PWY YDYN NI
 
 




Mae Cyfle wedi datblygu i fod yn borth mynediad i ystod eang o dalentau newydd ac yn Gwmni sydd yn cynnig cymorth hyfforddi ymarferol i weithlu'r diwydiant.

Cyfle yw Cwmni Hyfforddi y Diwydiant Teledu Ffilm a Rhyngweithiol yng Nghymru. Yn wreiddiol, sefydlwyd Cyfle ym 1986 i hyfforddi technegwyr, Cymraeg eu hiaith, ar gyfer y diwydiant teledu a sefydlwyd o ganlyniad i ddyfodiad S4C.

Yn ystod blwyddyn 2000 daeth Cyfle yn Gwmni hyfforddi Cenedlaethol ar gyfer y diwydiant drwy ennill statws fel Darparwr Hyfforddi Swyddogol Skillset ( y Cyngor Sector Sgiliau ).

Prif Bartneriaid Cyfle yw S4C, TAC (y Gymdeithas Fasnach ar gyfer y Diwydiant) ac yr Undebau (BECTU, Equity, Undeb y Cerddorion ac Undeb yr Awduron). Mae Cyfle yn cael ei reoli gan Fwrdd Rheoli sydd yn cynnwys cynrychiolaeth o blith y prif bartneriaid. Mae'r Bwrdd hefyd yn cynnwys cynrychiolaeth o Skillset Cymru, aelodau Rhyddgyfrannol y diwydiant, cynrychiolaeth o'r Diwydiant Rhyngweithiol ac hefyd Cymdeithas Fasnach PACT.

Mae holl weithgareddau hyfforddi Cyfle wedi cael eu cynnwys yn y wefan hon ond rydym yn datblygu yn gyson ac yn ychwanegu cynlluniau newydd yn gyson.

Mae'r ystod eang o gynlluniau yn cynnwys Ysgolion Haf ar gyfer oedrannau iau, cyfleon niferus i newydd ddyfodiaid ac hefyd cynlluniau i ddatblygu sgiliau y gweithlu proffesiynnol drwy gyrsiau byrion a chymorth arainnol.

Fel Cwmni Cenedlaethol mae gan Cyfle swyddfeydd a chanolfannau hyfforddi yng Nghaerdydd, Caernarfon a Llambedr Pont Steffan.

Prif nodweddion Cyfle yw ein cysylltiadau agos gyda Diwydiant, ein gallu i ymateb yn sydyn ac yn hyblyg i ofynion diwydiannol ac hefyd ein ymrwymiad i degwch a chyfleon cyfartal.

Ariennir Cyfle drwy sawl ffynhonell gan gynnwys S4C, Cwmniau Annibynnol (drwy lefi ar gynyrchiadau S4C) Cynlluniau strwythurol Skillset a'r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd. Mae Cyfle hefyd yn sicrhau arian o gyfeiriadau eraill ar gyfer cynlluniau penodol. Un engraifft o gynllun penodol yw Cynllun Hyfforddi Dimensiwn 10 lle sicrhawyd cyllid gan Y Cynulliad Cenedlaethol ac y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.