Animeiddio

Hyfforddiant Animeiddio

Mae ein cynlluniau animeiddio digidol yn cael eu rhedeg gan y diwydiant ar gyfer y diwydiant ac wedi eu cynllunio i baratoi hyfforddeion ar gyfer swyddi crefftus yn y diwydiant animeiddio cynyddol.
Gyda’r nod o gyfuno animeiddio gyda thechnoleg newydd, mae’r cynllun yn darparu hyfforddiant o’r safon uchaf mewn ac animeiddio digidol sy’n cwrdd ag anghenion y diwydiannau ffilm, teledu, animeiddio a’r cyfryngau rhyngweithiol yng Nghymru.

Mae’r Stiwdio Hyfforddi Animeiddio Digidol a’r Cynllun Labordy (LAB) wedi cael eu datblygu mewn cydweithrediad â’r cwmnïau animeiddio Calon, Dinamo a Griffilms, er mwyn sicrhau eich bod yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol a diweddaraf er mwyn cyflogaeth ar lefel mynediad.

Dysgu Ymarferol

Mae’r cynlluniau wedi eu datblygu i ganolbwyntio ar:

  • Darparu hyfforddiant ar gyfer ystod eang o yrfaoedd yn y diwydiant animeiddio
  • Darparu’r diwydiant animeiddio gyda gweithlu dawnus, gwybodus ac entrepreneurial
  • Datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau’r diwydiant animieiddio.
  • Darparu sgiliau bywyd go iawn
  • Darparu unigolion gyda chysylltiadau, mentora a chyngor proffesiynol.
  • Darparu unigolion gyda sgiliau entrepreneuraidd a llawrydd.

Dydy Cyfle ddim mewn sefyllfa i addo bod hyfforddeion yn cael eu cyflogi yn syth ar ôl yr hyfforddiant. Ond, blwyddyn ddiwethaf, cafodd tua 90% o’r hyfforddeion hyd i waith perthnasol yn y diwydiant yn dilyn cynlluniau Cyfle.

Gweler i’r chwith am wybodaeth am hyfforddwyr.

NID OES CYNLLUNIAU NEWYDD DDYFODIAID YN CAEL EU CYNNAL AR HYN O BRYD. I FOD YMYSG Y CYNTAF I DDERBYN GWYBODAETH AM GYRSIAU NEWYDD, COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYR EBOST YMA.

GELLIR HEFYD DILYN CYFLE AR TWITTER A FACEBOOK -

Follow Cyfle on Twitter

Teledu

Hyfforddiant mewn teledu!

Ffilm

Hyfforddiant ar gynhyrchiadau ffilm!

Animeiddio

Hyfforddiant diwydiannol!

Amlblatfform a Rhyngweithiol

Hyfforddiant Mewnol!

Bookmark and Share