Teledu

Training for TV
Hyfforddiant Teledu: Newydd Ddyfodiaid

Ers 1986, sylfaen pennaf gweithgareddau Cyfle oedd hyfforddiant teledu ar gyfer newydd ddyfodiaid. Hyd y cynlluniau hyfforddi yw rhwng 6 a 12 mis ac maent wedi eu cynllunio ar y cyd gyda chwmnïau teledu, darlledwyr ac arianwyr. Mae cynlluniau felly’n newid ac yn addasu’n gyson. Gweler isod am restr o gyrsiau mae Cyfle yn eu rhedeg ar hyn o bryd!

Dysgu Ymarferol

Mae’r cynllun yn darparu hyfforddiant ymarferol gyda thâl i unigolion brwdfrydig. Mae’r hyfforddiant hefyd yn cynnwys:

  • gweithio ar brosiect ymarferol yn ystod gwrs ragarweiniol dwys,
  • datblygu cynllun hyfforddi cynhwysfawr,
  • mentora gan bobl broffesiynol o’r diwydiant,
  • cyrsiau byrion allanol,
  • rhaglen gloi wedi’i redeg gan ymarferwyr proffesiynol.

Dydy Cyfle ddim mewn sefyllfa i addo bod hyfforddeion yn cael eu cyflogi yn syth ar ôl yr hyfforddiant. Ond, blwyddyn ddiwethaf, cafodd tua 90% o’r hyfforddeion hyd i waith perthnasol yn y diwydiant teledu yn dilyn cynlluniau Cyfle.

Gweler i’r chwith am Astudiaethau Achos a gwybodaeth am hyfforddwyr.

Teledu, film, animeiddio, cyfryngau rhyngweithiol, hyfforddiant cyfryngau, sgiliau, datblygu proffesiynol parhaus, datblygiad proffesiynol parhaus, datblygu, talent, cyfryngau newydd, cyfryngau digidol, cyrsiau, llawn amser, rhan amser, llawrydd, diwydiannau’r cyfryngau creadigol, Cymru, diwydiant, dysgu, addysg, Cymry, Cymraeg, siaradwyr Cymraeg, cynyrchiadau, cynyrchiadau, briffiau diwydiannol, amrywiaeth, dwyieithog, cydraddoldeb.

CYNLLUN HYFFORDDI 6 MIS ADRAN GELF GYDA BBC CYMRU

CYNLLUN HYFFORDDI 6 MIS ADRAN GELF GYDA BBC CYMRU
MAE'R DYDDIAD CAU AR GYFER Y CWRS YMA WEDI PASIO - POB LWC OS YDYCH CHI WEDI YMGEISIO! - Os ydych chi wedi bod yn edrych am ffordd o lansio’ch gyrfa mewn cynhyrchu drama, gallai’r cynllun hyfforddi hwn gynnig yr ateb. Mae’r cyfle hwn yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth rhwng Cyfle a BBC Cymru Wales. Rydym yn chwilio am 4 hyfforddai i weithio ar ddramâu gwahanol gall gynnwys Upstairs, Downstairs; the Fabulous Baker Boys a Doctor Who.

CYNLLUN HYFFORDDI 10 MIS - AMRYWIAETH gyda BBC Cymru Wales

CYNLLUN HYFFORDDI 10 MIS - AMRYWIAETH gyda BBC Cymru Wales
MAE'R DYDDIAD CAU AR GYFER Y CWRS YMA WEDI PASIO - POB LWC OS YDYCH CHI WEDI YMGEISIO! - Os ydych chi wedi bod yn chwilio am ffordd o lansio’ch gyrfa a bod gennych angerdd dros ddarlledu, ac eisiau gweithio gyda’r gorau, gallai’r cynllun hyfforddi unigryw hwn gynnig yr ateb. Rydym yn chwilio am 3 hyfforddai i fod yn rhan o’r fenter wych hon yn cynnig cyfle delfrydol i unigolyn dawnus ennill profiad go iawn o’r diwydiant.

Amrywiaeth 2 - 12 mis

Amrywiaeth 2
Cynllun ar gyfer unigolion o gefndiroedd croenddu ac ethnig a phobl anabl.

Lleoliadau Cwmni 2 - 12 mis

Lleoliadau Cwmni 2
Cynllun hyfforddi galwedigaethol mewn teledu ar gyfer naw o siaradwyr Cymraeg.

Teledu

Hyfforddiant mewn teledu!

Ffilm

Hyfforddiant ar gynhyrchiadau ffilm!

Animeiddio

Hyfforddiant diwydiannol!

Amlblatfform a Rhyngweithiol

Hyfforddiant Mewnol!

Bookmark and Share