Hyfforddiant Aml-Blatfform a'r Cyfryngau Rhyngweithiol
Mae cynlluniau Cyfle wedi’u datblygu mewn cydweithrediad â’r diwydiant yng Nghymru. Mae’r holl gynlluniau hyfforddi’n sicrhau bod yr unigolion yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol a diweddaraf er mwyn cyflogaeth yn y diwydiant. Y diwydiant sy'n cynghori ac yn llywio’r hyfforddiant ac maent wedi eu cynllunio i roi dealltwriaeth a phrofiad real o’r diwydiant drwy hyfforddiant ymarferol arwaith yn hytrach na thrwy ymarferion academaidd / theori. Mae’r cynlluniau yma’n cael ei redeg drwy gyfres o friffiau creadigol wedi eu gosod a’u hasesu gan bartneriaid priodol o’r diwydiant.
Dysgu Ymarferol
Mae’r cynlluniau’n cael eu datblygu i ganolbwyntio ar:
- Darparu hyfforddiant ar gyfer ystod eang o yrfaoedd yn y sector cyfryngau.
- Darparu’r diwydiant gyda gweithlu dawnus, gwybodus ac entrepreneurial.
- Datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau myfyrwyr diwydiant y cyfryngau.
- Darparu sgiliau bywyd go iawn.
- Darparu unigolion gyda chysylltiadau, mentora a chyngor proffesiynol.
- Darparu unigolion gyda sgiliau entrepreneuraidd a llawrydd.
Nid oes posib i Cyfle addo gwaith ar gyfer hyfforddeion yn syth ar ôl yr hyfforddiant. Er hyn, blwyddyn ddiwethaf, cafodd tua 90% o’r hyfforddeion hyd i waith perthnasol yn y diwydiant yn dilyn cynlluniau Cyfle.
Gweler i’r chwith am Astudiaethau Achos a gwybodaeth am hyfforddwyr.