Tystysgrif Lefel 2 ar gyfer Anwytho yn y Diwydiant Clyweled (7502)
Trosolwg
Mae’r cymhwyster Lefel 2 hwn wedi ei gynllunio i gynnig trosolwg o’r gofynion wrth weithio yn y diwydiant clyweled. Mae’r Dystysgrif yn canolbwyntio ar gyflwyno gwybodaeth realistig fydd yn paratoi dysgwyr ar gyfer y realiti o weithio yn y diwydiant a’u gwneud yn fwy cyflogadwy.
Pwy ddylai fynychu?
Mae wedi ei anelu tuag at gyn-fynediaid (unigolion, gweithwyr llawrydd a myfyrwyr sydd am wybodaeth gyffredinol i’w helpu ar gyfer gweithio yn y sector) a newydd-ddyfodiaid, llawrydd neu gyflogedig.
Yr Unedau
Pedair uned sydd i’r cymhwyster llawn. Fod bynnag gall ymgeiswyr sydd ond yn cwblhau rhai o’r unedau dderbyn Tystysgrif Credyd am bob uned yn unigol.
Uned 001 Cyflogaeth a datblygiad proffesiynol yn y diwydiant clyweled
Uned 002 Ymarferion gweithio a phrotocol yn y diwydiant clyweled
Uned 003 Technoleg gyfoes a thechnoleg newydd yn y diwydiant clyweled
Uned 004 Iechyd a diogelwch yn y diwydiant clyweled
Uned Iechyd a Diogelwch
Mae Cyfle yn paratoi cyrsiau Uned004 un diwrnod yn rheolaidd fel cymhwyster cychwynnol mewn Iechyd a Diogelwch i unigolion sy’n newydd i’r diwydiant.
Aseswr y cwrs yw David Ellis Jones.