy ddisgwyliadau?
Fy ffrind ddwedodd wrtha i am gynlluniau hyfforddi gan Cyfle. Es i wedyn ati i gofrestru fy manylion er mwyn derbyn gwybodaeth am hyfforddiant Cyfle drwy e-fwletin. Roeddwn yn disgwyl y byddai cynllun hyfforddi Cyfle’n cynnig mwy na dim ond y prif sgiliau ar gyfer gweithio yn y diwydiant, ond hefyd cyfleoedd i ddilyn llwybrau gwahanol i mewn i gynhyrchu.
Rhestra’r prosiectau yr wyt ti wedi gweithio arnyn nhw a noda pwy oedd yn rhan o’r cynhyrchiad
Dwi wedi bod yn gwneud y canlynol:
- Cynhyrchu ffilm fer ‘I Love Cardiff’ ar gyfer Sgrin Fawr y BBC yng nghanol dinas Caerdydd.
- Rheoli'r llyfrgell dapiau ar gyfer BBC 'Cardiff Singer of the World 2009', BBC Cymru.
- Ymchwilio i mewn i amryw o syniadau a rheolaethau defnyddwyr ar gyfer rhaglen 'The One Show', BBC Cymru
- Dwi wedi meddwl am ddau syniad sydd wedi cyrraedd y cam pitsio ar gyfer 'The One Show'.
- Dysgu i wrando ar sgriptiau
- Trefnu lluniau ar gyfer ffilm Avid fer.
Pa agwedd / elfennau o’r gwaith wyt ti wedi’i fwynhau fwyaf?
- Gweithio fel rhan o dîm a dysgu trwy ein gilydd.
- Gweithio gyda phobl brofiadol yn y BBC. Dwi wedi dysgu llawer ganddyn nhw.
- Dysgu sgiliau ymchwil gan gynnwys casglu gwybodaeth, cael hyd i gyfranwyr ac ymchwilio ar gyfer rhaglenni.
- Arsylwi’r holl brosiect fel trefnu a darlledu gwybodaeth digwyddiadau mawr, gan gynnwys 'Cardiff Singer of the World 2009'.
Lle wyt ti’n gweld dy hun ymhen 10 mlynedd? Pa bethau yr hoffet ti ei gyflawni erbyn hynny?
Dwi’n bwriadu dilyn gyrfa o Ymchwilydd i Gynorthwyydd Cynhyrchu i Gynhyrchydd. Yna, ymhen deng mlynedd, hoffwn i ddechrau fy nghwmni cynhyrchu fy hun sy’n canolbwyntio ar ddatblygu a chynhyrchu dogfennau teledu rhwng y DU a Tsiena.
Oes gen ti unrhyw sylwadau pellach?
Mae cynllun Cyfle wedi agor drysau i mi sydd wedi fy ngalluogi i wneud cysylltiadau a rhwydweithio yng Nghymru. Mae hefyd wedi rhoi’r cyfle i mi ddatblygu a dangos fy ngallu. Dwi’n cynghori unrhyw newydd ddyfodiaid sy’n frwdfrydig am ddatblygu gyrfa yn y diwydiant teledu a ffilm i fynd ar gynllun Cyfle.
