CYNLLUN CYNHYRCHU AML-BLATFFORM I GREWYR TELEDU

Manylion y Cwrs

MAE'R DYDDIAD CAU AR GYFER Y CWRS YMA WEDI PASIO - POB LWC OS YDYCH CHI WEDI YMGEISIO! Cofiwch gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr am y wybodaeth ddiweddaraf ar gynlluniau a cyrsiau y dyfodol.

CWRS HYFFORDDI YMARFEROL ER MWYN GWEITHIO YN Y BYD AML-BLATFFORM

Cael y sgiliau i greu cynnwys arloesol eang creadigol a ffeithiol

Hyfforddiant YMARFEROL a dosbarthiadau meistr gan bobl broffesiynol o’r diwydiant. Cwrs dwys, ymarferol sy’n gyfle i suddo i’r Byd Aml-blatfform

Beth yw e?

Mae’r Cynllun Cynhyrchu Aml-Blatfform i Grewyr Teledu yn gwrs dwys 4-mis, sy’n cael ei redeg gan Cyfle, yn arwain at Dystysgrif Ôl-Raddedig Proffesiynnol, Galwedigaethol yn y Diwydiannau Creadigol.

****

Pam dyliwn ei wneud?

Bydd yn eich arfogi gyda’r sgiliau i gynhyrchu cynnwys manwl, cyffrous. Bydd yn eich galluogi i fynd at unrhyw gwmni cynhyrchu a cynghori, cefnogi a chreu cynnwys Aml-Blatfform anhygoel ar gyfer eu cynhyrchiadau.

Cewch y gallu i ymestyn cyrhaeddiad cynhyrchiad tu hwnt i’r set deledu. Byddwch yn adeiladu bydoedd arlein cymhleth a manwl, a byw a ffynnu o fewn y rhwydweithiau digidol, cymunedol, gan arwain cynulleidfa ar hyd sawl llwybr cysylltiedig ar draws llwyfannau niferus.

****

Beth byddaf yn ei ddysgu?

Byddwch yn ymchwilio, dysgu am a defnyddio’n ymarferol amryw o dechnegau arloesol ac offer digidol, rhyngweithiol - i greu cynnwys cyffrous, hudol a gwefreiddiol ar gyfer y byd aml-blatfform.

Dysgwch sut i saethu, ffurfio ac encodio cynnwys ar gyfer yr Aml-blatfformau.

****

Yn fyr...

O ddilyn y cwrs, byddwch yn gosod eich hun yn gadarn ar flaen y gad yn y diwylliant ffeithiol, trwythedig, creadigol a chyfranogol.

· Cwrs hyfforddi 4 mis dwys

· Cyfle i wethio ar briffiau o’r diwydiant

· Wedi ei leoli yng Nhaerdydd

· Cymhwyster cydnabyddedig

· Cost mynychu’r cwrs fydd £1000 y person (CLICIWCH YMA am wybodaeth am y cymorth ariannol allai fod ar gael i chi)

****

YM MYD CYSTADLEUOL DWYS Y CYFRYNGAU,

BYDD Y CWRS YMA YN RHOI I CHI'R SGILIAU I FOD AR FLAEN Y GAD!

****

Ydw i’n Gymwys?

Rydym yn gwahodd ceisiadau gan unigolion brwdfrydig sy’n cyflawni’r meini prawf canlynol –

  • Wedi cwblhau Gradd gyntaf yn llwyddiannus (gradd isaf o 2:2)

NEU

 phrofiad proffesiynol a galwedigaethol yn y Diwydiannau Creadigol (teledu, ffilm, cyfryngau rhyngweithiol)

  • Croesewir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg – bydd cyfleon i gynhyrchu gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Mae Cyfle yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir

****

Rydw i am geisio…

DARLLENWCH Y DOGFENNAU CANLYNOL CYN CWBLHAU'R FFURFLEN GAIS OS GWELWCH YN DDA (cliciwch ar bob cyswllt i gael y wybodaeth)

- Cwestiynnau Gofynnwyd yn Aml (FAQ's)

- Gwybodaeth am y Cynllun

- Proffil Hyfforddai (am bwy 'dyn ni'n chwilio?)

****

· Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12pm, 24/02/2010

· Cynhelir cyfweliadau yn ystod wythnos yr 08/03/2010

· Dyddiad dechrau’r cynllun: 12/04/2010

****

Cyswllt - 029 2046 5533 / mptv@cyfle.co.uk

****

Ariannir y cynllun hwn gan S4C, TAC, Skillset Academi+ Skillset a HEFCW a cefnogir gan Skillset a’r ATRiuM

S4C copyTAC_Logoacademiplus_logo_k
hefcw_logo

Skillset CymruAtrium logo2


RHYNGWEITHIO

Facebook - Hyfforddiant Cyfle Training

Twitter - Cyfle

Blogger - Hyfforddiant Cyfle Training

Teledu

Hyfforddiant mewn teledu!

Ffilm

Hyfforddiant ar gynhyrchiadau ffilm!

Animeiddio

Hyfforddiant diwydiannol!

Amlblatfform a Rhyngweithiol

Hyfforddiant Mewnol!

Bookmark and Share