Cyrsiau Llawn a Rhan Amser

Cyrsiau Llawn a Rhan Amser
Hyfforddiant Arbenigol

Gall Cyfle gynnig cyfleoedd i unigolion proffesiynol sydd eisoes yn y diwydiant i arbenigo ymhellach yn eu maes dewisol. Mae hyn drwy gynlluniau llawn a rhan amser wedi’i ganolbwyntio ar ddiwydiant.

Gall y cynlluniau gynnwys hyfforddiant mewnol o fewn amgylchedd stiwdio a gwaith ar leoliad.

Gweler isod am gyrsiau hyfforddi sydd yn cael eu rhedeg ar hyn o bryd i bobl broffesiynol:

Cynlluniau yn y gorffennol


• Cynllun Film Cyfle ar gyfer Cynhyrchwyr, mewn cydweithrediad â Boom Films
(Grŵp Boomerang)
• Labordai Animeiddio Digidol Cyfle 1 a 2.

RHAGLEN MENTORA LEFEL UCHEL AR GYFER SGRIPTWYR TELEDU - 6 Mis

RHAGLEN MENTORA LEFEL UCHEL AR GYFER SGRIPTWYR TELEDU
MAE'R DYDDIAD CAU AR GYFER Y CWRS YMA WEDI PASIO - POB LWC OS YDYCH CHI WEDI YMGEISIO! Cyfle unigryw am fentora 1 i 1 (rhan amser) ar gyfer 6 'sgwennwr teledu profiadol yng Nghymru – yn cynnig mynediad i fentoriaid Lefel Uchel o’r diwydiant ar draws genrau drama, comedi a phlant, yn ogystal â pump gweithdy datblygu dau ddiwrnod gyda 'sgwennwyr uchel-ael sydd wedi 'sgwennu rhai o’r dramâu mwyaf poblogaidd ar deledu rhwydwaith. Nid yn aml daw cyfle fel hyn mewn bywyd.

CYNLLUN HYFFORDDI ATODIAD 8 WYTHNOS I 4 RHEOLWR ASED CYFRYNGOL

CYNLLUN HYFFORDDI ATODIAD 8 WYTHNOS I 4 RHEOLWR ASED CYFRYNGOL
Mae'r cynllun hwn yn rhedeg o fis Mai tan mis Gorffennaf 2010. Cynllun sydd a’r bwriad o hyfforddi pedwar Rheolwr Ased Cyfryngol ar gyfer archifau. Mae'r fenter gwych hwn yn cynnig y cyfle i unigolion talentog i ennill profiad go iawn yn y diwydiant; hyfforddi mewn swydd, datblygu sgiliau arbennig, a derbyn cefnogaeth ac arweiniad parhaus gan bobl broffesiynol sy’n gweithio yn y diwydiant. Cliciwch yma i ddarllen mwy am y cynllun, ac i ddysgu mwy am y pedwar hyfforddai talentog sydd bellach wedi dechrau ar eu taith.

Cyrsiau Byrion

Cyrsiau datblygu'n broffesiynol!

Cefnogaeth Ariannol

Ffyrdd o ariannu'ch hyfforddiant

Bookmark and Share