Lab Animeiddio Digidol

 
 
 
 

Cliciwch yma i lawrlwytho ffurflen gais
Cliciwch yma i weld map o Ardaloedd Amcan 1

Cydnabyddiaeth gan y diwydiant

Mae’r cynllun hyfforddi hwn ar gyfer animeiddwyr sydd yn bresennol yn gweithio llawn amser neu yn llawrydd o fewn y Diwydiant Animeiddio yng Nghymru. Mi fydd y cynllun yn darparu rhaglen hyfforddi strwythuredig uwch fydd â’i ffocws ar y Diwydiant Animeiddio CGI yng Nghymru.

Caiff ‘Lab Animeiddio Digidol’ ei gynnal gan y diwydiant er mwyn y diwydiant, cysyniad hyfforddi unigryw sydd wedi’i gynllunio gan Cyfle er mwyn gwella animeiddwyr proffesiynol gyda’r sgiliau i ddatblygu golygon eu gyrfa yn niwydiant animeiddio cynyddol Cymru.

Gan anelu at gyfuno animeiddio traddodiadol â thechnoleg newydd, mi fydd y cwrs hwn yn darparu hyfforddiant o ansawdd uchel mewn animeiddio digidol fydd yn mynd i’r afael ag anghenion y diwydiannau ffilm, teledu, animeiddio a’r cyfryngau rhyngweithiol yng Nghymru.

Datblygwyd ‘Lab Animeiddio Digidol' mewn cydweithrediad â’r cwmnïau animeiddio Calon, Dinamo a Griffilms, er mwyn sicrhau y cewch eich cyfarparu â’r sgiliau creadigol a thechnegol sydd eu hangen er mwyn ymateb a chyfrannu at orchmynion y farchnad yn y dyfodol.

Am bwy ‘rydyn ni’n chwilio?

Animeiddwyr profiadol sydd eisoes yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i greu gwaith wedi’i animeiddio, ond sydd hefyd ag awydd cryf i greu steil arloesol o animeiddio. Unigolion sy’n chwilio am y cyfle i ddatblygu a phrofi dulliau newydd mewn adloniant animeiddiedig sy’n cyfuno’r grefft â’r dechnoleg. Animeiddwyr sydd yn rhagweithiol wrth eisiau cydweithio a rhannu’u medrusrwydd animeiddio.

Sut y caf i fy hyfforddi?

Hyfforddiant llawn amser dros dri mis. Mi fydd y cynllun yn hybu gwerthusiadau beirniadol o syniadau creadigol drwy 'peer reviews' gyda rhwydwaith mentora gweithredol fydd wedi’i ddarparu gan y diwydiant animeiddio lleol. Mi fydd y meithriniad dysgu yn addysgiadol, yn ddeniadol ac yn berthnasol. Yn ystod y cynllun cewch eich hyfforddi gan ymarferwyr proffesiynol sydd yn gweithio o fewn y Diwydiant Animeiddio Cymraeg. Cewch ennill gwybodaeth flaengar o feddalwedd animeiddio fydd yn cynnwys MAYA, After Effects a Flash.

Beth fydd strwythur y cynllun?

Tri mis fydd hyd y cynllun gyda chwe lle ar gael. ‘Cynhyrchu Syniadau’ thematig fydd dwy wythnos gyntaf y cynllun - incubator studio er mwyn magu a chynnal datblygiad syniadau, wedi’i arwain gan unigolion sydd yn arbenigo mewn ‘meddwl yn greadigol’. Y bwriad yw datblygu un sgript yn barod i’w gynhyrchu; mi fydd y chwe animeiddiwr yna’n ffurfio tîm cynhyrchu yn union fel stiwdio animeiddio go iawn, a byddant yn cynhyrchu’r sgript i fod yn rhaglen beilot wedi’i animeiddio i’w ddosbarthu ar amryw blatfform cyfryngol. Caiff siaradwyr eu gwahodd i arwain gweithdai a dosbarthiadau meistr fydd yn ymarfer a thrafod yr holl agweddau sy’n rhan o greu llwyddiant animeiddiedig.

Cymhwyster

Mae’r holl amcanion, dysgu ac eraill, a ddosberthir yn y cwrs hwn am gyrraedd safonau'r unedau sy’n ofynnol gan ‘Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Animeiddio’ Skillset. Mae’r unedau’n ymdrin â’r prif alluoedd sydd wrth wraidd animeiddio.

Mae ‘Lab Animeiddio Digidol’ wedi ei ddatblygu er mwyn:

  • Darparu hyfforddiant ar gyfer amrywiaeth o yrfâu yn y diwydiant animeiddio.
  • Darparu gweithlu ar gyfer y diwydiant animeiddio sy’n llawn o wybodaeth, sgiliau ac entrepreneuriaeth.
  • Datblygu gwybodaeth, deallusrwydd a sgiliau’r diwydiant animeiddio.
  • Eich darparu â “sgiliau bywyd go iawn”.
  • Eich darparu chi â chysylltiadau, mentora a chyngor proffesiynol.
  • Eich darparu chi â sgiliau llawrydd ac entrepreneuraidd.

