Hyfforddwr Profiadol 
Mae gan Neil dros 27 mlynedd o brofiad fel golygydd gyda gwybodaeth helaeth mewn darlledu fideo ac ôl gynhyrchu. Mae o wedi gweithio ar raglenni ar hyd pob agwedd o ddarlledu, o fideos pop a phromos, i ddramâu a dogfennau, defnyddio ffilm a systemau Avid, Quantel ac Apple. Ar hyn o bryd, mae Neil yn gweithio fel Uwch Olygydd gyda S4C. Cyn hynny, gweithiodd am nifer o flynyddoedd fel golygydd llawrydd ar gyfer BBC Cymru, ITV a Channel 4 ynghyd a nifer o gwmnïau annibynnol eraill.
Hyfforddwr Apple Ardystiedig
Mae Neil wedi bod yn Hyfforddwr Apple Ardystiedig ar gyfer Final Cut Pro ers 2005 (gan ychwanegu ‘Motion’ yn 2007) ac ers hynny, mae wedi bod yn darparu hyfforddiant i olygyddion llawrydd a staff cynhyrchu yng Nghymru ar gyfer cwmnïau fel Cyfle, Skillset Cymru, Derwen ac ITV Cymru.
Gyda phrofiad ym mhrif agweddau fformatau HD a’u defnydd o fewn Stiwdio Final Cut a dealltwriaeth gynhwysfawr o dechnegau ‘transcoding’ a chywasgu, mae profiadau Neil yn hanfodol ar gyfer amgylchedd aml-fformat heddiw.
Mae Neil yn cynnal hyfforddiant Final Cut Pro ar ran Cyfle yn reolaidd.