Mae cynlluniau ffilm llawn amser Cyfle yn cynnig cyfleoedd cyffrous i newydd ddyfodiaid sydd â diddordeb brwd mewn gweithio yn y diwydiant ffilm.
Mae Cyfle’n gweithio’n agos iawn gyda’r diwydiant ffilm yn y DU i ddarparu hyfforddiant galwedigaethol ar gynyrchiadau ffilm, cyfleoedd i rwydweithio a mentora gan bobl o’r diwydiant.
Yn aml, mae’r cynlluniau’n cynnwys y canlynol:
- Cwrs rhagarweiniol dwys sydd yn para mis yng nghanolfan hyfforddi Cyfle Caerdydd;
- Lleoliadau ar gynyrchiadau ffilm ar hyd y DU;
- Cyllid ar gyfer mynychu cyrsiau byrion allanol;
- Rhaglen gloi, sydd yn cynnwys cyngor gyrfaol ar ysgrifennu CV, sgiliau marchnata a negydu; a chyngor ar weithio’n llawrydd;
- Cyfle i weithio tuag at Dystysgrif Ragarweiniol City and Guilds y Diwydiant Clyweled.
Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant, bydd gan yr hyfforddeion y sgiliau i weithio yn eu maes arbenigol o fewn y diwydiant ffilm. Bydd ganddynt sgiliau trosglwyddadwy er mwyn gweithio yn y diwydiant teledu hefyd.
Er nad yw Cyfle’n gallu gaddo bod gwaith ar gael i hyfforddeion ar ôl yr hyfforddiant, mae canran uchel ohonynt yn cael hyd i waith perthnasol wedi'r cwrs orffen.
NID OES CYNLLUNIAU NEWYDD DDYFODIAID YN CAEL EU CYNNAL AR HYN O BRYD. I FOD YMYSG Y CYNTAF I DDERBYN GWYBODAETH AM GYRSIAU NEWYDD, COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYR EBOST YMA.
GELLIR HEFYD DILYN CYFLE AR TWITTER A FACEBOOK -
