Cronfa Llawrydd Skillset Cymru
Yn anffodus, nid yw'r Gronfa yma ar agor ar hyn o bryd, ond mae'n bosib y bydd yn ail-agor yn gynnar ym mis Medi. Cadwch lygad allan am fwy o newyddion yn fuan.
Am wybodaeth ynglŷn â ffynonellau ariannu eraill ewch i wefan Skillset.
___________________________
Cronfa Hyfforddi A Datblygu Graddedigion GO Wales
Gall busnesau bach a chanolig yng Nghymru hawlio hyd at £1,500 at gost hyfforddi graddedigion sy’n aelodau o’u staff drwy raglen GO Wales.
Maent yn gallu ariannu hyfforddiant a fydd o fudd amlwg i fusnes yng Nghymru. Unwaith y bydd cais wedi ei gymeradwyo gall GO Wales ariannu hanner cost y cwrs, hyd at £1,500 i bawb â gradd sy’n gymwys.
Ariannu i gyrsiau lefel uwch (Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (NQF) lefel 4 ac uwch)
I gyrsiau lefel uwch gall GO Wales ariannu 50% o’r gost hyd at uchafswm o £1,500 a bydd y busnes yn talu am weddill y gost.
Byddai angen i’r hyfforddi arwain at gymhwyster lefel uwch i’r unigolyn sy’n cymryd rhan.
CLICIWCH YMA AM FWY O WYBODAETH AR GRONFEYDD GO WALES