|
Mae Cyfle’n cynnig cynllun hyfforddi dwys pedwar mis o hyd mewn animeiddio digidol. Mae wedi’i gynllunio er mwyn hyfforddi tîm o chwech o animeiddwyr profiadol a chynnig hyfforddiant blaenllaw mewn cynhyrchu animeiddio digidol.
Bydd stiwdio hyfforddi unigryw yn cael ei sefydlu er mwyn annog cysyniadau creadigol sy’n ffres ac yn arloesol, i’w cynhyrchu ar ffurf ffilm fer o ragoriaeth animeiddio. Bydd y cynllun yn cael ei redeg yn fewnol, o dan arweiniad y diwydiant a gyda thiwtoriaid arbenigol.
Mae Cyfle’n chwilio am unigolion ar gyfer y swyddi hyfforddi canlynol:
Animeiddiwr - 3D Cynnyrch Cyfrifiadurol
Animeiddiwr - 2D Dylunio Llaw
Sylwer y disgwylir i bob ymgeisydd ar gyfer yr uchod feddu ar sgiliau animeiddio a phrofiad blaenorol o fewn y diwydiant.
Bydd y gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond ddim yn angenrheidiol.
- Telir Lwfans Hyfforddi Proffesiynol o £330 yr wythnos
- Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 18 Medi 2008
- Dyddiad dechrau’r cwrs: 3 Tachwedd 2008
Gofynnir i chi gynnwys esiampl o’ch gwaith animeiddio i’w amgáu gyda’r ffurflen gais.
Am swydd ddisgrifiad, cliciwch yma
Am ffurflen gais, cliciwch yma
|