Sgiliau Proffesiynol

  • Synthesis o amrywiaeth o sgiliau, gwybodaeth ac ymarfer perthnasol i animeiddio.
  • Cymhwysiad gwybodaeth a sgiliau i sefyllfaoedd gwaith realistig o fewn y sector animeiddio.
  • Y gallu i gysylltu ac addasu i sefyllfaoedd annisgwyl o fewn y diwydiant animeiddio.
  • Y gallu i gymryd cyfrifoldeb dros eich hunan ac i reoli gweithgareddau’ch hunain ac eraill
  • Y gallu i ymchwilio yn annibynnol er mwyn gwella a datblygu’ch sgiliau
  • Y gallu i ymchwilio tueddiadau, datblygiadau a marchnadoedd newydd o fewn y diwydiant animeiddio yn annibynnol.
  • Y gallu i ymateb i newidiadau ac aml-dasgio.
  • Y gallu i weithio’n effeithiol fel rhan o dîm.
  • Y gallu i arloesi
Cynllun Hyfforddi Stiwdio Hyfforddi Animeiddio Digidol
Swyddi Hyfforddi Animeiddiwr – 2D Dylunio Llaw ,Animeiddiwr - 3D Cynnyrch Cyfrifiadurol
Hyd 3 mis
Lwfans Hyfforddi £325 yr wythnos

Mae Cyfle yn gyflogwr cyfle cyfartal. Dylai ymgeiswyr for dros 18 oed. Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr o ardaloedd Amcan 1 yng Nghymru yn unig a bydd y gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yn angenrheidiol.
Mae ‘Lab Animeiddio Digidol’ yn gynllun hyfforddi galwedigaethol llawn amser dros 3 mis, sydd wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â Calon, Dinamo a Griffilms, a chaiff ei gynnal yng nghanolfan ‘Busnes Creadigol Cymru’ yng Nghaerdydd. Bydd yr hyfforddiant o ansawdd uchel, yn “hands on” ac mi fydd yn eich darparu â sgiliau animeiddio digidol arbenigol ynghyd â sgiliau rheoli ac entrepreneuriaethol hanfodol, a fydd o gymorth mawr wrth ddatblygu’ch cyflogaeth yn y diwydiant animeiddio yng Nghymru. Mae hwn yn gyfle unigryw i unrhywun sydd â’u pryd ar Animeiddio Digidol.

Rydym yn chwilio am berson gyda’r nodweddion canlynol:

Sgiliau Allweddol: Animeiddiwr – 2D Dylunio Llaw

  • Sgiliau arlunio â llaw gwych.
  • Sgiliau animeiddio gwych.
  • Y gallu i ddangos nodweddion creadigol ac artistig.
  • Teimlad greddfol am symudiad ac amseru yn angenrheidiol.
  • Sgiliau arsylwi a thalent actio.
  • Y gallu i sylwi ar fanylion.

Sgiliau Allweddol: Animeiddiwr – 3D Cynnyrch Cyfrifiadurol

  • Gwybodaeth weithiol o becyn animeiddio 3D.
  • Y gallu i ddangos nodweddion creadigol ac artistig.
  • Teimlad greddfol am symudiad ac amseru yn hanfodol.
  • Sgiliau arsylwi yn angenrheidiol.
  • Y gallu i sylwi ar fanylion.

Sgiliau Cyffredinol:

  • Mwynhad o waith tîm, er mwyn rhannu gwybodaeth a syniadau.
  • Mentrus, dychmygus a brwdfrydig.
  • Y gallu i dderbyn cyfarwyddid a gweithio’n galed, erbyn terfynau amser, gan hefyd gynnal safon uchel o waith.
  • Cyfathrebu rhyngbersonol – gyda chydweithwyr ac yn enwedig â chleientiaid o’r diwydiant.
  • Sgiliau cyfathrebu da ar lafar.

Crynhoad cyffredinol o strwythur y cwrs:

  • Hyfforddiant dwys dros 3 mis o fewn awyrgylch creadigol.
  • Cynhyrchu briff creadigol ‘byd go iawn’ gan y diwydiant.
  • Hyfforddiant meddalwedd i safonau’r diwydiant.
  • Mentora mewn animeiddio gan bobol broffesiynol o’r diwydiant.
  • Gweithdai cyn-gynhyrchu, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu.
  • Gweithdai mewn tueddiadau animeiddio newydd sbon.
  • Gweithdai rheoli prosiect ac amser.
  • Gweithdai busnes a marchnata.
  • Ymweliadau arbenigol gan Animeiddwyr a Stiwdios Animeiddio.
  • Bydd yr ymgeisydd yn cynhyrchu darn portffolio o waith proffesiynol i’r diwydiant.

Cliciwch yma i lawrlwytho ffurflen gais
Cliciwch yma i weld map o Ardaloedd Amcan 1


logos
 
w: www.cyfle.co.uk
T: 029 2046 55 33