LAB ANIMEIDDIO DIGIDOL yng Nghaerdydd
 
 

Mae Cyfle’n cynnig cynllun hyfforddi dwys tri mis o hyd mewn animeiddio digidol. Mae wedi’i gynllunio er mwyn hyfforddi tîm o chwech o animeiddwyr profiadol a chynnig hyfforddiant blaenllaw mewn cynhyrchu animeiddio digidol.
                                
Bydd stiwdio hyfforddi unigryw yn cael ei sefydlu er mwyn annog cysyniadau creadigol sy’n ffres ac yn arloesol, i’w cynhyrchu ar ffurf ffilm fer o ragoriaeth animeiddio. Bydd y cynllun yn cael ei redeg yn fewnol, o dan arweiniad y diwydiant a gyda thiwtoriaid arbenigol.

Mae Cyfle’n chwilio am unigolion ar gyfer y swyddi hyfforddi canlynol:

Animeiddiwr - 3D Cynnyrch Cyfrifiadurol
Animeiddiwr - 2D Dylunio Llaw

Sylwer y disgwylir i bob ymgeisydd ar gyfer yr uchod feddu ar sgiliau animeiddio a phrofiad blaenorol o fewn y diwydiant.

Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr o ardaloedd Amcan 1 yng Nghymru yn unig a bydd y gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond ddim yn angenrheidiol.

  • Telir Lwfans Hyfforddi Proffesiynol o £350 yr wythnos
  • Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 14 Chwefror 2008
  • Dyddiadau Cyfweld: 20 & 21 Chwefror 2008
  • Dyddiad dechrau’r cwrs: 31 Mawrth 2008

Gofynnir i chi gynnwys esiampl o’ch gwaith animeiddio i’w amgáu gyda’r ffurflen gais.

Am swydd ddisgrifiad cliciwch yma
I weld map o ardaloedd Amcan 1 cliciwch yma
Am ffurflen gais cliciwch yma

Mae Cyfle yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir.

 

Logos











 
w: www.cyfle.co.uk
T: 029 2046 55 33